CYNFAS

Carys Tudor, Curadur Digidol - Celf, Amgueddfa Cymru
21 Rhagfyr 2023

Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley

Carys Tudor, Curadur Digidol - Celf, Amgueddfa Cymru

21 Rhagfyr 2023 | Minute read

Yn ôl yn 2017, fe ddaeth newyddion am siop Lyfrau a Cherddoriaeth Oxfam ar Stryd y Castell yn Abertawe i frig tudalennau’r papurau newydd drwy ddweud bod hen ddigon o gopïau o nofel lwyddiannus Dan Brown The Da Vinci Code ganddyn nhw – fe grëwyd arddangosfa fach yn dangos faint yn union oedd yn cael eu rhoddi i’r siop, gan ofyn yn garedig:

You could give us another Da Vinci Code… But we would rather have your vinyl! We urgently need more records to keep our customers happy! …And to make more money for Oxfam!

Wedi iddo weld y penawdau a’r arwydd, fe aeth yr artist David Shrigley ati i gychwyn ar broject o’r enw Pulped Fiction. Gan benderfynu caffael 5000 copi o nofel Dan Brown, fe ddechreuodd Shrigley greu mwydion papur gan ddefnyddio’r llyfrau hyn, a’u defnyddio i gynhyrchu papur newydd. Wrth gydweithio gyda dylunydd llyfrau, fe benderfynodd Shrigley ail-greu nofel George Orwell, Nineteen Eighty-Four.

Mae’r ffurfdeip sydd wedi’i ddewis ar gyfer y rhifyn yn cydweddu gyda’r cyhoeddiad cyntaf o nofel Dan Brown The Da Vinci Code ond mae’n bosib gweld rhannau bach o’r testun gwreiddiol ar bob un o’r tudalennau. Cafodd pob lleuen lwch ei hailbwrpasu a’i defnyddio fel clawr. Mae Shrigley wedi arwyddo a rhifo pob copi o’r gwaith, yn ogystal â chynnwys sgrîn-brint wedi’i llofnodi.

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn ddigon ffodus i gaffael un o’r argraffiadau prin hyn o waith Pulped Fiction gan Shrigley, felly wrth i'r gwaith gyrraedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, roeddwn i am glywed mwy gan rai o’m cydweithwyr ynghylch sut fyddwn ni’n gweithio gyda’r darn fel rhan o’r casgliad Celf.

Pam benderfynodd Amgueddfa Cymru gaffael Pulped Fiction?

“Fel arfer mae caffaeliadau'r Amgueddfa yn datblygu dros fisoedd neu flynyddoedd hyd yn oed, o gyfnod o ymchwil a datblygiad, ond mae hwn yn enghraifft wych o gasglu ar ymateb cyflym.” Dywed Nicholas, Pennaeth Celf Gain a Chyfoes Amgueddfa Cymru.“Roedd yn bosib diolch i Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau yn Abertawe a oedd mewn cyswllt gyda rheolwr y siop Oxfam am broject Shrigley Pulped Fiction. Fe aeth Steph i'r digwyddiad lawnsio yn Theatr Volcano ac yna aeth i weld y gosodiad pop-up dros y penwythnos yn siop ar Stryd y Castell, gan lwyddo i gaffael un o'r copïau olaf o 1984 gan Shrigley i gael ei werthu yn y siop yn Abertawe ar gyfer Amgueddfa Cymru. Mae'r caffaeliad yn hawlio pwysigrwydd fel gwaith celf, gan hoelio cyfnod lle mae algorithmau, AI a thechnolegau cadw golwg yn rhoi prawf am ddemocratiaeth ac mae dychymyg dystopaidd Orwell yn gam yn agosach at realiti. Serch hynny mae'r caffaeliad hefyd yn cyfleu cyfnod pwysig yn hanes diwylliannol Abertawe pan roedd arwydd digrif mewn siop elusen wedi ysbrydoli project o bwys gan artist enwog yn ryngwladol.”

Pa fath o heriau ydy gwaith Shrigley yn eu cynnig yn guradurol?

