Creadigrwydd mewn Dalgylch Diwydiannol
gan D. Roger Lewis MA, Mehefin 2024
Dyw hi ddim yn amlwg ar unwaith y byddai’r amgylchfyd ffisegol a diwylliannol yn Nowlais yn ffafriol ar gyfer datblygu unrhyw sgiliau creadigol.
Roedd y sŵn di-baid, arogl a phresenoldeb llethol a threchol diwydiant, ddydd a nos yn fythol.
Roedd diwydiant yn bodoli i greu cyfoeth i’r rheiny a oedd yn gyfoethog yn barod ac a oedd yn poeni dim am iechyd a lles eu gweithwyr oedd yn byw mewn amodau sylfaenol iawn.
Gwelwyd llygredd ym mhob man, a fawr ddim o ystyrraeth i’r amgylchedd na’r dyfodol. Roedd yn gyfnod lle creu cyfoeth oedd y brif flaenoriaeth a’r gweithwyr yn ymdrechu yn y ffordd orau posib heb gael dweud eu barn ynghylch sut byddai neu allai eu bywydau ddatblygu.
Ar gefndir tebyg, mae’r ffaith i ddoniau ddod i’r fei yn rhyfeddol i ddweud y lleiaf. Roedd dod o hyd i ddihangfa rhag y llafurio a slafdod dyddiol yn dyngedfennol i oroesi.
Roedd yna ddealltwriaeth bod diwylliant yn cynnig nid seibiant rhag y llafurio dyddiol yn unig, ond yn cynnig llwybr parhaol allan o’r fodolaeth hon. Gwireddwyd hynny mewn nifer o ffyrdd. Roedd y capel yn ddewis amlwg fyddai’n arwain ar astudio cerddoriaeth drwy gorau, cerddorfeydd a grwpiau drama. Maethwyd celf a llenyddiaeth mewn llyfrgelloedd, grwpiau celf, ystafelloedd darllen a’r Ysgol Sul.
Roedd angen trefnu, felly sefydlwyd grwpiau addysg cymunedol. Un grŵp Sefydliad Dowlais, wedi’i sefydlu gan John Dennithorne a Chrynwyr eraill yn y 1930au. O ganlyniad i’r grwpiau hyn, fe ymgysylltodd gannoedd o bobl gyda chelf a chrefft ac ym 1944 ffurfiwyd Cymdeithas Gelf Merthyr Tudful, rhagflaenydd i Grŵp Celf Weledol Dowlais.
Mae artistiaid sydd â chysylltiadau â Dowlais yn cynnwys: Heinz Koppel, Robert Alwyn Hughes, John Uzzell Edwards, Dewi Bowen, Cedric Morris, Esther Grainger ac Arthur Giardelli.
Roedd y rhain i gyd yn fodd o ddod â chelf i Gymoedd y De.
Atodiad
- Heinz Koppel – Merthyr Blues
- Robert Alwyn Hughes – Dowlais Top Station
- Ivor Williams – Portrait of John Dennithorne
- John Uzzell Edwards – Penydarren
- Dewi Bowen – Glowr Bach, Little Collier Boy
- Cedric Morris – Dowlais from the Cinder Tips, Caeharris
- Esther Grainger – Portrait of a Miner’s Wife
- Arthur Giardelli – Winter Sea
Grŵp Celf Weledol Dowlais: Amdanom ni
Pauline Evans
Fe ddechreuais i ddysgu paentio yn haf 2020 mewn academi gelf ar-lein. Mae'n well gen i ddefnyddio paent acrylig mewn arddull lac, arddulliol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar forluniau a thirluniau.
Mae arfordir Sir Benfro bro fy mebyd wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr, yn ogystal â thirwedd garw Bannau Brycheiniog ger fy nghartref i heddiw ym Mhantysgallog, Merthyr Tudful.
Ers ymddeol ar ôl 26 mlynedd yn dysgu celf a chrefft i blant cynradd, rydw i'n mwynhau rhannu fy mrwdfrydedd celfyddydol drwy gynnal gweithdai acrylig i ddechreuwyr yn yr hwb celf lleol a grwpiau o fenywod, a phaentio i godi arian i elusennau.
Mae dod yn rhan o broject Ail-ddweud Stori'r Cymoedd gyda Grŵp Celf Weledol Dowlais wedi agor fy llygaid i waith cymaint o artistiaid Cymru ac i destunau newydd drwy weld hen luniau o Ddowlais, a fy annog i arbrofi â darluniau pensil ac inc a phrintio leino.
Mae'r arbrofion hyn yn byw mewn llyfr braslunio sy'n cyd-fynd â'r project hwn.
