Am faint y buom ni’n aros
am amser fel hwn – i’r byd
ddod i stop, a’n lluchio
ni’n dau dan gynfas
o be-i-wneud-nesa? Am faint
y buom ni’n sibrwd am Graig yr Allt,
Mynydd y Glyn, Mynydd Maendy,
am roi taw ar yr awyrennau am sbel
a dweud ffarwél wrth Barcelona,
Benidorm, Butlin’s? Ac am faint
y buom ni’n ymbil ar y sêr i oedi
am fymryn hirach na’r arfer,
ar yr haul i gadw draw am ddiwrnod
neu ddau
i ni gael slyrio pethau sili yng nghlustiau’n gilydd –
diarhebion diddychymyg
am ba mor fach yr ydym
ar y patshyn pathetig hwn o Gymru,
mor fyw?
Caf fy atgoffa gan y llun hwn o’r Cyfnod Clo, a’r amser sylweddol a dreuliais yn ystod y cyfnod hwnnw yn archwilio fy milltir sgwâr, rhywbeth doeddwn i erioed, o ddifri, wedi’i wneud o’r blaen. Ond dyma’r Pandemig yn ein gorfodi i fynd yn ôl mewn amser, fel petai, i gyfnod lle nad oedd teithio i bellafion byd yn bosibl (onid yw’r ffaith fod y llun mewn du a gwyn yn atgyfnerthu’r teimlad hwn?). Bu’n rhaid i fro ein mebyd, felly, wneud y tro. ‘Arhoswch adre’, wrth gwrs, oedd y gorchymyn. A dyma gwympo mewn cariad â’r tirwedd a’r golygfeydd – â cherdded, yn ogystal â rhedeg – a sylwi o’r newydd ar odidowgrwydd y fro lle’m ganwyd. Cwympo mewn cariad, yn wir, ag aros adre. Afraid dweud y bu’r Pandemig yn gyfnod echrydus i nifer yn y Cymoedd, a Thonyrefail ar un adeg oedd â’r gyfradd uchaf o farwolaethau trwy Gymru a Lloegr, ond bu hefyd yn gyfnod o osteg, o archwilio, o ailgydio yn yr hyn sy’n bwysig.
Ganwyd a magwyd Gwynfor yn nhref Tonyrefail yng Nghymoedd y De, ac fe aeth i ddwy o’r ysgolion lleol, Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Llanhari. Yn ddiweddarach, fe aeth i Brifysgol Caergrawnt i astudio ieithoedd a llenyddiaeth, ac fe dreuliodd ei flwyddyn dramor yn gweithio i’r Siambr Fasnach Brydeinig yn Chile. Ar ôl graddio, fe symudodd yn ôl i Donyrefail i fyw am dair blynedd, cyn symud i Lundain, lle mae e bellach yn gweithio fel newyddiadurwr i’r BBC. Fe ddechreuodd farddoni yn Ysgol Llanhari, ac fe enillodd Gadair yr Urdd pan oedd e’n dal yn ddisgybl yno yn 2016, ac eto yn 2017. Mae e’n aelod o dîm Morgannwg yn yr Ymryson, ac yn aelod o dîm Tir Iarll ar gyfres radio Y Talwrn. Mae e wedi ennill Tlws Coffa Cledwyn Roberts ddwywaith am gerdd rydd orau’r gyfres.