CYNFAS

Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
21 Mawrth 2024

Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower

Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru

21 Mawrth 2024 | Minute read

Darn Canol Bwrdd Con Brio gan Theresa Nguyen oedd ail ddarn newydd casgliad arian cyfoes Ymddiriedolaeth P&O Makower ers i’r casgliad gael ei drosglwyddo o’r Cyngor Crefftau yn Llundain yn 2006 ar gyfer cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

O Abermaw i Birmingham

Cafodd Theresa ei geni yn Abermaw ym 1985, ac yna cael ei magu a derbyn ei haddysg yn Birmingham. Tra’i bod hi dal yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio gradd BA mewn Gemwaith a Gofaint Arian yn Sefydliad Celf a Dylunio Birmingham, fe enillodd wobr Dylunydd Ifanc y Flwyddyn Cwmni Goldsmith’s.

Bellach wedi’i lleoli yn Ardal Gemwaith Birmingham, mae Theresa yn uchel ei dawn mewn amryw o dechnegau fel gof arian. Mae’n diolch i’w thad-cu am ei ‘dyfeisgarwch, chwilfrydedd a’i chariad at manyldra aesthetig’ – roedd yntau’n of gynnau yn Fietnam, ac i’w thad, a oedd yn darlithio cemeg a mathemateg.

Moment gyffrous

Fedrwn ni ond rhoi’r comisiwn hwn i Theresa. Roedd y ffrwydrad o syniadau, sgiliau a chreadigrwydd y cyflwynodd yn y cyfweliad yn arbennig – un o adegau mwyaf cyffrous fy ngyrfa fel curadur. Mae’r gwaith gorffenedig wir yn cyfleu hyn oll. Mae gan y metal caled ansawdd medal ac organig, gan wneud i’r gwrthrych ymddangos fel petai’n arnofio’n ysgafn.

Yng ngeiriau Theresa: “Mae’r dyluniad yn archwilio y cysyniad o egni o fewn ffurf. Mae’r gwrthrych wedi’i greu fel grym byw o natur. Yn llawn cyffro, mae’n dangos rhyddhad o egni wedi’i dal mewn un ystum. Mae’n creu effaith symud yn gain ond gydag animeiddiad bywiog.”

Gellir darllen rhagor ynghylch creu’r darn hwn ar wefan Theresa.


Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower: Comisiwn 2024 ar gyfer Amgueddfa Cymru - Galwad am geisiadau

Mae Amgueddfa Cymru yn falch o wahodd ceisiadau ar gyfer Comisiwn Arian Ymddiriedolaeth P & O Makower (1974). Cyfle cyffrous sy’n ceisio cefnogi gofaint arian sydd newydd raddio ac sydd ar ddechrau eu gyrfa i greu darn arwyddocaol o arian a fydd yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ers dros 45 mlynedd, mae Ymddiriedolaeth P&O Makower (1974) wedi comisiynu gwrthrychau arwyddocaol o arian i’w rhoi ar fenthyciad hirdymor i amgueddfeydd cenedlaethol ledled y DU gan gynnwys Amgueddfa Victoria ac Albert, Amgueddfa Ashmolean, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban ac Amgueddfa Cymru. Dyfarnwyd comisiynau blaenorol nodedig i Chris Knight, Ndidi Ekubia, Theresa Nguyen ac Adi Toch.

Pwrpas y comisiwn yw cefnogi gof arian sydd newydd raddio neu ar ddechrau ei yrfa i ymestyn eu crefft yn ogystal ag arddangos eu gwaith yn un o amgueddfeydd mwyaf blaenllaw’r DU. Gwerth y comisiwn yw £6,000 i gynnwys deunyddiau a gwneuthuriad.

Bydd y comisiwn hwn ar gyfer creu gwaith newydd mewn arian a bydd yn blaenoriaethu unigolion sy’n defnyddio dulliau traddodiadol mewn ffyrdd newydd a chyffrous, megis trwy ddefnyddio technoleg ddigidol neu ddatblygu technegau newydd ar gyfer gweithio metel. Efallai y bydd ymgeiswyr am archwilio'r defnydd o arian ar y cyd â metelau neu ddeunyddiau eraill. Sylwch fod yn rhaid i unrhyw ddeunyddiau ychwanegol ddiraddio ar yr un gyfradd ag arian ac ni fydd deunyddiau fel plastig a rwber yn cael eu derbyn.

Sefydlwyd Amgueddfa Cymru drwy siarter frenhinol ym 1907. Mae’n gartref i un o gasgliadau arian pwysicaf Prydain, yn amrywio o ran dyddiad o’r cyfnod canoloesol i’r 21ain ganrif ac yn cynnwys darnau pwysig o bob cyfnod, llawer ohonynt yn gysylltiedig â theuluoedd Cymreig . Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Amgueddfa wedi datblygu casgliad cynyddol o waith metel cyfoes sy’n cynnwys gweithiau gan wneuthurwyr fel Hiroshi Suzuki, Pamela Rawnsley, Miriam Hanid a Rauni Higson.

Bydd y comisiwn llwyddiannus yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ochr yn ochr â chomisiynau blaenorol gan Ymddiriedolaeth P&O Makower ac arian cyfoes arall. Bydd adegau allweddol yn natblygiad a gwneuthuriad y darn yn cael eu dogfennu ar Celf ar y Cyd.

Bydd beirniaid y gystadleuaeth yn cynnwys staff Amgueddfa Cymru, y teulu Makower a gweithwyr proffesiynol o’r grefft gof arian.

I wneud cais

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y comisiwn hwn, anfonwch CV llawn trwy https://www.wetransfer.com/ gyda manylion cyswllt a datganiad personol am eich ymarfer, ynghyd â 6 llun o ansawdd uchel, dim llai na 300dpi, o'ch gwaith erbyn 5.00p.m. ar ddydd Llun 8fed Ebrill 2024 drwy e-bost at andrew.renton@amgueddfacymru.ac.uk.

Dylai ymgeiswyr ddarparu enghreifftiau o o leiaf dri gwrthrych gwahanol. Sylwer: (a) ni chaniateir gemwaith o fewn y comisiwn hwn a (b) gofynnir am geisiadau gan ofaint arian sydd wedi graddio’n ddiweddar (saith mlynedd diwethaf) neu ar ddechrau eu gyrfa. Dylai'r delweddau fod o leiaf A5 o ran maint a 300 dpi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau trwy e-bost at Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio.

O’r delweddau a’r datganiad a ddarparwyd bydd y beirniaid yn dewis rhestr fer o ymgeiswyr a fydd yn cael eu gwahodd i gyflwyno brasluniau manylach o’u darn arfaethedig i’r panel yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rhagwelir y bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd mis Ebrill 2024 a bydd y rhai ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld ym mis Mehefin 2024. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn talu am gostau teithio rhesymol ymgeiswyr ar y rhestr fer.

Gosodiad Canol Con Brio, NGUYEN, Theresa © Theresa Theper/Penelope and Oliver Makower(1974)Trust/Amgueddfa Cymru


Share


More like this