CYNFAS

Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
30 Hydref 2024

Gweithio gydag artist

Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF

30 Hydref 2024 | Minute read

Sut all ffotograffio gweithiau celf ddatblygu drwy gyfathrebu

Ar daith ddiweddar i ogledd Cymru, cefais f’atgoffa o’r fraint y teimlais wrth ffotograffio gwaith cerameg Rhiannon Gwyn yn ôl yn 2022. Cefais y fraint o weithio gyda Rhiannon yn y stiwdio ffotograffio, i sicrhau ein bod ni’n cipio’r gwaith mewn ffordd ddilys, yn ôl y gofynion a oedd ganddi hi wrth i’r gwaith gael ei weld ar blatfform digidol.

Rhian gyda'r artist Rhiannon Gwyn yn y Stiwdio Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Rhian gyda'r artist Rhiannon Gwyn yn y Stiwdio Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Roedd y profiad o weithio gyda Rhiannon yn ddechrau ar ein siwrne o ffyrdd newydd o weithio a ffotograffio casgliadau. Fel arfer, mae darn o gelf neu wrthrych yn y casgliad yn cael ei ffotograffio ar gefndir niwtral, wedi’i oleuo’n hafal, a’r lliwiau wedi’u rheoli gyda meddalwedd penodol a chyfansoddiad safonol. Mae’r arddull safonol wrth ffotograffio casgliadau yn cynnig gymaint o fuddion: mae’n ein galluogi i gipio mewn niferoedd mawr, yn dod ag ymwybyddiaeth i’n casgliadau, ac yn creu lluniau ansawdd uchel ar gyfer ein timoedd cadwraeth fel bod modd cyfeirio atynt mewn blynyddoedd eto, i enwi ond rhai.

Yn 2023, fe ddechreuon ni drafod y syniad o greu nid yn unig record o wrthrych, ond dathlu ei unigrywiaeth, a defnyddio’r camera fel arf i dynnu ar fanylion penodol a straeon o fewn y gwaith. Mae’r math yma o ffotograffio, wrth gymharu â ffotograffiaeth ddogfennol, yn dipyn arafach gan ei fod mor fwriadol ac mae angen dealltwriaeth ddofn o’r gwaith a’r artist. Mae hyn yn cynnig rhagor o amser i’r ffotograffydd ymateb i’r gwaith a’i eiliw niferus, nid ei ffotograffio yn yr un ffordd ag y mae pob gwrthrych arall wedi’i ffotograffio.

Rhoi pwyslais ar y gweadau a'r lliwiau

Y nefoedd yn toddi i’r tir, 2022
GWYN, Rhiannon
© Rhiannnon Gwyn /Amgueddfa Cymru

Wrth ffotograffio Y Nefoedd yn Toddi i’r Tir, roedd Rhiannon yn awyddus i roi pwyslais ar y gweadau a'r lliwiau yn ei gwaith. Roedd hi hefyd am ffotograffio o ongl is a cheisio cyfathrebu maint a siâp y darn drwy’r lluniau digidol, yn hytrach na chreu ffotograff fyddai’n edrych lawr ar y gwaith, fyddai ddim yn llwyddo i gyfleu ei raddfa yn dda iawn. Fe wnaethon ni drafod y manylion hyn ac ymateb drwy newid y golau, y cefndir, ac ongl y camera.

Bellach, rydyn ni wedi symud ymlaen gyda’r math yma o ffotograffio, ac ers i mi ymweld â’r gogledd a gweld tirwedd leol Rhiannon, mae gen i gymaint o syniadau ynghylch sut y byddai modd ffotograffio’r gwaith yma mewn ffordd olygyddol yn y dyfodol. Gwyliwch y gofod!

HAENAU

Arddangosfa HAENAU, Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Ffotgraffiaeth gan Rhian Israel

Arddangosfa HAENAU, Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Ffotgraffiaeth gan Rhian Israel

Arddangosfa HAENAU, Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Ffotgraffiaeth gan Rhian Israel

Os ydych chi’n hoff o waith Rhiannon, mae ei harddangosfa HAENAU ymlaen yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis tan 1 Tachwedd 2024. Os oes cyfle gennych, byddwn i wir yn eich annog i fynychu. Mae’r gweithiau mor hardd, a’r lliwiau wedi’u pwysleisio drwy’r arddangosfa hefyd.


Mae Rhian Israel yn Ffotograffydd Treftadaeth Ddiwylliannol ar gyfer CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru ac mae wedi'i lleoli yn Amgueddfa Cymru. Mae hi'n angerddol am wneud celf yn hygyrch i bawb ac am greu delweddau deniadol, i adrodd straeon o fewn ein Casgliadau Cenedlaethol.

Arddangosfa HAENAU, Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Ffotgraffiaeth gan Rhian Israel

Share


More like this