CYNFAS

Gwenno Robinson
5 Rhagfyr 2023

Yn Ein Llanw Ni

Gwenno Robinson

5 Rhagfyr 2023 | Minute read

Ysbrydolwyd y gwaith hwn gan ffotograffau David Hurn, sy’n portreadu diwylliant modern a thraddodiadol Cymru.

Fe ges i ’magu dafliad carreg o’r traeth, ym mhentre Porth Einon, ym mhen pellaf penrhyn Gŵyr. Os ydych chi’n ddigon amyneddgar i ddilyn troeon troellog yr A4188 ar hyd meingefn y penrhyn, fe gyrhaeddwch chi yn y pen draw. Y gred yw bod Porth Einon (fel mae Mam yn mynnu ynganu) wedi ei enwi ar ôl tywysog Cymreig o’r 11eg ganrif. Mae’n debyg i Einon adeiladu castell yn y pentref, ond does dim gweddillion wedi cael eu canfod erioed.

O ganol y 1660au, daeth incwm pennaf trigolion y pentre o smyglo, ac mae’r arwyddion yn dal yma – os ydych chi’n gwybod ble i edrych. Hollt yn wyneb y clogwyn ger Overton Mere yw Culver Hole. Mae’n debyg iddo gael ei adeiladu yn y 13eg neu’r 14eg ganrif, ac mae si am dwnnel cudd i gludo contraband i’r halendy, sy’n adfail heddiw. Ac enw addas un o’r tafarndai lleol yw The Smugglers, lle bydd sŵn y peiriant karaoke i’w glywed am filltiroedd bob nos Fawrth.

Heddiw, pysgod mewn cytew cwrw a thatws wedi’u ffrio yw incwm pennaf Porth Einon. Mae dwy siop sglodion yma hyd yn oed. Drws nesa i’w gilydd. Mae un yn well na’r llall, ond bydd yn rhaid i chi ddarganfod pa un ei hun.

Ganol haf, byddan nhw’n gwneud eu ffortiwn bob dydd o’r cannoedd o dwristiaid sy’n heidio i’r pentre. Bydd rhai yn teithio o Abertawe neu’r Cymoedd cyfagos, eraill o bellafoedd gogledd Lloegr neu’r Alban hyd yn oed.

Ers bod yn ddigon hen i weithio, dwi a ’nau frawd wedi bod yn ennill ein tamaid yn rhoi o fusnesau prin y pentre. Twm yn ffrio sglodion, Gruff yn gwerthu wetsuits yn y siop syrffio, a fi yn arllwys llaeth wedi stemio i gwpanau o espresso yn yr unig gaffi. Byddwn ni’n dechrau gweithio ddiwedd Ebrill neu ddechrau Mai. Erbyn Medi bydd y torfeydd wedi dechrau taweli, Haf Bach Mihangel yn mynd a dod, ac erbyn i ni fynd yn ôl i’r ysgol neu’r brifysgol, mae’r contract wedi dod i ben; caead dros y ffenestri a’r drysau ar glo.  

Tan yr haf nesaf wrth gwrs.  

Bydd poblogaeth Porth Einon yn amrywio gyda’r tymhorau hefyd. Dros y gaeaf mae’n hofran dan rhyw bum cant, cyn dyblu, a threblu hyd yn oed gydag ymwelwyr yr haf. Bron fod gan y safleoedd gwersylla fonopoli dros y pentref. Ers yn blentyn, dwi wedi dysgu beth i’w ddweud pan fydd ymwelwyr yn holi am gyfarwyddiadau i un o’r pedwar gwersyll: Skysea, Newpark, Bank Farm a Burrows.  

Bydd yr un wynebau’n dychwelyd bob blwyddyn, a’r carafanau yn llenwi’n raddol o ŵyl banc y Pasg cyn gwagio eto ym mis Medi.

Dyna fel mae hi bob blwyddyn ym Mhorth Einon. Chwe mis o waith, chwe mis o gicio sodle.

Llanw yn llythrennol yw’r gair am gynnydd a chynni cyson y môr a’i donnau. Ond yn nhafodiaith de Cymru, mae llanw hefyd yw golygu llenwi.  

Gallech chi ddweud bod gan Borth Einon ei lanw mewnol ei hun. Mae’n dibynnu ar heidio’r twristiaid dros yr haf i’w gadw dros fisoedd hir o aeafgysgu. Ond mae’n flwyddyn gymysg i’r pentrefwyr. Roedd y patrwm yn siwtio fi a ’mrodyr i’r dim. Ar ddiwedd yr haf bydden ni’n mynd yn ôl i’r ysgol neu’r brifysgol.  

Dianc fydd rhai, fel y twristiaid, i dreulio’r gaeaf yn y trofannau. Aros fydd y gweddill drwy’r gaeaf, yn dyst i greulondeb garw stormydd yr arfordir.

Llanw all hanner y pentre yn unig ei weld.


Share


More like this