Suddwyd y siafftiau cyntaf wrth greu pwll glo Penrhiwceibr ym 1872 ac fe gynhyrchwyd glo o’r pwll yn barhaus tan 1985 pan gaewyd y pwll am y tro olaf ar y 31ain o Ragfyr. Daeth y lofa i ben yn dilyn anghydfod hir a chwerw a arweiniodd at streic a barodd am flwyddyn gron o fis Mawrth 1984 tan fis Mawrth 1985.
Yn ystod y 1900au cynnar, fe heidiodd pobl i’n cymoedd glofaol o lefydd megis Cernyw lle roedd y diwydiannau’n dirywio, llefydd amaethyddol fel y Fenni a Henffordd. Daeth mewnfudwyr o Iwerddon yma hefyd, yn chwilio am fywoliaeth mwy ffyniannus pan roedd ein diwydiant glo’n llewyrchu.
Mae’r enw ‘Penrhiwceibr’ yn aml wedi arwain at ddryswch ynghylch ei gyfieithiad. Pen Rhiw yw ‘blaen y bryn’. A ‘ceibr’ yw trawst pren. Roedd cwm Cynon yn enwog bryd hynny am ei choed derw. Sefydlwyd y pwll glo fel pwll glo ‘Penrikyber’ a ddaeth, mae’n debyg, o ganlyniad i ymgais ffonetig Seisnig i sillafu’r enw Cymraeg cywir.
Tynnwyd y ffotograff hwn ar yr 20fed o Dachwedd, 1985 o ben bwll Rhif 2 gan Howell Thomas, Trydanwr Pwll Glo
Roedd y grŵp, sy’n sefyll ar offer ben pwll Rhif 1, i gyd yn gweithio yn y pwll glo.
Billy Thomas (uwchben). Chwith-Dde Tommy Corns, Danny Sheehan, Dennis Lynch, Ken Cadogan, Richard Riordan.
Caewyd Pwll Glo Penrhiwceibr Colliery ar y 31ain o Ragfyr, 1985.
Tynnwyd, datblygwyd ac argraffwyd y llun gwreiddiol hwn gan Howell Thomas o Berthcelyn.
Dim ond dau gopi sy’n bodoli.
Fel rhan o’n project Ail-ddweud Stori’r Cymoedd fe aethom i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Roedd modd i ni chwilio drwy’r archifau i ddod o hyd i weithiau celf o fewn y Casgliad Cenedlaethol sy’n cynrychioli ein cymuned.