Y llynedd, fe gomisiynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru bedwar artist o liw: Joshua Donkor, Jasmine Violet, Mfikela Jean Samuel a Dr Adéọlá Dewis i greu gweithiau celf oedd yn ymateb i gasgliadau’r Llyfrgell.
Cafodd y project hwn ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o’i Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Portread Joshua Donkor o Eric Ngalle Charles
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad sylweddol o dros 10,000 o bortreadau, sy’n dathlu ffigurau nodedig yng Nghymru ac hanes Cymru, ond prin iawn ydy’r portreadau sydd yn dathlu pobl o liw sydd wedi chwarae rôl allweddol yn natblygiad Cymru. Arweiniodd hyn at drafodaethau dwys rhwng y Llyfrgell â’r artist portreadau cain Joshua Donkor, ac yn sgil hyn fe ymgynghorodd yr artist â’r Sub-Sahara Advisory Panel. Mae’r SSAP yn fudiad a ffurfiwyd yn 2009, i ddathlu a chefnogi cymunedau Affricanaidd yng Nghymru ac yn Affrica. Daeth enw'r bardd, dramodydd a'r awdur Eric Ngalle Charles yn gyflym i’r amlwg, fel ffigwr y dylai cael ei gynrychioli o fewn ein casgliad portreadau cenedlaethol. Mae ei bortread yn gaffaeliad o bwys i’r casgliadau, ac yn gam bychan ymlaen i’r gwelliannau hanfodol sydd angen eu gweithredu, wrth i'r Llyfrgell ddatblygu'i chasgliadau.
Eric Ngalle Charles
Ganed Eric Ngalle Charles yn Buea, Cameroon, ond ym 1997 yn 17 mlwydd oed roedd yn ddioddefydd masnachu pobl. Erbyn iddo droi’n 21ain, roedd wedi dod o hyd i gartref newydd yng Nghymru, lle mae’n datgan iddo ail-gydio yn ei enw, ei lais, a’i hunaniaeth. Mae’n adrodd hanes ei daith mewn hunangofiant emosiynol o 2019 ‘I Eric Ngalle’. Heddiw, mae’n cael ei weld fel un o ffigyrau diwylliannol mwyaf blaenllaw Cymru ac mae’n gweithio gyda ffoaduriaid eraill, gan eu cynorthwyo i ddod o hyd i’w lleisiau a adolygu’u hanesion. Yn 2017, fe gafodd ddyfarniad Cymrodoriaeth Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei waith ar Ymfudo, Cof, iaith a thrawma. Mae wedi cyhoeddi a golygu nifer o weithiau sy’n aml yn myfyrio ar ei brofiadau, gan gynnwys ei waith diweddaraf ‘Homeland’ a gyhoeddwyd yn 2022. Ar hyn o bryd mae’n Ymchwilydd PhD yn King’s College London.
Joshua Donkor
Arlunydd Ghaniaidd-Brydeinig yw Joshua Donkor a raddiodd o Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2020 ac mae ei waith yn defnyddio portreadaeth fel offeryn i danseilio portreadau monolithig o hunaniaeth Du. Mae ei bortreadau’n cynnwys cyfeiriadau gweledol mewn haenau wedi’u creu drwy amryw dechnegau o baentio, printio a haenu sy’n rhoi dyfnder ac ystyr fawr i’w waith. Fel gyda phob un o weithiau Joshua, mae’r portread o Eric Ngalle yn dilyn proses o gydweithio dwys rhwng yr artist a’r eisteddwr. Yn y portread hwn mae ffotograffau nodedig a llyfrau o bwys i fywyd yr eisteddwr wedi’u hintegreiddio’n bwerus i mewn i’r gwaith.
Fe ddywedodd Joshua Donkor:
‘Mae eglurder y cof o bwys. Mae modd gwrando ar y sgyrsiau drwy’r paentiadau ac olrhain y straeon drwy fywyd rhywun. Bwriad y portread oedd creu archif o fywyd Eric a dylanwad yng Nghymru a llenyddiaeth Cymru. Yn anfarwoli rhywfaint o stori anhygoel Eric, o’i siwrne i Gymru a’i dwf fel awdur, bardd, dramodydd llwyddiannus, yn creu pontydd rhwng cymunedau a gwledydd drwy ei waith.
Roedd wir yn fendith gallu siarad gydag Eric, mae’n storïwr naturiol ac yn un o’r bobl mwyaf hudol i mi gael y pleser eu paentio. Mae cael f’ymddiried i adrodd rhywfaint o stori anhygoel Eric wedi bod yn gymaint o fraint! Ac mae’n anrhydedd bod fy ngwaith yn cael ei gynnwys fel rhan o gasgliad sefydliad hanesyddol.’