“Mae gwaith Shrigley yn codi nifer o heriau curadurol, sy'n bennaf am fod y llyfr yn cael ei gofrestru fel darn o gelf yn hytrach na gwrthrych o hanes cymdeithasol neu lyfr yn llyfrgell yr Amgueddfa. Mae'r gwrthrych yn ei hanfod - y llyfr ei hun - yn un yn unig o elfennau neu nodweddion o broject dipyn ehangach lle roedd tîm o bobl yn cydweithio i gynhyrchu ac yn y cyfnodau olaf y cyfranogiad o gannoedd o aelodau'r cyhoedd wrth iddyn nhw rannu syniad yr artist drwy brynu'r llyfr.” Dywed Nicholas wrthyf. “Yn y ffordd yma, mae Pulped Fiction yn enghraifft bwysig o faint o artistiaid cyfoes sy'n penderfynu creu gwaith - yn gymysg o gelf gysyniadol, gosodwaith, celf gymdeithasol a pherfformiadol i gyfleu syniadau sy'n mynd tu hwnt i fateroldeb y gwaith celf. Felly her i'r Amgueddfa fydd sut y byddwn ni'n dangos y llyfr yn y dyfodol i gyfleu'r cymhlethdod hwn? Bydd dal a chofnodi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosib am y project fel bod curaduron a chadwraethwyr yn gallu dangos y llyfr mewn ffordd sy'n cyflwyno a holi cwestiynau ynghylch pam yn 2018 y gwnaeth Shrigley ddechrau ar y project yn elfennol i hyn. Yn union fel mae Pulped Fiction yn gwrthod dehongliad unigol, bydd dangos y gwrthrych yn codi gwahanol gwestiynau o'n cynulldeifaoedd yn ddibynnol ar amser a lleoliad ei ddangosiad. A fydd 1984 gan George Orwell yn parhau i gael ei ystyried fel un o nofelau mawr yr ugeinfed ganrif yn y ganrif nesaf? A fydd The Da Vinci Code gan Dan Brown yn angof neu wedi sicrhau ei le i ganon llenyddol newydd? A fydd nofelau papur yn dal yn cael eu hargraffu?”

Beth yw’r ffordd orau o ofalu am waith David Shrigley Pulped Fiction?

Es i draw i holi Cadwraethydd Papur Amgueddfa Cymru, Fiona:

“Un peth sy’n ddiddorol yw beth ddylai rywun ei wneud gyda gwrthrych sy’n dod gydag ategolion fel hyn – ai’r llyfr yn unig yw’r gwaith celf, neu a yw’n cynnwys y pecynnu ychwanegol a’r nodiadau hefyd?” dywed Fiona. “Dyna oedd y peth cyntaf i mi ei drafod gyda Nick, ydy’r bag cario yn rhan o’r caffaeliad? Yn yr achos hwn roedd y ddau ohonom yn meddwl taw cadw’r cwbl gyda’i gilydd fyddai orau. Byddwn i hefyd yn meddwl am hirhoedledd y deunyddiau gafodd eu defnyddio i greu naill y llyfr a’r ategolion. Fel arfer, fe fyddwn ni’n rhoi cartref newydd i gaffaeliadau mewn bocsys di-asid ond yn yr achos hwn byddwn ni o bosib yn cadw’r bocs cardfwrdd y death y gwaith ynddo, ac er nad ydyw o reidrwydd yn ddi-asid neu archifol, ni fydd y llyfr chwaith, wrth ystyried y math o bapur sy’n cael ei ddefnyddio i argraffu nofel fasnachol. Felly, mae’n rhaid i ni gydnabod felly na fydd eitemau fel hwn yn para yn yr un ffordd ag, er enghraifft, darn o gelf sy’n defnyddio’r papur 100% cotwm, di-asid, safon uchaf wedi’i, wneud â llaw, ond dyma un o’r heriau o weithio gyda chelf gyfoes sy’n sicrhau bod gwaith gwarchodaeth a chadwraeth yn parhau i fod yn ddiddorol. Fel cadwraethydd, mae’n rhaid i mi barchu dewis yr artist i ddefnyddio deunyddiau penodol, a cheisio cydnabod a chynnal gonestrwydd bob darn o gelf, weithiau drwy ymyrryd, weithiau drwy beidio â gwneud dim byd: yn yr achos hwn dwi’n meddwl bod gan yr eitem gonestrwydd (a hyfrydwch!) cryfach i gadw’r holl rannau gyda’i gilydd yn hytrach na’u rhannu a’u rhoi mewn bocsys a chlawr archifol. Fe fyddai’n newid i fod yn eitem tipyn gwahanol pe byddwn ni’n ei rannu wrth ei gilydd.”