Mair Gwynedd Smith
Mae Mair yn mwynhau paentio cain dyfrlliw ac acrylig. Ei phrif ddiddordeb yw creu paentiadau cyfriniol, ysbrydol sy'n cyfleu sensitifrwydd y testun.
Mae ganddi ddawn gyda geiriau, ac yn arddangos ei barddoniaeth ochr yn ochr â'i lluniau er mwyn rhoi elfen ddyfnach i'w gwaith.
Claire Hutter
Cariad at liw a darlunio achosodd i Claire droi at baentio dyfrlliw mewn cyfnod trist yn ei bywyd, a bu'r cyfle i fod yn greadigol yn gymorth iddi ganfod heddwch. Un o Newcastle upon Tyne yw Claire, a symudodd i Gymru yn 2004 ac sydd wedi byw ym Merthyr Tudful ers 2016.
Mae hi'n Gristion, yn wraig i Alex, ac yn dysgu ei tair merch o adref. Bydd Claire yn paentio i gyfleu ei hapusrwydd a'i gobaith sicr o weld golau'r Arglwydd a phrydferthwch yn y cread. 'Diben lliw yw Clodfori'r Golau, Clodfori'r Orsedd' yn ôl geiriau un gân. Mae Claire yn mwynhau paentio testunau amrywiol, gan gynnwys blodau, tirluniau a threfluniau.
Er bod angen llawer o ymarfer i feistroli paentio dyfrlliw, mae'n grefft hynod ddiddorol i'w dysgu. Mae cyffro yn y broses o greu a gwylio'r lliwiau'n cydredeg, a bydd Claire yn mwynhau rhannu ei chariad at ddyfrlliw.
Mae Claire yn dysgu yn y Bothy, ac yn rhedeg dosbarth celf Beiblaidd yn eglwys y Bedyddwyr, Merthyr. Yn ddiweddar, mae hi wedi arddangos yn lleol mewn sioeau unigol a grŵp, yn y Bothy a Chastell Cyfarthfa ym Merthyr, Llyfrgell Dowlais, Canolfan Orbit ac Oriel Stryd y Frenhines yng Nghastell-nedd.
Am ragor o wybodaeth ac i drafod comisiwn, ewch i wefan clairehutter.co.uk.
Lily Hutter
Egin-artist pedair ar ddeg oed yw Lily Hutter, sy'n mwynhau darlunio o'r dychymyg. Mae hi'n byw ym Merthyr Tudful ac yn astudio Celf ar gyfer TGAU.
Pensiliau a phaent acrylig yw ei hoff gyfrwng.
Angela Lennon
Dros y blynyddoedd mae Angela wedi llwyddo i gyfleu naws y Cymoedd, o darddle afon Taf yng nghysgod Bannau Brycheiniog i dref Merthyr Tudful. Bydd hi'n defnyddio lliw a thechneg i greu tirluniau sy'n llawn rhythm a llif. Mae pob llyfiad, smotyn a chrafiad yn cydweithio i droi olew neu acrylig yn stori llawn symudiad a golau. Edrychwch yn fanwl ac fe welwch chi fod bywyd gwyllt yno bob tro i gyfleu'r teimlad o fyw ac ymgolli ym myd natur.
Yn ystod ei gyrfa mae Angela wedi dangos ei gwaith mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, cynnal projectau a gweithdai lleol, a pharhau i gefnogi diwylliant celfyddydol bywiog yr ardal. Mae hi wedi meithrin perthynas agos â'r diwydiant twristiaeth lleol, ac mae nifer o'i gweithiau yng nghasgliad preifat Amgueddfa ac Orielau Castell Cyfarthfa.
Elfen flaenllaw arall o'i bywyd yw gwaith cymunedol, fel athro yn y gymuned ac mewn addysg uwch. Ym mis Mehefin 2016 gorffennodd Angela'r murlun comisiwn ym mhentref Pontsticill, sy'n dangos pwysigrwydd pobl, hanes, adeiladau a chynefin, a'u dylanwad dwfn ar fywydau trigolion un o bentrefi bychan y Cymoedd.
Christine Lewis
Fy enw i yw Christine Lewis (Underwood gynt) a ces i fy magu ym Mhenydarren gyda chysylltiadau cryf â Dowlais. Ers ymddeol o ddysgu, rydw i nawr yn byw yng Nghaerdydd.
Dyma fi'n mynd i Ysgol Gynradd Gellifaelog, ac yn 10 oed fe enillais i dystysgrif gan yr Academi Frenhinol mewn cystadleuaeth i blant cynradd ar draws y DU.
