CYNFAS

Paul Cabuts
22 Awst 2024

Profiad y Cymoedd

Paul Cabuts

22 Awst 2024 | Minute read

Byddai taith plentyndod ar fws deulawr coch yn drawsnewidiol i'r ffordd y byddwn i’n dod i werthfawrogi'r celfyddydau gweledol. Flynyddoedd yn ddiweddarach pan oeddwn yn sefyll o flaen paentiad Ernest Zobole o'r Rhondda, cefais fy hun yn mynd yn ôl trwy'r degawdau i olygfeydd, arogleuon, a theimladau'r daith bws honno ar hyd y cwm oedd yn gartref i mi. Roedd yr atgof yn atgof llethol a ddaeth i mi’n syth, yn fyw o ran ei fanylion.

Sut gallai gwaith celf alluogi ymateb o'r fath? Roedd yn un personol iawn, wrth gwrs. Ond roeddwn i'n tybio y gallai unrhyw un brofi rhywbeth tebyg. Yn wir, mae darn adnabyddus yn À la Recherche des temps perdu gan Marcel Proust lle mae ei brofiad o flasu madeleine (cacen sbwng gyda chnau coco) wedi'i drochi mewn te yn gweithredu fel catalydd ar gyfer ei atgofion byw ei hun o Fenis. Wel, nid Fenis yw'r Rhondda yn sicr, ond rhoddodd fy mherthynas i â'r Rhondda, ar ôl tyfu i fyny yno, bersbectif arbennig i mi ar baentiad Zobole.

Mae fy mhrofiad byw wedi parhau ac wedi llywio fy nealltwriaeth o weithiau celf a wnaed yng nghymoedd y De a gweithiau am y Cymoedd hefyd. Yma, rwy'n ystyried dwy elfen allweddol sydd i weld yn rhai cyson – Lle ac Amser.

Lle

Some Trees and Snow
ZOBOLE, Ernest
©Manual Zobole/Amgueddfa Cymru

Roedd y paentiad a sbardunodd fy atgof o'r daith bws fer honno i weld fy nghefndryd ym Maerdy yn lled-haniaethol, yn dywyll, ac yn fflachio â melyn llachar a glas dwfn. Disgrifir gwaith Zobole yn aml fel ffurf ar realaeth hud, a’r elfen o realaeth – nodweddion dryslyd ond cyfarwydd tirlun y Rhondda – welais i gyntaf. Ar y bws roeddwn wedi cael fy nharo gan y ffordd roedd y Cwm yn edrych ar noson o aeaf; roedd yn ymddangos fel bod y bryniau serth a'r awyr yn uno mewn tywyllwch. Wrth syllu ar y tai teras gwelais sut roedd goleuadau'r stryd yn treiddio’r tywyllwch gan adlewyrchu'r sêr uwch eu pennau, yr unig wahaniaeth oedd y newid mewn lliw o oren i las trydanol. O'r bws gallwn weld y smotiau hyn yn ffurfio patrymau cymhleth, weithiau'n ymgasglu ar lawr y Cwm, weithiau'n troi allan tuag at y bydysawd. Ymunai petryalau llachar â'r goleuadau hyn a ffurfiwyd gan oleuadau yn disgleirio trwy ffenestri a drysau agored, rhai yn cydymffurfio â llinellau goleuadau stryd, eraill yn fflachio ar onglau gwahanol. Roedd ffenestr y bws yn asio adlewyrchiadau a diffyg adlewyrchiad i greu patrymau caleidosgopig symudol - profiad cofiadwy a hollol hudolus – yn union fel paentiad Zobole.

Eto i gyd, roedd y paentiad wedi sbarduno rhywbeth mwy na chydnabyddiaeth o nodweddion gweledol y Rhondda. Roedd arogl y bws a’r ffaith ei bod hi’n oer o’r hyn rwy’n ei gofio - roedd hi'n gyfnod pan nad oedd gan fysiau'r Rhondda ddrysau yn y cefn - cyfnod o gasglwyr tocynnau gyda pheiriannau tocynnau a lifrau - arogl cryf sigaréts gan fod ysmygu dal yn gyfreithlon ar drafnidiaeth gyhoeddus bryd hynny. Mae cytser ffenestri a drysau wedi’u goleuo yn tanio teimladau o gynhesrwydd, diogelwch a chariad cartref fy mhlentyndod. Nid yw'n syndod fy mod i wedi fy syfrdanu a’m cyffroi wrth ddod ar draws gwaith Ernest Zobole a gweld ynddo flynyddoedd ffurfiannol fy mywyd rywsut wedi'u troi'n ddau ddimensiwn. Mae hyn yn rhan o lawenydd a rhyfeddod celf gan y gall ennyn yn y gwyliwr yr hyn y gellid ei ystyried yn gydnabyddiaeth o brofiad a rennir, ac weithiau profiad cyffredin. Paentiadau Zobole yw'r cynrychioliadau mwyaf gwir o'r Rhondda rwyf wedi dod ar eu traws erioed.

Amser

Three Generations of Welsh Miners
SMITH, W. Eugene
© W. Eugene Smith/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Roeddwn i'n arfer casáu'r ffotograff du a gwyn o dri glöwr a dynnwyd gan y ffotograffydd o America, Eugene Smith ym 1950. Mae'n debyg mai’r rheswm oedd, wrth dyfu i fyny yn y Rhondda prin fyddai rhywun yn gweld glowyr llychlyd ar y stryd, yn enwedig ar strydoedd mor dywyll â'r rhai yn ei ffotograff. Fe'i gwelais gyntaf yn y 1970au yng nghasgliad fy ewythr o ffoto-lyfrau mewn llyfr o'r enw The Art of Photography. Byddwn weithiau’n cael mynd ar ymweliad at fy modryb ac ewythr ar ddydd Sul – roedden nhw'n byw yn y Barri ger yr ynys. Yr hyn nad oeddwn i’n sylweddoli tan ddegawdau yn ddiweddarach oedd y byddem yn pasio drwy un o'r strydoedd yn ffotograff Smith. Roedd Coed-Elái fel arfer yn ymddangos yn lle mor braf ar brynhawn Sul. Pam roedd ffotograffau o'r Cymoedd bob amser yn edrych fel hyn pan nad oedd y lle ei hun yn edrych fel yna?

