Diane: Ry’n ni yn Nhŷ Gelato Zio, a ry’n ni’n siarad gyda Tino, sy’n mynd i rannu rhywfaint o’i atgofion o Benrhiwceibr, a gobeithio dweud sut wnaethon nhw ddod i sefydlu eu hunain ym Mhenrhiwceibr.
Tino: Reit, wel yr ateb i hynny, dwi’n mynd yn bell yn ôl i fy nhad-cu, a agorodd beth gafodd ei alw, ac sy’n parhau i gael ei alw’n Bracchi. Sef caffi, fel bar dirwest os hoffech chi. Fe ddaeth i Benrhiwceibr a’i agor ym 1926, blwyddyn y streic cyffredinol gyda llaw. Daeth draw gyda’i wraig, ddaeth ei feibion ddim y tro hwnnw, fe ddaethon nhw draw o’r Eidal yn hwyrach, achos dyna o ble ddaethon nhw’n wreiddiol. Daeth ei ddau fab draw, roedd ganddo ferch hefyd, ond fe arhosodd hi yn yr Eidal. Daeth Joe a Frank draw, derbyn rhwyfaint o’u haddysg yma. Doedd braidd dim gair o Saesneg ganddyn nhw pan gyrhaeddon nhw, ond yn amlwg fe wnaethon nhw addasu’n eithaf cyflym gyda’r iaith. Gweithio yn y busnes, a gweithio tu hwn i’r busnes. Gafodd y ddau eu gwneud yn ddinasyddion yn y tridegau, gwisgo’r khaki yn yr Ail Rhyfel Byd. Roedd y ddau yn Normandy ym 1944 hefyd. Ar ôl y rhyfel yn amlwg cafodd y ddau eu dimobio, aros yn y busnes ac roedd gan fy nhad sawl swydd gwahanol. Roedd e’n gweithio ar gyfer masnachwr glo, roedd e’n gyrru bysiau ar gyfer y Red and White – mae dal gen i ei dabiau bysiau adref. Fe wnaethon nhw sawl math gwahanol o fanwerthu, ond yn y pendraw fel cangen o un o’r busnesau roedden nhw’n cyfanwerthu pethau fel diodydd meddal, ac ar un adeg roedden nhw’n gwneud rhywfaint o fanwerthu tegannau a nwyddau ffansi. Yn wreiddiol, brawd ifancaf fy nhad ddaeth i’r Barri gyntaf achos fe brynon nhw fusnes yma ar Ynys y Barri. Ac yna fe ddilynodd fy nhad gyda’i wraig a’i blant, ar ddydd Gwyl Dewi ym 1967. A dyna pan ddaethon ni i’r Barri achos fe brynodd fy nhad fusnes arall yma ar yr ynys. Er hynny, cyn symud roedden nhw’n teithio nôl a ’mlaen rhwng Penrhiwceibr ac Ynys y Barri. Yn y pendraw, aeth braidd yn annodd arnyn nhw, achos roedden nhw’n teithio cyn i’r A470 gael ei adeiladu hyd yn oed. Felly roedden nhw’n cymryd y llwybr fach i gyrraedd y Barri, felly yn amlwg roedd yn cymryd yn hirach iddyn nhw ddod a mynd. Ac felly fe wnaethon ni werthu, a dod ar ein ffordd i’r Barri. Ac rydyn ni wedi bod yma ers hynny. Ie, dyna ni.
Diane: Felly beth oedd dy oedran pan adewaist ti Benrhiwceibr?
Tino: Roeddwn i tua naw oed. Roedd tŷ gennym oedd yn agos iawn i’r eglwys ac i’r ysgol gyfagos, ond ryw ddwy stryd i ffwrdd, felly i fynna aethon ni. Ac dyna lle aethon ni – fi, fy mrawd a’m chwiorydd – i’r ysgol plant iau ac yna dilyn i’r ysgol gyfun.
Karen: Pam benderfynon nhw ar Gymru?
John: A Penrhiwceibr!
Karen: Ond pam Cymru?
Tino: Y Bracchis oedd yr arloeswyr fel petai. Nhw ddaeth draw a dechrau cyflogi pobl o’u hardal nhw yng ngogledd yr Eidal. Ac yna fe wnaeth eraill ddilyn a dechrau agor siopau annibynnol. Daeth eraill draw a llwyddo cael swyddi gwahanol. Doedden nhw ddim i gyd yn y diwydiant manwerthu.
Karen: Felly oedd yna fwy yng Nghymru nag yn Lloegr?