Es i wedyn i Ysgol Ramadeg Cyfarthfa, ac ar ôl y ddwy flynedd gyntaf ches i ddim cysylltiad ffurfiol â chelf fel pwnc. Ar ôl Lefel A fe es i i Brifysgol Abertawe ac ennill gradd BA(Anh) mewn Daearyddiaeth. Rydw i wedi gweithio fel Swyddog Gyrfaoedd, Darlithydd Prifysgol, Tiwtor Preifat, ac fel athrawes mewn uned arbenigol.
Mae fy niddordeb mewn daearyddiaeth a hanes wedi fy arwain i astudio milltir sgwâr bro fy mebyd, ac mae gen i ddiddordeb hefyd mewn hanes natur.
Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda thecstilau, ac fel un o blant y 50au ces i fy magu i beidio gwastraffu dim. Rwy'n defnyddio'r un meddylfryd yn fy ngwaith celf, ac yn ailgylchu ac ailddefnyddio cymaint â phosib a chydblethu fy niddordebau.
Roger Lewis
Fy enw i yw Roger Lewis. Ces i fy ngeni yn Nowlais ond rydw i nawr yn byw yng Nghaerdydd. Dyma fi'n mynychu Ysgol Gynradd Gellifaelog ac ysgol Ramadeg Cyfarthfa cyn dod yn athro, prifathro, a darlithydd prifysgol. Fi oedd aelod cynta'r teulu i ennill gradd prifysgol. Er i fi astudio Celf yn yr ysgol wrth lin Dewi Bowen, ac yn y coleg yn ddiweddarach gyda Charles Burton, dyn y Gwyddorau ydw i.
Dwi'n mwynhau paentio dyfrlliw, pen a golchiad, a darlunio pensil. Datblygais ddiddordeb penodol mewn ffotograffiaeth, a dwi’n aelod cysylltiol o'r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol. Canolbwynt fy ngwaith yw tirwedd naturiol a diwydiannol de Cymru, a dwi wedi bod yn ei ddogfennu ers dechrau'r 70au.
Roedd y rhan fwyaf o ddynion y teulu yn gweithio i'r Dowlais Company – glowyr, gofaint, gyrrwyr injanau tynnu ac ostler hyd yn oed. Felly mae gen i ddiddordeb erioed yn hanes cymdeithasol a diwydiannol y Cymoedd. Rydw i wedi cysylltu fy ngwaith celf a'n ffotograffau â hanes llafar y teulu er mwyn fy helpu i ddeall bywyd ar droad yr 20fed ganrif yn well. Roedd fy mhanel ffotograffau ar gyfer y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol, yn dangos brodorion Tsieina a Tibet, hefyd yn help i fi ddeall bywyd bob dydd pobl gyffredin.
Christine McCarthy
Rydw i'n un o sylfaenwyr Grŵp Celf Weledol Dowlais.
Ar ôl ymddeol o nyrsio ar ôl 40 mlynedd, roedd angen i fi ganfod diddordeb newydd er mwyn cyfarfod pobl newydd.
Dyma fi'n cymryd Dosbarth Celf wedi'i redeg gan y WEA yn Llyfrgell Dowlais.
Ar ôl i nawdd y cwrs hwn ddod i ben dyma fi'n troi at y Prif Lyfrgellydd, Sian Evans, wnaeth gytuno y gallen ni ddal ati gyda'r dosbarth celf yno os y byddai'n agored i unrhyw un yn y gymuned oedd â diddordeb.
Dyma ni'n dechrau ym mis Medi 2014, ac roedd y fenter yn llwyddiant mawr gyda rhyw 12 i 20 yn mynychu bob wythnos.
Rhaid diolch yn fawr i Sian Anthony a staff y llyfrgell am eu cefnogaeth a'u hanogaeth dros y blynyddoedd.
Vicky McKenzie-Rumble
Fi yw trefnydd cangen Merthyr Tudful y Royal British Legion Poppy Appeal, ac un o sylfaenwyr y grŵp Poppy Crafters. Dwi wedi caru ffotograffiaeth a byd natur erioed. Nes i adael Ysgol Uwchradd Pen y Dre ym 1980 yn 17 oed, ac aeth gwaith â fi i Lundain a'r Fforest Newydd cyn dychwelyd i Ferthyr yn 2000. Daeth celf yn rhan o 'mywyd i yn ystod pandemig Covid. Fel gwirfoddolwyr yn y gymuned, dyma fi'n dechrau Poppies in the Park – arddangosfa awyr agored bedair wythnos ym Mharc Cyfarthfa. Roedd e'n ffordd ymarferol o helpu pobl oedd yn unig, drwy ofyn i bobl ddefnyddio'u hamser yn greadigol er mwyn dyrchafu ac ysgogi eraill drwy'r pandemig hir.
