Mae Geng Xue yn artist ceramig o Tsieina sy’n gweithio gyda phorslen. Mae hi’n creu darnau amlgyfrwng drwy gyfuno’r defnydd traddodiadol hwn gyda chyfrwng modern ffilm.
Yn enedigol o Baishan yn nhalaith Jilin, astudiodd Geng Xue yn Central Academy of Fine Arts yn Beijing, gan raddio yn 2007 ac ennill MFA yn 2014. Yn ddiweddarach mynychodd Karlsruhe University of Art and Design yn yr Almaen, lle astudiodd cynhyrchu fideo.
Gan weithio gyda phorslen, mae Geng Xue yn creu cerfluniau sydd wedi eu hysbrydoli gan athroniaeth, llên gwerin a diwylliant Tsieina. Mae hi wedyn yn cyfuno'r cyfrwng cerameg hwn gyda ffilm i greu ffilmiau stop-symud sydd wedi eu seilio’n gyfan gwbl ar ei cherfluniau.
Mae gan ddarnau Geng Xue bob amser naratif cryf sy'n tarddu o ffynonellau Tsieineaidd traddodiadol. Daeth hi i sylw gyntaf gyda’i darn Mr Sea (2014), sy’n ymwneud â stori Qing am deithiwr ifanc yn cyfarfod â sarff hardd ond marwol. Mae hi hefyd yn cael ei hysbrydoli gan brofiadau personol: yn Yr Ochr Arall (yng nghasgliad Amgueddfa Cymru), mae hi’n dangos ffigwr benywaidd marw ar lan afon, sy’n cyfeirio at farwolaeth ffrind iddi mewn damwain car. Yn ôl cred Daoaidd, pan fydd person yn marw, mae’r enaid yn croesi pont wrth ymadael â'r byd hwn.
Mae cyfeiriadau gweledol Geng Xue hefyd yn deillio o ddiwylliant Tsieina. Er enghraifft, mae rhai o'i ffigurau yn debyg i’r doliau a ddefnyddir mewn meddygaeth Tsieineaidd draddodiadol. Mae hi’n aml yn arbrofi gyda iaith porslen, cyfrwng sy’n fregus ond eto’n barhaol – gan ei wthio i gyfeiriadau newydd.
Mae Geng Xue yn byw ac yn gweithio yn Beijing.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.