CYNFAS

Grŵp Celf Weledol Dowlais
7 Hydref 2024

Newid Diwydiant

Grŵp Celf Weledol Dowlais

7 Hydref 2024 | Minute read

MUSPRATT DUNMAN, Helen, Dymchwel weithfeydd dur Dowlais, 1937 © Amgueddfa Cymru

Casgliad Diwydiant Amgueddfa Cymru

HUTTER, Claire, Simnai Dowlais © Claire Hutter

Cyfnod Newydd o Ddiwydiant Ysgafn yn Nowlais

Cafodd Ddirwasgiad economaidd y 1930au effaith ddinistriol ar dde Cymru.

Fe greodd y Llywodraeth, oedd yn poeni am lefelau uchel diweithdra, Ddeddf Ardaloedd Penodol 1934, gan sefydlu ystadau diwydiannol fel yn Nhrefforest. Fe gynigwyd gwahanol anogaethau i bobl fusnes i gymryd y ffatris yma ac fe ddaeth nifer o Iddewon oedd yn ffoi rhag y Natsïaid yn Ewrop i lenwi’r ffatrïoedd hyn. Un oedd Joachim Koppel a ddihangodd rhag Tsiecoslofacia gan ddod â’i deulu, gan gynnwys ei fab Heinz Koppel, rhai gweithwyr allweddol ac offer arbenigol. Fe sefydlodd Aero Zip Fasteners, a gafodd ei atafael ar gyfer Ymdrech y Rhyfel.

Roedd Dowlais hefyd yn denu dynion busnes Iddewig émigré, a sefydlodd ffatrïoedd ar Ystad Ddiwydiannol newydd Ffordd Goat Mill, y gyn-Felin Rolio Gafr o Weithfeydd Dowlais.

Agorwyd un ffatri, OP Chocolates, gan Oscar Peschek o Fiena, lle y cynhyrchwyd danteithion siocled a’i harbenigedd, bisgedi crimp siocled. Mae’r ffatri’n dal yn gweithredu hyd heddiw wedi saithdeg-pum mlynedd ac yn cyflogi tua cant o bobl.

LEWIS, Christine, Eiconau Ffasiwn Dowlais © Christine Lewis

Yn agos at OP Chocolates oedd Welsh Products Ltd., gan y perchennog Mr Adler oedd yn gwneud botymau a theganau. Roedd y botymau wedi’u gwneud o blastig yn bennaf ac wedi’u hyrwyddo fel ‘Glamor Buttons’, ac roedden nhw’n cael defnydd helaeth yn y byd ffasiwn.

Roedd gan Laura Ashley a Glamor Buttons gryn dipyn yn gyffredin. Ganed Laura Ashley yn Nowlais ym 1925 ac fe gafodd Glamor Buttons eu cynhyrchu yno. Roedd y ddau yn eiconau y diwydiant ffasiwn a’r naill a’r llall yn cyflogi menywod y tu hwnt i’w ffatrïoedd.

Hutter, Claire, Laura Ashley © Claire Hutter

Roedd Glamor yn cyflogi menywod lleol i wnïo botymau ar fowntiau cardfwrdd yn barod ar gyfer y fasnach fanwerthu, ac yn hwyrach byddai Laura Ashley yn cyflogi menywod i wnïo dillad at ei gilydd yn eu cartrefu yn agos i’w ffatri yng Ngharno.

Byddai hyn yn caniatáu i fenywod ennill arian heb gael effaith ar eu cyfrifoldebau yn y cartref ac wrth fagu plant, ac y byddai’n cynorthwyo cyllid teuluoedd yn fawr.

38 Buttons
Rie, Lucie
© Ystâd the Ystâd yr artist/Ymddiriedolaeth Derek Williams/Amgueddfa Cymru

Roedd Lucie Rie yn cynnal ei bywoliaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd trwy wneud botymau cerameg wedi'u gwydro'n hardd, un o’r eitemau prin oedd ddim wedi’u dogni ar y pryd.

Arddangosfa Laura Ashley, Tŷ Injan, Dowlais, 2023

Ffotograff gan Claire Hutter

Yn yr arddangosyn yma mae defnydd Laura Ashley o’r gorffennol a Glamor Buttons wedi’u huno gyda phwythau addurnol yn rhoi pwyslais ar y cysylltiad hwn.

WILLCOCK, Jenny, Merthyr Ddiwydiannol Gynt 1 © Jenny Willcock

WILLCOCK, Jenny, Merthyr Ddiwydiannol Gynt 2 © Jenny Willcock

WILLCOCK, Jenny, Merthyr Ddiwydiannol Gynt 3 © Jenny Willcock


Share


More like this