“Sut mae hwn yn wahanol i bethau eraill rwyt ti wedi’u trin fel cadwraethydd?” gofynnais.

“Fel rhywun oedd yn arfer gweithio fel cadwraethydd mewn llyfrgell, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn llyfrau artistiaid. Mae’r un yma’n braf iawn gan fod modd gweld y llythrennau o’r testun blaenorol yn y mwydion papur; mae’n wrthrych chwareus iawn.” Dywed Fiona wrtha’i. “Un o’r pethau sy’n fy nghyfareddu i yw sut mae modd gwneud y mwyaf o wrthrych fel hwn mewn oriel yn hytrach na llyfrgell – fyddwch chi am i’r ymwelwyr weld y clawr a thu fewn i’r lleuen lwch a’r testun tu fewn – sut mae modd i ni ddod dros dangosiadau statig ar gyfer gwrthrych ddylai gael ei agor a’i ddarllen? (rhywbeth sy’n berthnasol i bob llyfr mewn gwirionedd…). A'r un peth gyda digido – does bosib y byddwn ni’n digido pob dudalen o’r nofel? Neu a fyddwn ni? Mae codi heriau a dilemâu diddorol.”

O ganlyniad i’m sgwrs gyda Fiona, fe es i ati i drafod gyda'r Ffotograffydd Rhian a’r Curadur Casgliadau Digidol a Dogfennu, Maddie.

Sut fydd gwaith David Shrigley yn cael ei baratoi ar gyfer y broses ddigido?

“Rydyn ni wastad yn meddwl yn ofalus wrth arddangos ein casgliadau ar-lein. Mae’r gwaith hwn yn cynnig cwestiynau diddorol sydd yn ein gorfodi i fyfyrio ar yr hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni.” Dywedd Maddie wrtha’i. “Nid llyfrgell mohonom, felly er i destun Orwell fod allan o hawlfraint ers 2021, a fyddwn ni’n dymuno’i ddangos yn llawn ar ein gwefan? Dwi ddim yn meddwl felly. Dwi’n meddwl beth sy’n bwysig yw dal tebygrwydd bwriad Shrigley gan dynnu allan rhai manylion unigryw sy’n rhoi golau ar ei brosesau creadigol.”

Sut mae ffotograffiaeth yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth o waith David Shrigley?

“Mae ffotograffio’r llyfr a’r holl elfennau gwahanol yn gallu cynnig cymorth i’r ffordd y bydd y darn yn cael ei arddangos yn y dyfodol.” Dywedodd Rhian., “Ni fydd e’n bosib arddangos y gwaith yn ei gyfanrwydd ar unwaith. Er enghraifft, mae modd arddangos y lleuen lwch mewn nifer o ffyrdd, sy’n golygu bod ffotograffiaeth yn gallu cynorthwyo’r defnyddiwyr i archwilio’r gwaith ymhellach. Mae ffotograffiaeth gofnod yn dogfennu’r gwaith fel y mae, ond wrth weithio gyda churaduron bydd modd i ni greu ffotograffau hyfryd fydd yn gallu mynd ochr yn ochr â’r gwaith i ddatgelu mwy o’r darn.”

Gyda’r holl agweddau hyn i’w hystyried, mae Pulped Fiction gan David Shrigley yn cynnig cyfleoedd i arbrofi wrth arddangos a digido, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gofrestru’r gwaith a dod o hyd i le iddo mewn projectau yn y dyfodol.


Curadur Digidol Amgueddfa Cymru yw Carys Tudor ac mae hi wedi gweithio yn adran gelf yr amgueddfa ers 2021. Gyda chefndir ym maes cyfathrebu, mae’n angerddol am gynnig cyfleoedd i bob llais gael rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, gan wneud pob pwnc yn berthnasol ac yn ddeniadol. Mae Carys hefyd yn ymddiddori mewn darluniau o hanes cymdeithasol a diwydiannol diweddar drwy gelf.

Oxfam Books and Music, Stryd y Castell, Abertawe © Oxfam Stryd y Castell, Abertawe


Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this