CYNFAS

Charles Obiri-Yeboah
24 Ionawr 2024

George Poole: Gwell hwyr na hwyrach?

Charles Obiri-Yeboah

24 Ionawr 2024 | Minute read

Roedden ni i lawr yn yr archifau. Dyma oedd fy nhro cyntaf i. Ystafell dywyll wedi’i thrin, yn gyforiog o gynfasau; wedi’u haddurno â phob math o bethau o olew lliw a thyrpentin, i lwch ac arogleuon dieithr. Roedd yr holl weithiau yno wedi’u diogelu o ddifrif: wedi’u gosod ar gridiau, wedi’u hamddiffyn, ac ar adegau, wedi’u hatgyfodi gan gadwraethwyr hyfryd o ddiwyd.

Fe welais i gymaint o waith anhygoel, a chymaint ohono erioed wedi gweld golau dydd. Enwau ro’n i wedi clywed amdanynt, ond heb gael y fraint o’u gweld. Yna, fe welais i’r anhysbys. Hanner ffordd drwy’r daith, tynnon nhw resel arall o weithiau celf mawreddog allan. Ymhlith yr holl ddisgleirdeb artistig, sylwais ar ddarn a oedd yn ymddangos ychydig yn fwy ‘pengaled’. Pengaled o wych.

The Lovers
POOLE, George
© George Poole/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Dywedwyd wrtha i erioed ei bod hi’n anghwrtais syllu, ac rwy’n addo i fi gael fy magu’n iawn, ond eto, allwn i ddim helpu’r peth. Ces fy nharo gan y darn yma, y cyfansoddiad swynol o ryfedd, ei ddefnydd chwareus o safbwynt, y palet lliw tawel, gyda graddiannau a dyfnder. Roedd gen i gymaint o gwestiynau, ond efallai mai’r un pwysicaf oll oedd – pwy yw hwn? Wedi’i ddilyn gan gwestiwn sydd yr un mor llawn o ddryswch, wrth i fi grafu ’mhen yn ceisio datrys sut nad o’n i’n gwybod am waith y person yma mor hir.

Ei enw oedd George Poole, medden nhw wrtha i. Dyn dawnus wedi’i fagu yng Nghymru. Serch hynny, drwy gydol ei yrfa, chafodd e ddim un arddangosfa yng Nghymru, ac yn anffodus fe fu farw: yn arlunydd nad oedd ei lefel o ganmoliaeth feirniadol yn gymesur â’i lefel o sgil a dyfeisgarwch. Felly, beth aeth o’i le – os o gwbl?

Mae hanes bywyd Poole yr un mor ddiddorol â’i waith. Fy mhennawd cyffrous i fyddai Y disgynnydd Rothschild sosialaidd a wrthdarodd â’r byd celf drwy ei syniadau gwrth-sefydliadol. Serch hynny, i gynnig asesiad mwy cynnil, mae llawer mwy y mae angen i ni ei ystyried.

Socialist Rally
POOLE, George
© George Poole/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Cafodd ei eni ar 28 Mawrth 1915, i ddau riant dosbarth gweithiol cydwybodol. Roedd ei dad yn löwr comiwnyddol ymroddedig, a’i fam yn forwyn i’r teulu bonheddig Mitford a Redesdale. Gwelodd Poole ochr ddrwg y system dosbarthiadau cymdeithasol drwy ymrwymiad diwyro ei dad i’w gredoau gwleidyddol. I’r gwrthwyneb, efallai y byddai natur gwaith ei fam, rwy’n dychmygu, wedi bod yn benbleth foesol neu’n wrthdaro buddiannau. Mae rhyngweithio gydag unigolion mor gefnog a oedd wedi cronni gwerth cenedlaethau o gyfoeth, yn ymddangos fel pe bai’n gwrthdaro, ychydig, gydag arfer marcsaidd. Fel hyn, gellid gweld bod Poole wedi tyfu i fyny yn gweld y berthynas symbiotig rhwng y dosbarth rheoli a’r proletariat; gweithredoedd y cyfoethog a thrafferthion y tlodion. Roedd teulu Poole yn ymddangos fel pe baent bob amser ar y cyrion, yn arsylwi’r cyfoethog gan aros yn driw i’w gwreiddiau dosbarth gweithiol.

Miners Conversation Black Vest
POOLE, George
© George Poole/Amgueddfa Cymru

Fel y soniwyd yn flaenorol, roedd Poole yn ddisgynnydd i’r Rothschilds drwy ei daid – plentyn anghyfreithlon i’r aristocratiaid, yr honnir iddo dderbyn ffi o £3,000,000 ganddynt. Aeth ymlaen i wario’r ffi hon yn ei chyfanrwydd, gan ymbleseru mewn rasio ceffylau ac adloniant cerddorol. Rywle yn y datguddiad hwn mae’r trosiad perffaith i ddisgrifio mentrau artistig George Poole. Cafodd Poole ei fagu mewn tlodi enbyd ac amodau dosbarth gweithiol, ond eto roedd yn gyson agos â’r cyfoethog, drwy ei fentrau i’r byd celf. Yn yr annedd purdanaidd hwn rhwng y bydoedd roedd Poole yn eu meddiannu, roedd yn barod i daclo’r “realaeth gymdeithasol” y daeth i gael ei weld yn gysylltiedig â hi, a ddiffiniwyd gan Poole ei hun fel: “Deall realiti, ystyr, swyddogaeth a diben dyn. Portreadu ymdrech dyn at berffeithrwydd heb yr addurniadau.”

