CYNFAS

Neil Lebeter
21 Chwefror 2024

Gareth Griffith: Ystafell yr Artist

Neil Lebeter

21 Chwefror 2024 | Minute read

"Gallwn i sefyll ac edrych ar un gornel o hwn..."

A corner of the artist's room in Paris
JOHN, Gwen
© Amgueddfa Cymru

Rydw i a Gareth yn orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn sefyll o flaen paentiad Gwen John pan mae e’n datgan hyn. Mae gan bractis Gareth iaith weledol ei hun, un sy’n hynod ac yn gwbl unigryw. Mae presenoldeb ei waith yn ddigyfaddawd – mae’n gwbl bendant – ond mae hefyd yn anffurfiol, yn ddi-lol ac yn groesawgar. Mae ei waith yn dathlu lliw, defnyddiau a chreu er mwyn creu, ac ar yr un pryd mae’n hynod bersonol; yn dwyn i gof ddigwyddiadau ac yn ymgorffori gwrthrychau go iawn o'i fywyd. Mae rhai o'r penodau yma, fel y cyfeiriadau cyson at ei amser yn byw ac yn gweithio yn Jamaica ar ddechrau'r saithdegau, yn syfrdanol. Yn fwy na dim, mae ei bractis yn llawn rhyddid a chreadigrwydd di-ben-draw na all y rhan fwyaf o artistiaid ond breuddwydio amdanyn nhw.

Ond mae yna hefyd graffter yn sail i'r cyfan – nid nostalgia a mympwy yw hyn. Mae haenau o gyfeiriadau a gwybodaeth hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol ffyrnig yn sail i'r gwaith; a dyna pam wnaeth sylw Gareth am baentiad Gwen John aros yn y cof. Byddai e’n gallu sefyll ac edrych ar un gornel o gampwaith gan Gwen John a dweud rhywbeth nad oeddech chi’n ei wybod o’r blaen, a dyna pam mae’n bleser treulio amser gydag e. Mae'n artist sy'n cynhyrchu rhai o weithiau gorau ei yrfa, gyda dros 80 mlynedd o wybodaeth a phrofiad y tu ôl iddo.

Bertorelli, 2019
GRIFFITH, Gareth
© Gareth Griffith/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Bertorelli: Gwaith allweddol

Tra roedden ni yn yr Amgueddfa, dyma ni hefyd yn edrych ar ei waith, Bertorelli (2019), a gasglwyd gan Amgueddfa Cymru yn 2020. Roedd yn rhan o’i arddangosfa unigol ddiweddar Trelar, aeth ar daith i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Tŷ Pawb, Oriel Myrddin ac Oriel Davies. Mae Bertorelli yn un o’i weithiau diweddar allweddol; y gwrthrychau canfod wedi'u hail-greu, eu hailbwrpasu a'u paentio i mewn i'r gwaith fel rhyw fath o fywyd llonydd sy’n torri’r bedwaredd wal. Mae hen bortread o ryw frenin Eidalaidd neu'i gilydd yn cael ei ail-lunio ac yna'n cael ei ail-greu yn ôl i'r paentiad canolog. Mae'r gwaith yn bersonol, ac yn cyfeirio at y Bertorellis; teulu Eidalaidd oedd yn berchen ar siop hufen iâ yng Nghaernarfon y byddai Gareth yn ymweld â i yn blentyn. Gwaith ei fab, Ioan, yw’r pen clai i’r chwith a greodd pan oedd yn yr ysgol, wedi’i baentio yn ôl i waith ei dad dros 30 mlynedd yn ddiweddarach. Mae llinynnau naratif yn plethu drwy’r gwaith, y cyfan wedi’i gysylltu drwy brofiad bywyd yr artist.

Mae yna hiwmor hefyd. Ble mae'r bedwaredd faneg ar ochr dde y paentiad? Mae ganddon ni ddwy faneg go iawn, ac un wedi'i phaentio – darlun perffaith o'r faneg go iawn gyntaf. Mae ein llygaid yn disgwyl gweld yr ail faneg wedi'i phaentio hefyd – felly ble mae hi? A yw hi wedi disgyn o’r gwaith rywsut? Edrychwch yn agosach ac fe welwch amlinell ohoni yno, lle gwag fel marciwr ar gyfer morthwyl sydd ar goll o silff offer.

Arddangos ledled Cymru

Nid chwim yw'r syniad na'r defnydd o ofod gwag chwaith. Mae Gareth yn pwyntio at y gyfres o weithiau pebyll o tua 2011 fel trobwynt yn ei waith diweddar. Mae gwagle’r babell, yr angen am ei noddfa a’r seibiant dros dro mae hi’n ei gynnig yn ddelwedd sy’n croniclo argyfwng mudo torfol ein hoes. Roedd sioe Lloches/Pabell yn Galeri Caernarfon ac Oriel Mostyn (2011/12) yn cynnwys nifer o weithiau, pob un yn ystyried strwythur y babell, ei swyddogaeth, a'i chysylltiad â lloches. Gwahoddwyd dros 30 o artistiaid a myfyrwyr i gyfrannu at yr arddangosfa drwy greu adeileddau pebyll 8” x 6” x 6” – gan greu Cae o Loches, gyda defnyddioldeb a chyfyngiad y briff artistig yn adlewyrchu'r strwythurau eu hunain.