Diolch i'r 8000 o babis cartref gafodd eu rhoi, dechreuodd Poppy Crafters. Arweiniodd y llwyddiant hyn at 4 arddangosfa fawr arall, dan do y tro hyn, diolch i waith caled a help y gymuned. Rydw i wedi defnyddio fy sgiliau prin i godi arian at amryw elusennau. Dyma fi'n ymuno â Grŵp Gweledol Dowlais gydag awydd i ddysgu paentio a throi fy llaw at sgiliau newydd. Ysbrydolwyd fy mhaentiad cyntaf yn ystod y cyfnod clo gan fat diod gan Janet Bell (artist o Fiwmares yn Ynys Môn). Dwi'n gobeithio creu un fy hun ryw ddiwrnod.
Jenny Willcock
Dwi wedi mwynhau paentio a darlunio o gyn cof. Fel plenty, roeddwn i’n treulio fy holl amser rhydd yn bod yn creadigol o bob math, hobi sy’n parhau hyd Heddiw. Yn ogystal â phaentio a darlunio, dwi wedi mwynhau croesbwyth, gwneud llyfrau sgrap, a phob math o weithgareddau celf a chrefft erioed.
Fe astudiais Celf fel pwnc ar gyfer TGAU a llwyddo i ennill Gradd B. Doedd gweithio ar fy mhrojectau ar gyfer TGAU byth yn teimlo fel gwaith called, ac yn ryddhad o gymharu â’r pynciau trymach fel Maths a Gwyddoniaeth. Yn ogystal â hyn, roeddwn yn gweld creu celf fel proses garthartig ac yn ffordd arbennig o arbed straen. Serch hynny, am nifer o flynyddoedd yn dilyn y cyfnod hwn, roeddwn i’n ei weld yn anodd cael amser i ymroi i’r hyn rwyf mor angerddol yn ei gylch, er fy mod yn ysu am gael mynd ati i greu celf eto.
Yn 2010 symudais i Ferthyr Tudful o Sutton Coldfield yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, i dderbyn f’apwyntiad cyntaf fel Therapydd Iaith a Lleferydd, rôl dwi’n parhau ynddi hyd heddiw. Mae fy swydd yn caniatau i mi fod yn greadigol i ryw raddau, ond roeddwn i’n dal yn awyddus i ail-gydio mewn paentio, darlunio a ffurfiau eraill o gelf a chrefft.
Yn 2013 fe sylwodd fy ffrind o’r eglwys, Eglwys Fedyddol y Parc, bod yna ddosbarth celf yn rhedeg yn yr ystafell uwchben yr eglwys a fy ngwahodd i fynd i’r dosbarth gyda hi. Am gwpl o flynyddoedd ar nosweithiau Gwener, byddwn ni’n mynd i’r dosbarth gyda’n gilydd a mwynhau mireinio’n sgiliau paentio a darlunio, yn ogystal â mwynhau a buddio o gwmni aelodau eraill y grŵp.
Yn anffodus, dirywiodd aelodaeth y grŵp dros y blynyddoedd, ac fe ddaeth y dosbarth i ben pan drawodd y pandemig. Wrth i ni ail-ymddangos o’r cyfnod clo, fe ymchwiliais i ddosbarth celf arall a roeddwn yn hynod o falch fy mod i’n gallu mynychu dosbarth Grŵp Celf Weledol Dowlais. Mae cael y cyfle i baentio, darlunio ac ymgysylltu gyda ffyrdd eraill o greu celf eto wedi bod yn ffordd arbennig i mi wrthsefyll straen, datblygu fy ngallu artistig, ac yn fwy na dim creu ffrindiau newydd ar hyd y ffordd. Mae bod yn rhan o’r project Ail-ddweud Stori’r Cymoedd wedi cynnig cyfleoedd i roi tr oar printio sgrîn am y tro cyntaf, a chreu printiadau leino eto, rhywbeth nad oeddwn i wedi’i wneud ers i mi fod yn yr ysgol! Yn ogystal mae wedi agor fy llygaid i’r dirwedd ddiwylliannol, gymdeithasol a diwydiannol yr ardal dwi wedi’i galw’n gartref dros y 14 mlynedd ddiwethaf.
Ers y project Ail-ddweud Stori’r Cymoedd, mae Grŵp Celf Weledol Dowlais wedi tyfu. Rydyn ni o hyd yn falch o groesawu aelodau newydd ac mae modd i chi ymuno â ni drwy gysylltu â Llyfrgell Dowlais. Mae’r grŵp yn cwrdd bob prynhawn Mercher am 2pm–5pm yn Llyfrgell Dowlais.