CYNFAS

Celf ar y Cyd
14 Hydref 2024

Cystadleuaeth Dylunio Cerdyn Ffotograff Swrreal

Celf ar y Cyd

14 Hydref 2024 | Minute read

I ddathlu canmlwyddiant Swrealaeth, mae'n bleser gennym gyhoeddi Cystadleuaeth Creu Cerdyn Ffotograff Swrreal, wedi'i hysbrydoli gan waith y ffotograffydd Angus McBean (1914-1990) sydd yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

McBEAN, Angus, Christmas Card © Harvard Theatre Collection

Casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sut allai cyfrwng 'gonest' y ffotograff greu delweddau o fyd abswrd – llawn cyfosodiadau anhygoel, lleoliadau rhyfeddol, neu hynodrwydd breuddwydiol?

Dyna'r her a sbardunodd ffotograffwyr swrreal dechrau'r 20fed ganrif i ddatblygu amryw o dechnegau a phrosesau i greu delweddau oedd yn gwyrdroi realiti mewn ffyrdd pryfoclyd a chwareus.⁠ ⁠

Roedd Angus McBean yn adnabyddus am ei ffotograffau o sêr y theatr a'r sinema, ond aeth ati hefyd i greu hunanbortreadau i'w hanfon at deulu a ffrindiau fel cardiau Nadolig bron bob blwyddyn rhwng 1933 a 1985. Defnyddiodd amrywiaeth o setiau a thechnegau i greu cyfres o gardiau hynod bersonol a chwareus sy'n dangos ei hoffter o ddyfeisio technegol.

Mae Celf ar y Cyd yn eich gwahodd chi i greu eich ffotograff swrreal eich hun allai gael ei ddefnyddio fel cerdyn cyfarch. Gallai fod yn bortread neu hunanbortread, fel gwaith Angus McBean, neu'n gyfosodiad o wrthrychau. Beth am greu set hynod a hyfryd, uno sawl ffotograff, neu ddefnyddio technegau a fframio i herio ein syniad o realiti?

Mae croeso i unrhyw un roi cynnig arni, os ydych chi'n ffotograffwr profiadol neu'n cymryd lluniau fel hobi, rydyn ni'n awyddus i glywed gan unrhyw un sy'n dymuno gwneud cais. Os ydych chi am ddefnyddio'r ffôn yn eich poced, camera digidol, neu arbrofi gyda thechnegau ffotograffig, rydyn ni'n edrych ymlaen at weld eich delweddau swrreal!

Gwobrau

Cyntaf (1 gwobr i’w dyfarnu): taleb anrheg i siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru gwerth £100, print arbennig o’ch ffotograff, a detholiad o lyfrau ffotograffiaeth.

Ail (2 wobr i’w dyfarnu): print arbennig o’ch ffotograff a detholiad o lyfrau ffotograffiaeth.

Bydd cyfle hefyd i ddangos gwaith yr holl ymgeiswyr ar wefan Celf ar y Cyd.

Y broses ymgeisio

Anfonwch eich ffotograff dros e-bost at contact@celfarycyd.cymru gan gynnwys y canlynol:

  • Teitl y ffotograff
  • Eich enw, rhagenw, cyfeiriad cartref a manylion cyswllt

Dyddiad cau

Rhaid cyflwyno'r cais cyn 5pm ar ddydd Gwener 22 Tachwedd.⁠ Ceir Telerau ac Amodau llawn isod.

Os ydych chi’n ystyried cystadlu ac am ofyn cwestiwn, gwneud cais, eglurhad o'r gofynion ac ati, e-bostiwch contact@celfarycyd.cymru.

*Gwybodaeth am dechnegau ffotograffiaeth swrreal

Christmas Card, 1956 [inside full]
McBEAN, Angus
© Angus Mcbean/Amgueddfa Cymru

Dechreuodd mudiad celf Swrealaeth ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Trodd artistiaid swrreal eu cefnau ar y rhesymegol a darlunio gweledigaethau abswrd, breuddwydiol. Defnyddiodd artistiaid ffotograffig amrywiaeth o dechnegau i aflunio realiti yn ddelweddau rhyfedd, dychmygus.

