Blŵs Diwrnod Golchi
Gan Laura Orchard
Arddangosfa o hen offer golchi wedi’u hargraffu’n ofalus ar gynfas cotwm gwyn. Mae’r ddelweddaeth yn gweithio’n berffaith, ac i rai gall gyfleu rhes o gynfasau’n cwhwfan, fel hwyliau, yn erbyn awyr las glir.
Ond roedd y leiniau sychu dillad yn agos at ei gilydd, fel roedd y bobl, ac anaml roedd yr awyr yn glir. Roedd y rhesi prysur o gynfasau gwyn, ac nid mor wyn, yn ganlyniad oriau o lafur a dagrau.
Achosodd y galw di-baid am ddillad ‘llyfn a glân’, perffeithrwydd mae pobl yn dal yn ceisio’i sicrhau heddiw, i fysedd droi’n goch a garw, ac i’r croen hollti a chracio. Bydd stemio cotwm a haearn smwddio chwilboeth yn dangos eu hôl yn fuan iawn ar y dwylo cryfaf hyd yn oed.
Roedd y sebonau yn arw ac yn gostig gyda’r baw wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y defnydd, a’r lliwiau gwreiddiol yn aml wedi hen fynd yn angof. Y cymysgedd treiddiol o lwch glo a chwys oedd yn gorchuddio dillad a chyrff pob gweithiwr, pob plentyn afreolus. Er hynny byddai’r wraig yn seboni ac yn sgwrio, yn berwi ac yn rinsio – llafur cariad a balchder.
Mae’n werth cofio y tro nesaf y byddwch chi’n llwytho’ch peiriant sgleiniog, mai nid ‘blŵs’ oedd diwrnod golchi’r gorffennol, ond yn hytrach arlliwiau o lwyd a du ac wrth gwrs coch... er na all dim gymharu â’r llyfn a gwyn.
Diwrnod Golchi yn y Cymoedd
Gan Vicky McKenzie-Rumble
Ein cynfas gwely, hanes o olchi creadigol, atgofion annwyl yn cael eu rhannu yn y dosbarth, atgof o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mam-gu gyda’i bwrdd sgwrio, haearn du fflat yn hisian, arogl sebon carbolig, golchi gwallt, sebon mewn llygaid a dagrau.
Mamau’n pegio’r dillad, llinell o glytiau Terry gwyn disglair yn chwythu yn y gwynt.
Creu swyddi ar gyfer y genhedlaeth nesaf, Hoover, yn codi tref allan o ddirywiad.
Nid aur du o’r ardal lofaol ond nwyddau gwyn, dau dwb oddi ar y llinell gynhyrchu.
Ysbryd cymunedol, caneuon o’r pyllau’n cael eu disodli gan ganeuon y cyfnod, yn cael eu canu gan gôr merched newydd.
Mamau yn ein dysgu rhag golchi ein dillad budr yn gyhoeddus.
O leiniau sychu dillad cymunedol ar gyfer y stryd gyfan, i leiniau cylchdro yn ein gerddi preifat ein hunain… dillad isaf ar y tu mewn, crysau yn y canol, tywelion ar y tu allan… Dydd Llun, cynfasau gwely, a dim golchi o gwbl ar ddydd Sul.
Cymdeithas sy’n newid, dim ond pennod yn ein hanes golchi oedd Hoover, a agorodd yn y 1940au, a chau’n fuan.
Ni yw’r genhedlaeth a fydd yn cofio popeth am ddiwrnodau golchi yn y cymoedd, ac fel o’r blaen, mae angen swyddi sy’n talu’n dda, y Zoomers yn disodli’r Boomers.
Bydd Cenhedlaeth Z yn rhoi bywyd newydd i’n tref werthfawr, ac efallai mai eu hatgofion a’u straeon nhw fydd… Alexa, Golcha’r Dillad.