Tino: Mae gan bob ardal o Loegr, a’r Alban hyd yn oed, gymunedau Eidalaidd cryf. Mae yna gymuned gref yn Bedford achos y gweithfeydd briciau. Ond fe ddaethon nhw o wahanol ran o’r Eidal. Mae’r un peth yn Glasgow er enghraifft, mae yna gymuned fawr yn Glasgow, ond fe ddaethon nhw o wahanol ran o’r Eidal. Felly pan maen nhw’n mynd yn ôl, neu mae eu cenedlaethau’n myn yn ôl, fel ry’n ni’n dychwelyd i’n tref fach ni yng ngogledd yr Eidal, Bardi, sy’n cael ei hadnabod fel ‘Cymru Fach’. Mae fel Bae Trecco ym mis Awst! Wir, mae Cymry’n dominyddu’r lle gyda’u hacenion Cymreig. Fyddech chi’n meddwl taw Trecco Bay yw e fan hyn hefyd. Ac ie dyma oedd yn digwydd, daeth bobl draw o’r Eidal. Bu i rai ohonyn nhw gerdded, ie cerdded draw. Ac wrth gwrs fe wnaethon nhw sefydlu’u hunain yn y Cymoedd, Abertawe, aeth rhai i orllewin Cymru ac i lefydd eraill. Felly dyma lle ydyn ni. Does dim llawer ohonom ni yn gweithio yn y diwydiant yma bellach achos doedd cenedlaethau’r dyfodol ddim am fod tu ôl i gownteri siop. Felly aeth y plant i swyddi gwahanol. Dwi’n gwybod i ddau neu dri ohonyn nhw fynd yn benaethiaid ysgol, eraill yn gyfreithwyr, a dwi’n siŵr bod doctoriaid hefyd. Ac eraill yn ddelwyr modur ac ati. Ond does dim cymaint ohonom ni ar ôl. Dyna fel mae hi. Ond ie, rydyn ni’n fyw ac iach. Fy ngobaith yw y bydd modd i ni basio hwn ymlaen i’r genhedlaeth nesaf, sy’n edrych fel y bydden nhw’n awyddus i gymryd yr awenau.
Karen: O mae hynny’n dda, mae’n neis gallu’i gadw o fewn y teulu.
Tino: Ie.
Christine: A sut wnest ti ddechrau gwneud dy hufen iâ dy hun felly?
Tino: Finne? Fy nhad-cu, fel yn y llun y gwnaethoch chi ddod o hyd iddo, roedd e’n arfer ei wneud e. Bosib yn y dauddegau hwyr neu’r tridegau cynnar, ac roedd e’n ei gynhyrchu yn y ffordd hen ffasiwn gydag iâ, casgen bren ac iâ. Ac roedd e’n mynd o amgylch y lle yn yr haf gyda chert hufen iâ gyda’i enw ar yr ochr. Pan oedd fy nhad yn fachgen byddai yntau’n gwthio’r cert o amgylch y lle fel ydych chi gwybod ar hyd strydoedd Penrhiwceibr. Ac fe wnaethon ni ddatblygu o hynny. Roedd e’n arfer gwneud ei gresion ei hun hefyd! Roedd yn arfer rhoi sachau bach glas o halen ynddyn nhw, roedden ni’n cynhyrchu’n squash ein hunain. Roedden ni’n awyddus i wneud pethau eraill, roedden ni’n rhedeg siop pysgod a sglodion hefyd, gwneud rhywfaint o fanwerthu. Rose: Felly beth yw dy atgofion o Benrhiwceibr? Oeddet ti’n ein gweld ni fel cymuned?
Tino: Oeddwn. Yn bendant a dwi’n falch i ddweud ei bod hi’n gymuned fyw ac iach hyd heddiw! Hir oes iddi, hir oes iddi. Roeddwn i’n ifanc pan adawon ni ond mae dal atgofion cryf gen i. Y pwll nofio hwnnw yn y parc – roedd Marco a finnau o hyd yn nofio yn hwnnw, dwi’n cofio hynny fel petai e ddoe. Cerdded tua’r lefel isaf, i’r traciau yno, sefyll ar y bont, gyda’r trenau stêm yn dod trwy, cerdded i’r ochr arall heibio’r gamlas a thua’r mynyddoedd yno. Chi’n gwybod, bod ymysg byd natur. Ie roeddwn i siŵr o fod wedi teithio ar hyd tipyn o Benrhiwceibr ar droed, hyd yn oed yn fachgen ifanc. Fyddwn i’n mynd tu hwnt i le ddylwn i fod wedi gwneud o ganlyniad i’n oedran i. Ond fe es i’r ysgol ym Mhenrhiwceibr yn wreiddiol. Roeddwn i yno gyda Marco nes i ni fynd i’r ysgol Gatholig yn Aberpennar.
