Bedwyr Williams: ‘Tyrrau Mawr’ (Ffilm, 2015, 20munud)
Mae arddangosfa fenthyg cyntaf Plas Glyn-y-Weddw fel aelod o brosiect CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru newydd gael ei chynnal, dros fisoedd yr haf 2024, yn Llanbedrog.
Dewisodd y ganolfan gelfyddydau boblogaidd ym Mhen Llŷn Tyrrau Mawr gan Bedwyr Williams o Wynedd, artist llwyddiannus ac amlwg sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei waith amlddisgyblaethol ar draws fidio, perfformio, barddoniaeth, cerflunwaith, peintio a darlunio. Gan ddefnyddio dychan ac arsylwi digrif, mae ei waith yn ymwneud â phobl, cymdeithas a hynodion bywyd.
Creodd Williams Tyrrau Mawr yn 2015 ac enillodd y ffilm Wobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams yn Artes Mundi 7 ac fe’i prynwyd wedi hynny i’r genedl gan Amgueddfa Cymru.
Ble mae Tyrrau Mawr?
Ar lethrau Cader Idris yn Eryri, o amgylch glannau Llyn Cau, saif dinas fega newydd y dyfodol. Wrth i ni edrych allan ar yr olygfa, mae'n newid o ddydd i nos ac yn cyd-fynd â thrac sain a throslais, wedi’u hysgrifennu a’u hadrodd gan yr artist, cawn straeon am ffurfiant y ddinas ac uchelgais ei phensaer.
Mae’r gwaith yn mynd â thraddodiad tirluniau Richard Wilson o’r 18fed ganrif i’r eithaf trwy ei ddarlunio o ddyfodol nad yw mor bell i ffwrdd. Yn Tyrrau Mawr mae Williams yn dod â threfoli cyfoes a pheirianneg gymdeithasol sy’n gysylltiedig â dinasoedd newydd eu ffurfio i ogledd Cymru. O ffotograffau o dirluniau Eryri, mae’n dychmygu ac yn crefftio prosiect pensaernïol newydd.
Mae ansawdd craff y ffilm yn cael ei greu o ddelweddau llonydd a dynnwyd o'r mynydd gan yr artist. Rhoddwyd y rhain, ynghyd â lleoliad adeiladau wedi’u modelu a’u goleuo i ddangos treigl amser ar draws y dydd a’r nos i gwmni o’r enw Bait Studio yng Nghaerdydd i ‘bwytho’ gyda’i gilydd. Y canlyniad yn y diwedd oedd ‘paentiad matte’ wedi’i wneud i deimlo fel dehongliad peintiwr yn hytrach na delwedd llonydd wedi’i ddal mewn ffilm. (Mae paentiad matte yn gynrychioliad wedi'i baentio o dirwedd, set, neu leoliad pell sy'n caniatáu i wneuthurwyr ffilm greu'r rhith o amgylchedd nad yw'n bresennol yn y lleoliad ffilmio go iawn).
Yn Tyrrau Mawr mae Bedwyr Williams yn llywio’r cydbwysedd rhwng y dwys a’r cyffredin yn fedrus trwy bortread amlgyfrwng, ynghyd â throslais adfyfyriol, mae’r gosodiad yn gwahodd gwylwyr i fyfyrio ar fywyd trefol a hunaniaeth Gymreig, gan herio syniadau o harddwch a baniaeth.
Gyda’r arddangosfa bellach drosodd, cafodd Swyddog Marchnata Plas Glyn-y-Weddw Zoe Lewthwaite gyfle i ofyn rhai cwestiynau cloi i Bedwyr ac archwilio’r broses greadigol a’r syniadau y tu ôl i’w waith pryfoclyd yn Tyrrau Mawr.
1. Beth wnaeth eich denu at y syniad o greu Tyrrau Mawr? A oedd yna foment neu brofiad penodol a ysgogodd y cysyniad ar gyfer y ffilm hon?
"Daeth pwnc dinas mega Gymreig i mi mewn fflach. Roeddwn i'n meddwl tybed sut le fyddai, ei graddfa anweddus ac yna ar ôl hynny bywydau banal ac effeithiedig y bobl sy'n byw yno. Mae’n ddoniol sut mae pobl yn byw’n ddirprwyol trwy’r dinasoedd y maen nhw’n dewis byw ynddynt, yn debyg i gefnogwyr crawciog timau pêl-droed llwyddiannus. Maen nhw'n meddwl bod ganddyn nhw rolau arweiniol ond dim ond rhan o gorws cyffredin enfawr ydyn nhw mewn gwirionedd."
2. Allwch chi siarad am eich agwedd weledol a chysyniadol yn Tyrrau Mawr? Sut wnaethoch chi benderfynu ar arddull a naws y ffilm?
"Rwyf bob amser wedi hoffi’r golygfeydd ffug o adeiladau a grëwyd mewn hen ffilmiau, gyda’r dechneg paentio matte lle byddai artistiaid yn peintio ar wydr ac yn ffilmio trwyddo i greu tirweddau neu olygfeydd anhygoel. Mae hyn i’w weld yn yr hen ffilmiau Star Wars a llawer o rai eraill. Y dyddiau hyn mae'n cael ei wneud gyda chyfrifiaduron. Fel arfer dim ond am ychydig eiliadau y mae'r golygfeydd hyn ar y sgrin i werthu'r rhith i'r gwyliwr. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n dda hongian ar un o'r rhithiau hyn fel pe bai'n ddelwedd llonydd i drigo arni."