Dywedd Eric Ngalle Charles: ‘Roeddwn i’n nerfus, ond fe ges i fy swyno a’n cysuro gan ysbryd Joshua. Erbyn y diwedd, roeddwn i’n teimlo imi ei adnabod erioed. Roedd e’n wych i eistedd gydag artist bendigedig’.
Adéọlá Dewis’ HorseHead
Artist ac ymchwilydd o Trinidad a Tobago, wedi’i lleoli yng Nghymru ers 2003 yw Adéọlá Dewis. Fe raddiodd mewn Celf Weledol o Brifysgol y West Indies, St Augustine yn 2000, dilyn Gradd MA mewn Celfyddyd Gain yn Sefydliad Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd a Gradd Doethuriaeth mewn theori Beirniadol a Diwylliannol (wedi’i hariannu’r rhannol gan ysgoloriaeth Ailddychmygu Amlddiwyllianedd) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi’n artist Ar Wasgar gyda diddordeb mawr mewn perfformiadau diwylliannol o’r ddefod, gwerin a brodorol. Mae ei phractis yn cynnwys darlunio, paentio, perfformio ac ysgrifennu ac wedi’i thynnu at berfformiadau trawsnewidiol fel y’i gwelir mewn Carnifalau a dawnsfeydd masgiau, yn ogystal â chreu gwagleoedd cysegredig.
Ar gyfer y gwaith comisiwn fe archwiliodd yr artist y cysylltiadau rhwng diwylliant Cymreig a Charibiaidd drwy draddodiadau dawnsfeydd masgiau a ffocysu ar Y Fari Lwyd a dawns fasgiau Penceffyl yn Jonkonnu, Jamaica. Fe dynnodd ar ysbrydoliaeth gan gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol megis y deunydd ffilm o Archif ITV Cymru yn dogfennu traddodiad dathlu Y Fari Lwyd yn Nhregaron ym 1964, a llun wedi’i dynnu gan y ffoto-ohebydd Geoff Charles, sy’n cyfleu plant yn cario’r Fari Lwyd yn Aberystwyth yn y 1950au. Roedd hi hefyd wedi seilio ei gwaith ymchwil ar gyhoeddiad Dr Rhiannon Ifans ‘Stars and Ribbons: Winter Wassailing in Wales’ (2022) a chyhoeddiad John Nunley a Judith Bettelheim ‘Carribbean Festival Arts’ (1988).
Fe ddefnyddiodd ei hunan fel y model ar gyfer y gwaith gan gyfuno ffotograffiaeth a phaent. Fe soniodd bod y diptych wedi’i seilio ar y tebygrwydd rhang y ddau draddodiad o’r Fari Lwyd a’r Jonkonnu, tra hefyd yn cyfierio at ddawns fasgiau Penceffyl yn nhir Mande yn Mali, Gorllewin Affrica. Roedd y gwaith yn chwarae ar y cyfosodiad o’r traddodiadau a’r gwrthrychau – gan gyfeirio at benyweidd-dra; dathlu; tywyllwch a golau; trawsnewidiad; llawenydd; myfyrdod; defod; bywyd a marwolaeth. Mae’r artist hefyd yn cyfeirio at ei hiraeth am Trinidad a Tobago yn ei gwaith.
Dywedodd: ‘Mae traddodiadau’r Nadolig, dawnsfeydd masgiau a charnifalau wedi fy niddori i o hyd. Roedd profiadau fy magwraeth yn Trinidad a’r cyflwyniad i Carnifal wedi fy nhrwytho mewn gwerthfawrogiad yn y ffordd mae gwyliau gwerin, carnifalau a dawnsfeydd masgiau yn meithrin ac adeiladu hunaniaeth gymunedol drwy berfformiadau dathliadol cyhoeddus sy’n gwneud defnydd ar fasgiau, cerddoriaeth a symudiad. Mae pwysigrwydd Y Fari Lwyd o ran aestheteg perfformio, i fi, yn gorffwys o fewn y ffyrdd y mae’r traddodiadau gwerin yn adennill llawenydd casgliadol, gan dynnu pobl a diwylliant ynghyd – gan gadarnhau angen i ddawnsio gyda masgiau fel ffordd o ddathlu bywyd mewn byd sy’n fwyfwy pegynnol bellach.’
Dyma ddau o’r pedwar prosiect sydd yn ffurfio ymgyrch dadgoloneiddio casgliad celf y Llyfrgell. Datblygodd y ddau comisiwn arall gan yr artistiaid Mfikela Jean Samuel a Jasmine Violet allan o eitemau sydd o fewn casgliad mapiau cenedlaethol y Llyfrgell, gyda phwyslais arbennig ar hanesion anodd o gaethwasiaeth a choloneiddio. Gellir darllen am y ddau gomisiwn arall yn yr erthygl Mapiau, celf a dadgoloneiddio gan Guradur Cynorthwyol Mapiau’r Llyfrgell Ellie King.