Progress
gan Mair Smith
Along the new built granite row, great vast spoil heaps surge and grow,
Settling silica tarry smotes upon the terraced streets below.
Workers like ants hoist metal chains, naphthalene scours out the drains.
Slag sparks out of purer steel; the shimmer seems grotesque, surreal.
The barren hills in Dowlais, that wear the cloak of night;
Cough out careworn families that must accept their plight.
Plagued by screeching noises, hammered out and muddled;
There pounds the early morning dew, as iron pig is puddled.
Monster grinders churn the coke – vibrating – adding to the smoke.
The rolling mill starts pounding steel and turns out axles for a wheel.
As golden fluid fills the sand, and moulds some metal for the rails;
An engine blasts a flow of air, igniting liquids for huge pails.
The ravaged scenes and bones of pipes, summon up a ghastly blight,
To fill canal boats and steam trains who chug their burden out of sight.
For new world markets have been found as speculators blow up ground.
The globe now powered by steam galore and micro measured, boiling ore.
For all must pay a price that’s real, diversify, invent and trade,
Progression in the factory built from mottled land and coal and shale.
And tame disease from poisons made, to temper life’s mixed-up brocade.
But future lives will fill the green with windswept turbines – yet unseen.
Symudodd Heinz Koppel i Ddowlais ym 1944 o Brâg yn Tsiecoslofacia, er mwyn ffoi rhag erledigaeth. Cefnogodd y gymuned drwy ddysgu celf i oedolion a phlant, yn rhannol fel therapi yn ystod y rhyfel.
Mae ansawdd haniaethol, breuddwydiol i’w baentiad. Mae’r adeilad lliwgar yng nghanol y llun yn edrych fel pabell. Nid yw’r bobl, yr adeiladau, y cantorion, na’r anifeiliaid wedi’u llunio i raddfa.
Roedd Heinz, fel y seiciatrydd Freud, yn credu mewn mynegiadaeth, a gosododd ei emosiynau mewn dehongliad artistig. Mae tyndra yng ngwaith Melan Merthyr rhwng cyfosod delweddau naturiol fel y fam, y babi, a’r cŵn; a dyfeisiau’r 1950au fel blociau tŵr o fflatiau, hysbysebion, goleuadau stryd, beiciau a cheir.
Mae’r lliwiau llachar yn ei waith, cantorion sy’n arnofio, a’r datgysylltiadau rhwng y paneli wedi arwain rhai i gredu bod agwedd swreal neu isymwybodol i’w waith.
Mair Gwynedd Smith
Awtopsi o Baentiad
Gan Angela Lennon
Pwy a ŵyr beth sy’n mynd drwy feddwl artist wrth iddyn nhw baentio. Mae pawb yn wahanol.
Gwn fod amser, lleoliad, meddyliau a phrofiadau fel petaen nhw’n dod at ei gilydd wrth greu darn o waith celf.
Mae fy mywyd yn y gorffennol a’r presennol yn dylanwadu ar fy newis o bwnc, arddull, lliwiau a naws.
Mae’r rhain yn newid ar hyd y blynyddoedd heb rybudd, mae’n ymddangos bod prosesau creadigrwydd mor anodd eu diffinio ag erioed.
Dylanwad
Yn debyg iawn i lwyfannau Rhyngrwyd a Chyfryngau Cymdeithasol heddiw (2024), lle gall unigolion a grwpiau gyrraedd cynulleidfaoedd enfawr ledled y byd drwy wasgu botwm ar eu ffôn symudol, cafodd Heinz Koppel ei ddylanwadu gan y golygfeydd a’r synau o’i gwmpas cyn y 1950au ac yn ystod y 1950au pan baentiodd Melan Merthyr; yr unig wahaniaeth yw y byddai’n darllen cylchgrawn, yn mynd i’r sinema, neuaddau dawnsio ac yn gwrando ar y radio a recordiau finyl. Chafodd teledu ddim ei ddarlledu yng Nghymru tan 1952 ac nid oedd gan y rhan fwyaf o bobl set deledu tan y 1960au cynnar.
Mae’r cantorion yn chwarae rhan flaenllaw yn y paentiad Melan Merthyr, yn ogystal â’r chwarae ar eiriau amlwg. Fel y gwelir yn fy nehongliad i, cafodd Heinz ei ddylanwadu gan lawer o gantorion Blŵs adnabyddus: Shirley Bassey o Gymru (a’r albwm gyntaf iddi ei recordio Born to sing the Blues 1957 yn 21 oed) a’r actor, canwr ac ymgyrchydd Paul Robeson, Americanwr Affricanaidd o New Jersey a greodd gysylltiadau arbennig â phobl Cymru a’r Cymoedd, yn enwedig drwy Eisteddfod y Glowyr (1930–1960au). Roedd mwy o gyfnewid diwylliannau – tra bod Robeson wedi’i syfrdanu gan yr emynau oedd yn cael eu clywed yn yr Eglwysi, Capeli, Lleoliadau Cymdeithasol, roedd pobl Cymru yn cael eu dylanwadu gan Jazz, Blŵs a chymeriadau o dramor.