3. Mae'r ffilm yn cyfuno realiti â dychymyg. Allwch chi ddisgrifio'r adeiladau rydyn ni'n eu gweld yn y ffilm?
"Fe wnes i gwglo adeiladau dadleuol a dewis y rhai oedd yn edrych orau a'u gosod yn y dirwedd. Adeiladau mawr crand ydyn nhw ar y cyfan ac nid ydynt yn arbennig o hardd. Mae’r Guggenheim o Efrog Newydd yno sy’n brydferth yn ogystal â thŷ opera arfaethedig Zaha Hadid ar gyfer Caerdydd a gafodd ei wrthod gan gynghorwyr diflas y ddinas."
4. Mae’n ymddangos bod Tyrrau Mawr yn archwilio themâu cof, hanes, ac etifeddiaeth ddiwydiannol. Sut mae’r themâu hyn yn atseinio â’ch profiadau personol neu’r hanes a rennir o Gymru?
"Mae gen i berthynas ychydig yn ddryslyd gyda Chymru. Mae gen i enw Cymraeg cryf, a dwi'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Rwy’n falch iawn ac yn mwynhau gwylio pêl-droed a rygbi Cymru ac mae perchnogion ail gartrefi yn estyn i mewn i’n cymunedau yn fy ngwylltio innau hefyd i fer fy esgyrn. Ond dwi ddim yn teimlo fy mod i’n perthyn rywsut....... does gen i ddim llawer o ffrindiau Cymraeg na phobl sydd eisiau cwrdd â fi yn y dafarn neu gwneud ffws mawr ohonaf pan maen nhw’n fy ngweld yn B&Q. Mae Cymry yn priodi wythnos ar ôl wythnos ond anaml iawn dwi’n cael gwadd i’r priodasau. Mae rhai pobl yn fy ngalw'n 'Beds' sy'n gwneud i mi deimlo'n rhan o bethau ychydig yn fwy. Dydw i ddim yn hoffi'r hetiau bwced yna, a dwi ddim yn meddwl y byddai'r bobl sy'n eu gwisgo nhw'n hoffi fi, sy'n ddigon teg. Mae’n wlad eitha ‘cliquey’ a dyna efallai sut y goroesodd yr iaith.....dwi ddim yn gallu rhoi fy mys arno ond dwi’n gwybod nad ydw i’n ffitio fewn ynddi rywsut."
5. Sut wnaethoch chi fynd ati i gydbwyso'r themâu trymach hyn â'r hiwmor sy'n nodweddiadol o'ch gwaith?
"Mae fel rhoi sesnin ar salad, rydych chi'n ei flasu a'i addasu wrth fynd ymlaen. Mae pobl Prydain yn ceisio bod yn ddoniol drwy'r amser sy'n ddiflas iawn felly mae'n bwysig bod yn ofalus a pheidio â gorwneud pethau."
6. Pa fath o ymateb emosiynol neu ddeallusol ydych chi'n gobeithio ei ddwyn i'r amlwg ymhlith gwylwyr Tyrrau Mawr? Sut roedd gosodiad y ffilm o dan Theatr John Andrews yma ym Mhlas Glyn-y-Weddw wedi dylanwadu ar brofiad y gynulleidfa yn eich barn chi?
"Roeddwn i eisiau i bobl sy'n hoffi pethau da ei hoffi ac mae unrhyw un y tu hwnt i hynny yn fonws. Roedd PGyW wedi gwneud gwaith gwych gyda'r gosodiad AV felly roedd yn edrych fel y bwriadwyd. Mae curaduron yn aml yn ei ddangos ar sgrin fach nad yw'n ddelfrydol ac sy'n dwyn y gwaith o'i effaith. Yr hyn sy’n dda hefyd yw bod Cader Idris lle mae’r ffilm wedi’i gosod i’w gweld yn y pellter dros Fae Ceredigion, rhywbeth nododd Gwyn yn PGyW i mi."
7. Fe greoch chi Tyrrau Mawr yn 2015, oes gennych chi ddiddordeb mewn creu prosiect ffilm arall yn y dyfodol?
"Mae gwaith fel hyn yn ddrud. Byddwn wrth fy modd yn gwneud mwy ond yn yr hinsawdd sydd ohoni mae'n anodd."
I gloi ……………
Mae Tyrrau Mawr yn fwy na phrofiad gweledol; mae’n archwiliad cymhleth o hunaniaeth, cymuned, ac abswrdiaethau bywyd trefol modern. Mae cyfuniad unigryw Bedwyr o hiwmor a mewnsylliad yn gwahodd gwylwyr i fyfyrio nid yn unig ar y tirweddau abswrd a ddarlunnir ond hefyd ar eu perthynas eu hunain â lle ac o berthyn.
Mae 10 mlynedd bellach ers i’r artist greu’r ffilm hon ac yn naturiol bu datblygiadau technolegol mewn cynhyrchu a golygu ffilm ers hynny. Fodd bynnag, mae Tyrrau Mawr yn gampwaith artistig fydd yn siwr o oroesi a sydd bellach yn eiddo i’r genedl er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.
Mae cynnwys Plas Glyn-y-Weddw ym menter newydd CELF Llywodraeth Cymru, gan ddod â chasgliadau celf gyfoes allan o’r storfa a’u gwasgaru o amgylch y wlad, wedi galluogi cynulleidfa newydd i weld Tyrrau Mawr yma yn Llanbedrog. Roedd ymateb y gwylwyr dros yr haf yn werthfawrogol iawn.
Wrth i Bedwyr Williams barhau i greu gwaith dylanwadol, rydym yn awyddus i weld beth fydd yn ei feddwl nesaf, gan wybod y bydd ei fewnwelediad i ddynoliaeth bob amser yn atseinio'n ddwfn gyda phobl Cymru a thu hwnt.