CYNFAS

Klara Sroka
7 Hydref 2024

Ail-ddweud Stori’r Cymoedd

Klara Sroka

7 Hydref 2024 | Minute read

Project ymgysylltu drwy gelf a threftadaeth yw Ail-ddweud Stori'r Cymoedd sy'n canolbwyntio ar ddarganfod a rhannu gwybodaeth a dehongliadau newydd gyda thrigolion y Cymoedd. Y weledigaeth hirdymor yw creu casgliad cenedlaethol o gelf sy'n adlewyrchu pobl, diwylliant a hunaniaeth y Cymoedd, yn adnodd hygyrch, gwerthfawr i'r dyfodol. Daw'r nawdd gan Gronfa Gasgliadau Esmée Fairbairn, drwy'r Museums Association.  

Trip atgofion Pwyllgor Pwll Lee Gardens i Ynys y Barri, Mehefin 2023

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymestyn y project cydweithredol hwn tu hwnt i'r rhwydwaith o ysgolion a chymunedau, er mwyn creu gweledigaeth gadarn ar y cyd ag Amgueddfa ac Oriel Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr – dwy amgueddfa gydnabyddedig yng nghalon y Cymoedd. Drwy gydweithio mae'r bartneriaeth wedi agor llygaid i rannu casgliadau, datblygu strategaeth eirioli am hyd oes y project a meithrin perthynas waith gadarn gyda chymunedau ac ysgolion.  

Pwy sydd wedi ymgysylltu â phroject Ail-ddweud Stori'r Cymoedd?

Yn ystod cymal lansio'r project dyma Klara Sroka, Swyddog Addysg ac Ymgysylltu Cymunedol Amgueddfa Cymru, yn derbyn hyfforddiant ar gasgliadau presennol, cadwraeth, a pholisïau/gweithdrefnau diogelwch yn y tair amgueddfa. Drwy greu casgliad digidol o weithiau celf o'r tair amgueddfa, sy'n cynnwys dros 645 o eitemau, mae Klara wedi sicrhau mynediad i'r gweithiau i'r grwpiau ymgysylltu.

Gweithgaredd Casgliad Celf y Cymoedd gydag Ysgol Uwchradd Pen-y-Dre, Mehefin 2023

Sesiwn baentio Storïau Celf a Natur y Cymoedd gyda dosbarth o blant blynyddoedd 4 a 5 yn Ysgol Gynradd Dowlais 

Trip disgyblion Ysgol Gynradd Dowlais i Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Arddangosfa Grŵp Celf Weledol Dowlais yn Nhŷ'r Injan, Dowlais, 2023

Gyda chefnogaeth Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon roedd Klara yn eiddgar i sicrhau bod aelodau'r grwpiau ymgysylltu yn cynrychioli trawstoriad eang o bobl, ac o amrywiaeth o gymoedd. Mae'r grwpiau yn amrywio – o blant ifanc, i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3-5, gweithwyr 40+, a phobl hŷn – ac mae pob un yn dod â phersbectif gwerthfawr i broject llawn ysbrydoliaeth. Y grwpiau sydd yn cyfrannu'n barod yw; Pwyllgor Pwll Lee Gardens Penrhiwceibr, Ysgol Gynradd Dowlais, Coleg y Cymoedd yn Aberdâr, Ysgol Uwchradd Pen-y-Dre, Grŵp Celf Weledol Dowlais, The Creative Hub, Gwasanaeth Ieuenctid YEPS Rhondda Cynon Taf, a Choleg Merthyr. Mae'r grwpiau hyn wedi bod yn creu gweithiau celf, yn dehongli, cynnal digwyddiadau cyhoeddus, trefnu archifau, a rhannu straeon newydd drwy gydol y project.  

Yn ogystal â'r gweithgaredd hwn, ers Mehefin 2023 mae Klara hefyd wedi bod yn gweithio gyda grwpiau newydd ar gasglu dehongliadau a straeon am fywydau LHDTC+ yng nghasgliadau'r Cymoedd.

Pa weithgareddau gafodd eu datblygu fel rhan o broject Ail-ddweud Stori'r Cymoedd?

Ar ddechrau 2022 datblygodd Klara gyfres o weithgareddau ymgysylltu unigryw i gasglu gwybodaeth, dehongliadau a storïau newydd gyda'r gwahanol grwpiau. Un gweithgaredd oedd 'Oriel Lliain Bwrdd' pan ofynnwyd i grwpiau o Benrhiwceiber ac Aberdâr i ddewis (o ddetholiad bach o eitemau o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd) y gweithiau celf oedd yn rhoi'r adlewyrchiad mwyaf triw o'u hanes a'u hunaniaeth ddiwylliannol. Cynhaliwyd y gweithdai mewn awyrgylch cymdeithasol, braf, gan roi cyfle i'r cyfranogwyr adrodd straeon, a'u cofnodi drwy ysgrifennu eu hatgofion ar y lliain bwrdd. Y nod oedd rhoi cyfle i aelodau rannu persbectif newydd, ond hefyd i'w grymuso i guradu casgliadau celf eu cymoedd yn eu cymunedau eu hunain.

