Wedi’i ysbrydoli gan Ail-ddweud Stori’r Cymoedd a’r bobl gymrodd ran yn y project, fe wnaethom ni roi cas at ei gilydd oedd yn rhannu’n straeon ynghylch nifer o’r bobl leol. Sampl yn unig oedd hwn, ac rydyn ni’n siŵr bod nifer fawr wedi gallu cael eu cynnwys. Mae’n dangos, er ein bod yn gymuned fach, bod nifer eraill sydd gwerth eu cynnwys.
Gan John Collins
Llun wedi'i fframio o fy nhad yn gwerthu pysgod + sglodion ym Mhenrhiwceibr 1930au.
Allan Robinson
Dyma lun o fy nhad, Mr William Henry Robinson M.Β.Ε. (Harry). Mae e'n gyrru ei geffyl a chart a gwerthu pysgod a sglodion ffres ar hyd strydoedd Penrhiw-ceibr yn y 1930au. Ym 1979 cafodd ei enwi yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am wasanaeth 32 mlynedd i'r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (MAFF). Derbyniodd ei wobr yn Neuadd y Sir Caerdydd gan Mr H. L. Knight, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi dros Forgannwg. Fe wnaeth e bob math o swyddi yn ystod ei fywyd gwaith, gan ymweld â ffermydd ar draws De Cymru, gormod i'w rhestru. Fe weithiodd yn galed drwy ei fywyd i gadw bwyd ar y bwrdd i'r teulu. Rydyn ni'n trysori'r ffotograff hwn ohono fe yn mynd â physgod a sglodion ffres o stryd i stryd. Falle taw fe oedd y gwerthwr bwyd stryd symudol cyntaf!
Perchennog y ffotograff yw William Allan Robinson (Allan)
Nos Galan vest off my brother + pack of matches and photo of him with friends.
Christine Williams
Fy enw i yw Christine Williams, ac fe gafodd y fest redeg hon ei gwisgo gan fy mrawd David James Neal, o Feisgyn, Aberpennar yn ystod ras Nos Galan 1963. Roedd y ras yn cynnwys rhedeg 4 milltir o gwmpas strydoedd Caegarw, Darran-las a Meisgyn, Aberpennar, ac mae'n dal i fynd hyd heddiw.
Aeth David i ysgol Ramadeg Aberpennar, lle bu'n mwynhau rhedeg traws gwlad. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd wedyn a pharhaodd ei astudiaethau yn y Brifysgol Agored fel Cyfrifydd Rheoli a threuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd priodasol yn byw yng Ngilwern.
Cafodd y ras Nos Galan ei sefydlu ym 1958 ac fe ddenodd llawer o redwyr enwog o bob cwr o Brydain Fawr. Roedd David Bedford yn un ohonyn nhw, a daeth i aros gyda fy nheulu, lle y llwyddodd i aildanio diddordeb fy mrawd mewn rhedeg a phenderfynodd yntau i redeg y ras ym 1963.
MBE Mrs Dorothy Jean Head (1936–2011)
Diane Locke
Mae’r MBE yma yn perthyn i fy mam, Mrs Dorothy Jean Head (1936–2011). Cafodd Mam ei geni yn Birmingham cyn dod i Gymru fel faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Priododd fy rhieni i yn 1955 a setlo yn Church Street, Penrhiw-ceibr, ac wedyn yn Station Terrace. Roedd hi'n gwneud llawer â'r mudiad Girl Guide a dros y blynyddoedd buodd hi'n Brownie Guider, Guide Guider, Ranger Guider a Ranger Adviser dros Forgannwg Ganol, wnaeth roi ymdeimlad cryf o gymuned. Roedd hi'n aelod o Strategaeth Adfer Penrhiw-ceibr ac yn Gadeirydd Gweithgor Penrhiw-ceibr. Dros y blynyddoedd dyma hi'n ymgyrchu gyda phobl eraill dros lawer o bethau gan gynnwys, ardal chwarae well, ailosod y bont dros yr orsaf drenau, a gwrthwynebu'r arosfan fysiau fyddai wedi cymryd cymaint o le gwerthfawr o bwll Lee Gardens.
Llun o fy nhad yn sefyll tu fas i Peglers gyda'i gydweithwyr.