Welsh Miners Morning Shift
POOLE, George
© George Poole/Amgueddfa Cymru

Roedd Poole yn artist a oedd wedi’i yrru gan ddiben, wedi’i wreiddio’n gadarn mewn realiti. Yn anffodus, yr ‘addurniadau’ y dewisodd eu gadael allan oedd prif bryder y sefydliad ar y pryd. Roedd yn ddyn a oedd wedi dioddef llawer o heriau; o wlserau a fu’n fygythiad i’w fywyd, i dreulio amser yn y carchar a chael ei ddallu yn un llygad, ond eto un o’i heriau mwyaf oedd ceisio llywio system a oedd yn gwerthfawrogi ei athrylith ond a fethai â gwerthfawrogi pob ochr o bwy ydoedd. Barnodd y beirniad celf John Berger fod y cyn-gomiwnydd yn ‘bengaled’, am iddo wrthod cyfaddawdu yn ei arfer, ond eto roedd yn dyheu am ganmoliaeth feirniadol. Gwnaeth yr amser a dreuliodd Poole yn Llundain ei helpu’n fawr wrth gasglu dilynwyr, gyda phobl o’r Academi Frenhinol, Llyfrgell Battersea ac Oriel Crane oll yn frwd i arddangos ei waith. Pan mae pethau fel hyn yn digwydd, pam fod angen cyfaddawdu? Rwy’n siŵr i’w alwad gynhenid i beintio, ar y cyd â’r gydnabyddiaeth yr oedd yn ei chael ledled Llundain, fod yn ddigon o gymhelliant i barhau i greu, er gwaetha’i sinigiaeth a’i ddiffyg ymddiriedaeth yn y byd celf.

Untitled (Women smoking with Wine)
POOLE, George
© George Poole/Amgueddfa Cymru

Ymddengys fod hon yn chwedl mor hen ag amser. Cydnabyddiaeth ar ôl marwolaeth – bywyd ar ôl marwolaeth. Mae’r darluniau hoffus o fywyd cymunedol ym Mhrydain gan LS Lowry bellach yn destun balchder i’n horielau cenedlaethol. Ond eto, yn ystod yr amser a dreuliodd gyda ni, roedd yn cael ei wawdio’n aml; o feirniadaeth am ei fagwraeth dosbarth gweithiol, i watwar ei baentiadau – roedd yn cael ei ystyried yn “hurtyn mewn cap brethyn”. Dim ond un paentiad werthodd y byd-enwog Vincent van Gogh drwy gydol ei fywyd, cyn cael cydnabyddiaeth eang ymhell ar ôl ei farwolaeth. Yn ystod ei ddyddiau olaf, dywedodd Frank Kafka wrth ei gyfaill Max Brod y dylai losgi ei ddarluniau a’i waith celf, gan fod ei ymdrechion i gael ei gydnabod am ei waith wedi profi’n ofer. Arddangoswyd gwaith Poole am y tro cyntaf yng Nghymru yn arddangosfa Rheolau Celf?, yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, diolch i uwch guraduron beiddgar a gwaith curadu dewr y Grŵp Codi’r Llen ar Gaffael, y ces i’r fraint o fod yn rhan ohono. Efallai nad oedden ni’n barod am ei waith cefndirol bryd hynny. Rhywun mor flaengar, yn wleidyddol graff, ond eto’n fedrus a chelfydd. Yn sicr nid oedd diffyg ymddiriedaeth Poole yn y byd celf yn gwbl anghywir. Nid yw gyda ni’n gorfforol i weld effaith ei waith, ond gobeithiwn fod hyn yn gam bach ymlaen tuag at barhau i ddathlu artistiaid o Gymru ac arddangos eu hymdrechion i’r byd. Fel y dywed yr hen ddywediad, “Gwell hwyr na hwyrach... ond byddai byth yn hwyr yn well”.


Mae Charles Obiri-Yeboah yn unigolyn sy’n awyddus i wneud y mwyaf o greadigrwydd drwy wahanol gyfryngau, o gelf weledol i gerddoriaeth a llenyddiaeth. Yn dilyn ei astudiaeth at radd BA mewn Llenyddiaeth Gymharol ac MA mewn Dadansoddi Beirniadol a Chreadigol ym Mhrifysgol Goldsmiths, mae ei bractis yn cael ei drwytho gan ymdrin ag ôl-drefedigaethedd, gan geisio creu celf, traethodau a lleoliadau sy’n annog sgwrs a thrafodaeth ysgogol.

Dyn ifanc sy'n gwisgo siwmper glas a du yn sefyll nesaf at ddarn o gelf mewn oriel - mae'r gwaith celf yn dangos dau berson yn cerdded yn eu blaenau ar hyd llwybr, yn dal dwylo.

Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this