Dywedodd Walker Evans, un arall o ffotograffwyr mawr yr ugeinfed ganrif, fod y ffotograff hwn yn "ffotograffiaeth bur... strôc o realaeth ramantaidd" a’r "dynion yn actorion". A dyma, wrth gwrs, oedd y pwynt; mae ffotograffau'n cael eu creu i gynrychioli fersiwn rhywun o'r realiti. Mae Smith yn wych yn rhoi lleoliad i ni lle mae'r cymeriadau'n chwarae eu rhannau. Mae'r tai teras yn dweud wrthym nad yw hyn yn ymwneud â dynion a'u gwaith yn unig; mae'n ymwneud â chymdeithas a ffordd o fyw. Mae'r dynion wedi eu gwisgo yn lifrau eu dosbarth, eu hoedrannau yn ein hatgoffa bod gorffennol, presennol a dyfodol i’w drama nhw. Roedd Smith bob amser yn chwilio am y gwir, ond gall hyn fod yn anodd ei ddiffinio. Doedd dim ots ganddo gosod na chyfarwyddo ei luniau, iddo ef roedd y 'gwirionedd moesol' yn fwy sylfaenol nag unrhyw un gwrthrychol.

It’s Called Fashion (Look It Up), Merthyr
SCHNEIDERMANN, Clémentine & JAMES, Charlotte
© Clémentine Schneidermann and Charlotte James/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Bron i saith deg mlynedd yn ddiweddarach, gallwn weld drama wahanol yn digwydd yn y ffotograff lliw o bum merch yn Nhrefechan, Merthyr. Mae'r ffotograff hwn yn ganlyniad i gydweithrediad rhwng Clementine Schneidermann, Charlotte James, a'r merched mewn du. Yn ffotograff Smith mae ei berthynas â'r tri glöwr yn fwy cyfarwyddiadol na chydweithredol. Mae'r merched yn chwarae eu rôl yn bwrpasol, maen nhw eisiau i ni wybod bod ganddyn nhw ymreolaeth a nhw sydd piau’r dyfodol sydd eto i ddod. Nid llwch y glo yw eu propiau, yn hytrach, gallai eu dillad du awgrymu eu bod wedi mynychu angladd y diwydiant tra-arglwyddiaethol hwnnw a'r ffordd o fyw oedd ynghlwm ag ef. Mae eu golwg herfeiddiol yn ein hatgoffa nad yw'r batriarchaeth fel yr oedd adeg ffotograff Smith. Mae'r ffotograff o'r merched yn dangos i ni nad y Cymoedd yn unig sydd wedi newid, mae’r byd wedi newid.

Profiad

Nid yw profi'r Cymoedd trwy luniau yr un fath â phrofiad byw o'r lle a'r rhai ynddo. Ond gall lluniau a ffurfiau celf eraill gan gynnwys llenyddiaeth, sinema a cherddoriaeth, ein galluogi i gael cipolwg ystyrlon ar agweddau ar bobl, lle a chymdeithas. O'i wneud yn dda, gall gwaith celf fynd ymhellach a chyfleu hanfod craidd – ond proses ddwyffordd yw'r cyfathrebu hwn, cyfnewid sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gwyliwr ddod â'i ddealltwriaeth ei hun i'r darn o gelf. Yn yr ystyr hwnnw does gan gelfyddyd byth ystyr sefydlog, rydyn ni i gyd yn ei brofi'n wahanol – peth da!

Ar adegau, mae'r Cymoedd wedi cael eu cyfleu mewn ffordd rhy syml, gan wrthod unrhyw ymgysylltiad dyfnach â'r nodweddion hanfodol. Mae hyn yn aml wedi arwain at ddatblygu syniadau rhamantaidd o'u pobl, y lle a'r gymdeithas. Ni ddylem fod yn rhamantaidd am y Cymoedd, oherwydd gall hyn ein harwain i ddiystyru, yn rhy gyflym, y cariad, y llawenydd, y caledi a'r loes a brofwyd gan y rhai a oedd yn byw yn y Cymoedd a’u profiad drwy’r Cymoedd. Maen nhw’n haeddu gwell yn sicr.


Ffotograffydd, artist, sgwennwr ac ymchwilydd yw Paul Cabuts sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae ei waith, sy'n archwilio'r grymoedd deinamig sy'n siapio'r ffordd rydyn ni'n byw a sut mae modd ein diffinio ni, wedi'i arddangos a'i gyhoeddi'n rhyngwladol.

Fe ddyfarnwyd PhD iddo yn y Ganolfan Ewropeaidd dros Ymchwil Ffotograffig ac fe gyflawnodd radd MA mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth a gradd BA yn Ffotograffiaeth Ddogfennol yn Ysgol Gelf a Dylunio Casnewydd. Cyhoeddwyd ei ysgrif sy'n trafod twf ffotograffiaeth yn y Cymoedd, Creative Photography and Wales gan Wasg Prifysgol Cymru.

Mae rhai ffotograffau gan Paul ar gael i'w gweld yn arddangosfa Y Cymoedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

CABUTS, Paul, Central Street, Ystrad Mynach © Paul Cabuts


Share


More like this