CYNFAS

Laku Neg
1 Awst 2024

Diwrnod Rhyddfreinio

Laku Neg

1 Awst 2024 | Minute read

Gŵyl genedlaethol bwysig yn Trinidad a Tobago yw Diwrnod Rhyddfreinio ac fe’i dathlir ar y 1af o Awst bob blwyddyn. I nodi’r achlysur eleni, fe siaradom ni gyda’r artistiaid Laku Neg am eu gosodiad, Spirited.

Am wylio’r fideo gydag isdeitlau? Cliciwch ‘CC’ ar y fideo i ddewis gwylio gydag isdeitlau [closed captions].

Cynrychiolir Laku Neg (Iard Ddu yn iaith Kwéyòl Haiti) gan bedwar artist o dras Trinidadaidd sy'n byw ac yn gweithio yn y DU. Mae'r grŵp yn hyrwyddo mynegi gwybodaeth diaspora Affrica drwy'r celfyddydau.

Gosodwaith ymdrochol yw 'Spirited' – tapestri o atgofion a deall sy'n cynnwys cerflun metel, papur wedi'i droi, gwrthrychau wedi'u canfod ac elfennau gweledol.

Ysbrydolwyd y gwaith hwn gan draddodiadau, arferion ac estheteg Ol' Mas' Carnifal Trinidad a Thobago. Mae'r comisiwn yn ail-gyflwyno Louisa, Thisbe a Present, merched ifanc a ddioddefodd dan awdurdod creulon Thomas Picton yn Trinidad.

Share


More like this