Roedd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar gyfres o baentiadau o bebyll glas gan Gareth; a rheini’n seiliedig ar ffotograff o babell yr oedd y teulu Griffith yn ei defnyddio ar deithiau gwersylla yn ystod eu cyfnod yn byw yn Jamaica. Yn ystod un daith, ymosodwyd arnynt, a bu bron iawn i Gareth golli ei ben gyda machete – digwyddiad gwirioneddol ysgytwol a thrawmatig. Dechreuodd y gweithiau yma broses barhaus o “wynebu ysbrydion fy ngorffennol” yng ngeiriau Gareth. Mae wedi dychwelyd i'r profiad yma mewn nifer o weithiau a chyfresi dros y degawd diwethaf.

Rhannu profiad

Er bod y cyfeiriadau yma, a llawer o rai eraill, yn treiddio drwy lawer o waith Gareth, does na ddim ffordd benodol o ddehongli ei waith, ac nid yw Gareth yn mynd ati gyda dehongliad bwriadol chwaith. Yn aml bydd yn darganfod y gwaith bron fel y byddwn ni’n ei ddarganfod – rydyn ni i gyd yn rhan o hyn.

Cymerwch y gyfres ddiweddaraf o baentiadau crys fel enghraifft. Derbyniodd Gareth grys gwaith yn anrheg gan ei fab hynaf. Cafodd y crys ei olchi ar ddamwain gyda blanced ei gi – gan wasgaru blew dros y crys. Bu'r crys yn hongian yn ei stiwdio am gyfnod wedyn yn aros i gael tynnu’r blew oddi arno; ond daeth yn bresenoldeb yn y stiwdio – crys blew Gareth. Yn raddol, dechreuodd y crys gael ei ddarlunio a’i baentio wrth iddo ymwthio i ymwybod yr artist, gan dyfu’n y pen draw yn gyfres newydd o weithiau. Crys Blew Triptych oedd cyd-enillydd Biennale Paentio BEEP 2022. Mae'r hoelion sy'n ymddangos yn y triptych eto'n ychwanegiad greddfol, yn ategu’r presenoldeb rhyfedd yn y paentiadau hyn sy'n anodd ei ddiffinio. Mae gan y crys blew ei arwyddocâd ei hun, a gallai'r hoelion ddod â'u naws grefyddol eu hunain, ond dyma hefyd iwnifform yr artist, crys gwaith syml a gafodd ei olchi â blanced y ci drwy gamgymeriad.

Pwysigrwydd y stiwdio

Yr hyn rydw i’n ei gael o’r gyfres yw pwysigrwydd y stiwdio. Ar ôl ymddeol o ddysgu, adeiladodd Gareth stiwdio newydd y tu ôl i'w dŷ ym Mynydd Llandygai. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad ei fod wedi treulio’r degawd diwethaf ers hynny yn cynhyrchu rhai o weithiau gorau ei yrfa. Mae creu’r gofod hwnnw, y berthynas barhaus rhwng yr artist a’i amgylchfyd, yr archwiliad parhaus o broses, o ofod mewnol ac allanol, yn ganolog i bopeth ym mhractis Gareth.

Yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae’n dyfynnu’r dywediad gan Picasso mae’n dychwelyd ato’n aml; “Nid ceisio fydda i, ond canfod.”


Cafodd y testun hwn ei ysgrifennu'n wreiddiol ar gyfer yr arddangosfa Gareth Griffith: Ystafell Artist yn Storiel, Bangor.


Ysgrifennwyd pan oedd Neil Lebeter yn Uwch Guradur Celf Fodern a Chyfoes yn Amgueddfa Cymru rhwng 2018 a 2022. Mae gan Neil ddiddordeb yn y blociau adeiladu cymdeithasol a diwylliannol sy’n dylanwadu ar amgueddfeydd a diwylliant gweledol yn ehangach, a sut y gall celf gyfoes daflu golwg feirniadol ar y strwythurau hynny. Neil oedd curadur Rheolau Celf?, arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a sefydlodd y grŵp Codi’r Llen ar Gaffael gyda Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.

Arddangosfa Gareth Griffith: Ystafell Artist, Storiel © Gareth Griffith / Storiel

Arddangosfa Gareth Griffith: Ystafell Artist, Storiel © Gareth Griffith / Storiel

Arddangosfa Gareth Griffith: Ystafell Artist, Storiel © Gareth Griffith / Storiel


Share


More like this