John: Zio, ife dyna dy enw llawn, Zio, neu ydy e wedi’i fyrhau?
Tino: Na, mae Zio’n golygu ewythr yn Eidaleg. Pan wnaethon ni agor y sefydliad yma roedd y nau a’r nithod am ddod o hyd i rywbeth addas. Un o ferched-yng-nghyfraith Marco oedd wedi pennu’r enw Zio, “wnewn ni ei enwi ar dy ôl di” – alwn ni’r lle yn Zio’s, yr ewythr, achos dwi’n ewythr iddyn nhw gyd. A dyna lle ddaeth yr enw.
John: Felly beth yw dy enw?
Tino: Tino yw fy enw i, ac mae’n fyrhad o’r enw Celestino.
John: Oh Tino, fel Tino Coles. Ond ewythr yw Zio’s. O’n i’n meddwl hefyd, os oeddet ti’n Zio Zeraschi, fyddet ti’n ZZ! Ti fyddai’r olaf yn y llyfr.
Tino: Wel dwi bron wastad yr olaf ym mhob achos gyda’r Z! Fel y dywedaist, fe ddaethon ni yma ar y 1af o Fawrth ’67. Roedd yn hwylus bod wrth y traeth hefyd. Dwi’n treulio’r rhan fwyaf o f’amser ar y traeth yn yr haf. Dwi weithio’n mynd yn ôl i Benrhiwceibr achos bod dal cyfeillion yno, fel ydych chi’n gwybod. Roedd Mario, Katya, Ray, Rosina. A byddwn ni’n galw yno i’w gweld nhw. Yn anffodus maen nhw wedi mynd bellach. Ond mae’r merched, dwi’n gwybod nad ydyn nhw’n byw yno bellach, ond maen nhw’n hapus, y ddwy wedi priodi.
Karen: Dwi’n meddwl i un ohonyn nhw newydd briodi do?
Tino: Fabrizia, do. Briododd hi fis Medi llynedd dwi’n meddwl, tua deunaw mis yn ôl. Felly dwi’n eu gweld bob yn hyn a hyn – mae un yn byw yn Radur, a’r llall yn Nhreganna yng Nghaerdydd. Maen nhw’n dod yma o bryd i’w gilydd. Maen nhw’n cadw mewn cysylltiad.
Christine: Wyt ti’n gwybod am Pino’s ym Meisgyn, Aberpennar? Caffi Pino?
Tino: Dwi’n ymwybodol ohono, dwi’n meddwl bod Marco’n ei adnabod.
Christine: Ai perthnasau ydyn nhw?
Tino: Na.
Christine: Nid dy berthnasau di.
Tino: Y rhai eraill o’n i’n nabod oedd yn Aberdâr, y Rossis. Ond maen nhw wedi ymddeol bellach hefyd. Ond dwi’n eu gweld nhw o bryd i’w gilydd. Yr un dwi’n ei weld yma yn aml yw’r Sidolis. Neu fel mae rhai yn dwued ‘Sid-ohli’.
Christine: Sidoli, ie.
Tino: O ferthyr. Ond mae’r mab, mae’n dod yma’n aml gyda’i ferched, Robert Sidoli y cyn-flaenwr dros Gymru, Robert Sidoli. Mae’n byw yn y Barri.
Christine: Dyna sut mae ei ynganu ife? Sidoli nid ‘Sid-ohli’?
Tino: Ie, Sidoli.
Christine: Wel doedden ni ddim yn gwybod beth yw ystyr Bracchi, y gair am gaffi ife?
Tino: Cyfenw oedd Bracchi, cyfenw ar deulu. Fy nealltwriaeth i yw taw nhw oedd y cyntaf i ddod yma. Sut y daethon nhw a pham dydw i ddim yn gwybod. Ond nhw ddaeth, nhw gyrhaeddodd yma.
Christine: Mae’n braf dod yma a dysgu am y pethau hyn.
Diane: Ga’i ddiolch o galon iti, nid yn unig am dy amser heddiw, ond am dy letygarwch. Mae wedi bod yn hollol hyfryd.
Tino: Dwi’n gwybod ble mae ’ngwreiddiau i.
Joanne: A ry’n ni’n gwybod lle mae’r hufen iâ blasus hefyd!
Tino: Dwi ddim yn anghofio fy ngwreiddiau.
Diane: Diolch o galon.
Tino: Diolch am ddod.