Rose Murphy
Mae e'n 14 mlwydd oed. Yn sefyll ym browd ar y chwith mae nhad, Handel James, yn 14 oed yn 1926. Roedd e'n gweithio i siop groser Peglers yn Penrhiw-ceibr, yn cario a chludo bocsys. Fe adawodd e Peglers i weithio fel glöwr/torrwr yng Nglofa Penrhiw-ceibr. Byddai e'n gweithio ar ei ochr mewn sêm ddwy droedfedd, fel arfer yn gorwedd mewn pwll o ddŵr. Fe briododd e yn 1939 a chael pedwar o blant. Roedd gan Dad lais canu gwych, ac fe aeth e a Tom Jones, o Benrhiw-ceibr (nid Pontypridd), i ganu mewn clybiau a theithio'r Cymoedd – The Two Js fydde nhw'n galw'u hunen. Bu farw Dad yn 1963 pan oeddwn i'n 11. Ro'n i'n teimlo colled fawr achos ges i ddim Ilawer gyda fe, er bod gyda fi ddisg ohono fe'n canu sy'n llawer o gysur. Gan Rose Murphy
Uwch Sarjant Robert Bye 12.12.1889-23.8.1962 Byddin Prydain
Christine Price
Roedd Robert James Bye VC yn un o'r Cymry â dderbyniodd Groes Fictoria, gwobr uchaf y fyddin am ddewrder. Cafodd ei eni ym Mhontypridd ac roedd e'n Sarjant gyda Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyflawnodd ei weithred arwrol ar 31 Gorffennaf 1917 ger Camlas Yser, Gwlad Belg.
Rhif 939 Sarjant Robert Bye, Gwarchodlu Cymreig (Penrhiw-ceibr). Dangosodd Sarjant Bye ddewrder ac ymlyniad i'w ddyletswydd yn ystod ymosodiad ar safle'r gelyn. Wedi gweld bod y tonnau cyntaf yn cael trafferth gyda dau flocdy, fe ruthrodd, ar ei ben ei hun, at un blocdy a dirymu'r garsiwn. Fe ailymunodd â'r cwmni a pharhau a'r ymosodiad ar yr ail darged. Pan oedd y milwyr wedi mynd ymlaen i ymosod ar y trydydd amcan gwirfoddolodd Sarjant Bye i arwain y cwmni, a chymerodd nifer o garcharorion gan roi cymorth amhrisiadwy i'r cwmnïau oedd yn ymosod.
Thomas John Collins
John Collins
Dychwelodd fy nhad, Thomas John Collins, i fyw ym Mhenrhiw-ceibr ar ôl ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd e'n byw yn 71, Woodfield Terrace, Penrhiw-ceibr, ac yn chwarae i Aberpennar. Cafodd ei ddewis i dîm rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ar 10 Mawrth 1923. Wnaeth Tom ddim derbyn ei gap ar y pryd, ac fe aeth e 'i'r gogledd' i chwarae Rygbi'r Gynghrair i Hull, a wedyn Keighley. Fe chwaraeodd e i'r rheiny am rhyw 9 mlynedd. Bu farw Tom yn 1957 heb dderbyn ei gap ac roedd yn rhaid i fi, John Collins a fy mrawd Howard wneud cais am y cap yn 1975. Roedd Undeb Rygbi Cymru wedi llacio'r rheolau a gallai unrhyw un oedd heb dderbyn ei gap nawr wneud cais amdano fe.
Eitemau o amser fy mam yn y fyddin dir: tei a phin + 2 lun o fy mam yn gweithio.
Karen Collins
Ymunodd Mam, Valerie Mitton (Richards gynt), â Byddin Dir y Menywod pan oedd hi tua 17 oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hi wedi'i lleoli yn Ledbury, Swydd Henffordd, ac yn gweithio'n bennaf ar y ffermydd lleol yn helpu gyda'r ymdrech ryfel. Dyma lle wnaeth hi gyfarfod Dad, John Mitton, oedd hefyd yn gweithio ar ffermydd yr ardal. Mae'r lluniau yn dangos Mam ar un o'r ffermydd. Y tei a'r bathodynnau yw'r rhai wnaeth hi eu derbyn wrth ymuno â byddin Dir y Menywod.
Y Teulu Zeraschi: Ffotograff o J. Zeraschi gyda’i gert hufen iâ ym Mhenrhiwceibr. O’r 1930au.
Lorenzo Zeraschi
Fe wnaeth fy hen dad-cu Giacomo Zeraschi ymfudo am y tro cyntaf, ynghyd a lawer o Eidalwyr arall, o Bardi yn Parma i Gymoedd Cymru i chwilio am waith yn ystod yr 1920au yn dilyn y rhyfel byd cyntaf. Unwaith oedd e yna fe wnaeth e werthu squash a hufen ia o amgylch y cymoedd ac yn 1926 agorwyd caffi ei hunan o'r diwedd ar 60 Stryd Rheola ym Mhenrhiwceibr i wneud bywoliaeth i'w hunan. Yn ddiweddarach byddai'n dod â'i feibion draw i'r cymoedd i fyw gydag ef. Cymhathodd Giacomo a'i deulu yn gyflym i gymdeithas Cymru a chafodd ei naturioli fel deiliad Prydeinig erbyn 1930. Yna agorodd siop sglodion Zeraschis ar 50 Stryd Glanlay y byddent yn rhedeg nes iddynt symud i Ynys y Barri ym 1967.
2 frwsh dillad gydag enw siop a ‘Penrhiwceibr’ wedi’i ysgythru arnynt ond gyda sillafu gwahanol.
Jan Williams
Pedwar tlws bach gyda llun o gloc Cofeb Rhyfel Penrhiwceibr ar bob un ohonynt.
Jean Simmons