Roedd y technegau hyn yn cynnwys:

  • Photomontage – cyfuno elfennau o sawl ffotograff i greu un ddelwedd, yn ddigidol neu'n gollage llaw
  • Solarisation – datgelu ffotograff wedi'i hanner datblygu i olau
  • Delweddau dwbl – cyfuno mwy nag un ddelwedd i greu un naratif, fel arfer drwy ddatgelu'r negatif sawl gwaith
  • Photogram – creu darlun drwy roi gwrthrychau ar bapur ffotograffig a'i ddatgelu i olau

Mewn hunangofiant heb ei gyhoeddi, Look Back in Angus, dywed Angus McBean ei fod wedi 'defnyddio bron i bob dyfais ffotograffig er mwyn gwysio'r cyfrwng ystyfnig i f'ewyllys, a delweddau dwbl oedd hyn yn aml'. Ond fel rhywun â chefndir mewn dylunio a chreu setiau a masgiau, mae'r rhan fwyaf o naws Swrreal ei ffotograffau yn dod o'r set, y propiau a'r gwisgoedd.

Edrychwch yn agosach at y ddwy esiampl uchod ac ystyried:

Ble mae’r ffotograff wedi'i osod? Pwy sydd yn y llun? Beth maen nhw’n gwisgo? Beth sy'n syndod am yr olygfa, neu'n anarferol? Pa elfennau sy'n ychwanegu at naws abswrd neu chwareus y ffotograff? Sut gafodd yr olygfa ei chreu?


Telerau ac amodau cystadlu:

  • Rhaid i chi fod yn byw, neu'n gweithio'n broffesiynol yn y DU.
  • Rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn ar ddiwrnod cyflwyno eich cais.
  • Wrth gyflwyno eich ffotograff dros e-bost rydych chi'n cytuno i'r telerau ac amodau cystadlu a amlinellir gan y trefnwyr, Celf ar y Cyd.
  • Gallwch chi gyflwyno un ffotograff yn unig.
  • Rhaid i'r gwaith fod wedi ei greu gennych chi, ac yn waith diweddar wedi'i greu ers 14 Hydref 2024.
  • Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan staff golygyddol Celf ar y Cyd (curaduron a staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru).
  • Bydd penderfyniad y panel yn derfynol.
  • Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw drydydd partïon.
  • Bydd enillwyr yn cael eu hysbysu. Os na fydd yr enillwyr dewisedig yn ymateb o fewn pythefnos, bydd enillydd arall yn cael ei ddewis.
  • Gwobrau yn dibynnu ar argaeledd.
  • Ni chaiff gwobrau ariannol eu cynnig yn lle’r gwobrau a nodir.
  • Mae'n bosib y bydd gofyn i'r enillydd wneud cyfraniad yn y wasg neu'r cyfryngau yn ymwneud â'r gystadleuaeth.
  • Rhaid i'r gwaith gael ei dderbyn erbyn 5pm ar ddydd Gwener 22 Tachwedd neu ni fydd y cynnig yn cael ei brosesu.
  • Mae Celf ar y Cyd, fel rhan o CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru, yn sefydliad sy’n cefnogi artistiaid a’u hallbwn creadigol gwreiddiol. Nid ydym ni’n chwilio am gyfraniadau wedi’u creu gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial [artificial intelligence / AI].

I gystadlu:

Anfonwch eich ffotograff dros e-bost at contact@celfarycyd.cymru gan gynnwys y canlynol:

  • Eich ffotograff
  • Teitl ar gyfer eich ffotograff
  • Eich enw, rhagenw, cyfeiriad cartref a manylion cyswllt

Share


More like this