Gweithgaredd Oriel Lliain Bwrdd gydag aelodau Pwyllgor Pwll Lee Gardens ym Mhenrhiwceibr

Er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd iau, datblygodd Klara 'Storïau Celf a Natur y Cymoedd' gyda dosbarth o blant blynyddoedd 4 a 5 yn Ysgol Gynradd Dowlais ym mis Ebrill 2022. Mae wedi bod yn gyfle i blant ddysgu am artistiaid tirluniau Cymreig sy'n dathlu golygfeydd gwych y Cymoedd. Gwahoddwyd y plant i guradu arddangosfa eu hunain gyda gwaith celf o gasgliadau Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, cyn rhoi taith o'r orielau yn rhannu eu profiadau o'r gweithiau hyn.

Sut mae'r Casgliad Cenedlaethol yn cael ei rannu â chymunedau?

Digwyddiad dathlu Grŵp Celf Weledol Dowlais, Llyfrgell Dowlais, gyda phaentiad Melan Merthyr ar fenthyg

Arddangosfa Grŵp Celf Weledol Dowlais yn Nhŷ'r Injan, Dowlais, 2023

Arddangosfa Grŵp Celf Weledol Dowlais yn Nhŷ'r Injan, Dowlais

Mae gan y project sawl nod parthed rhannu casgliadau. Un nod yw benthyg gweithiau o'r storfeydd yng Nghaerdydd a'u dangos mewn lleoliadau pwysig yng nghymunedau'r Cymoedd. Ym mis Mai 2023 dangoswyd 'Melan Merthyr' (1954) gan Heinz Koppel yn Llyfrgell Dowlais ar gyfer diwrnod dathlu, gyda Grŵp Celf Weledol Dowlais yn ymateb i'r paentiad drwy greu dehongliadau, a gweithiau celf eu hunain. Diolch i lwyddiant y digwyddiad hwnnw, ym mis Awst 2023 trefnodd y grŵp gasgliad newydd o'u paentiadau, eu printiau a'u darluniau eu hunain a'u dangos mewn arddangosfa gyhoeddus yn Nhŷ'r Injan yn Nowlais ochr yn ochr â saith o weithiau ar fenthyg o Amgueddfa Cymru.

Cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach

Yn ogystal â gwaith allestyn, mae Klara wedi bod yn datblygu presenoldeb y project ar sawl platfform digidol. Mae wedi creu cysylltiadau i wefannau'r ddwy amgueddfa bartner a ffilmio cyfres o 10 vlog yn rhoi cip tu ôl i'r llenni i wylwyr ar oriel gelf fyw, yr amgueddfeydd partner, plant yn curadu eu casgliadau eu hunain, a'r arddangosfeydd o holl waith y cyfranogwyr. Mae'r Orielau Lliain Bwrdd wedi bod yn ffefryn mawr, a chyfranogwyr wedi dod ag eitemau personol a ffotograffau i'w rhannu ymysg ei gilydd er mwyn cyfoethogi'r cysylltiadau a dod â'r project i galon y cymunedau hyn.  

Beth nesaf i broject Ail-ddweud Stori'r Cymoedd?

Issac o Bwyllgor Pwll Lee Gardens yn dysgu sganio ffotograffau ar gyfer cyfrif archif y grŵp gyda Chasgliad y Werin.

Mae Klara wedi galw ar arbenigedd Casgliad y Werin Cymru, sydd wedi bod yn cefnogi'r cymunedau hyn drwy gynnig hyfforddiant er mwyn archifo a dogfennu eu heitemau eu hunain a rhoi cyfle i gynulleidfa ehangach ddysgu gwybodaeth newydd a chynnig dehongliadau heu hunain o'r casgliad.    

Yng ngwanwyn 2023 fe gynhaliadd Bwyllgor Pwll Lee Gardens eu Taith Gelf yn y pentref, gan arddangos 19 eitem o'r casgliad celf a diwydiant mewn tri adeilad unigryw. Cafodd hyn yn cael ei gyd-guradu, gyda'r grŵp yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus tra bod y daith ar agor i'r cyhoedd.

Bydd ymchwil i storïau a dehongliadau LHDTC+ o gasgliadau celf y Cymoedd yn parhau gydag amryw grwpiau ieuenctid ym Merthyr a Chwm Cynon yng nghymal olaf y gwaith ymgysylltu, ac wrth i ni agosáu at ddiwedd y project bydd pob dehongliad newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar gael i'r cyhoedd drwy ein gwahanol blatfformau.


Cafodd Klara Sroka ei phenodi'n Swyddog Addysg ac Ymgysylltu Cymunedol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Hydref 2021. Fe ymunodd â'r Amgueddfa ar ôl gyrfa o 16 mlynedd fel athrawes, ac mae hi hefyd yn artist cyfranogol yn y gymuned a enillodd radd Meistr Celfyddyd Gain yn 2021. Mae hi bellach yn gweithio i Amgueddfa ac Oriel Cyfarthfa fel Cydlynydd Celf ac Arddangosfeydd.


Share


More like this