Yn ddiweddar, daeth 7 paentiad i feddiant Amgueddfa Cymru gan yr arlunydd o Gymru George Poole (1915 – 2000) a baentiwyd yn ystod y 1940-60au. Gwelais y paentiadau hyn am y tro cyntaf yn y stiwdio gadwraeth paentiadau lle roeddent wedi cyrraedd er mwyn cael triniaeth. O ran yr argraff gyntaf, doeddwn i ddim wedi fy nghyffroi rhyw lawer. Roedden nhw i gyd yn fudr, llawer ohonyn nhw â chrafiadau ac wedi colli paent yma ac acw, ac ar yr olwg gyntaf doeddwn i ddim yn credu y byddai’r ymddangosiad yn gwella llawer.
Ond mae paentiadau’n gallu’ch synnu chi, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi cael fy siomi o’r ochr orau gan y grŵp hwn o baentiadau. Un o'r pethau gorau am fy swydd yw fy mod i’n gallu treulio cymaint o amser o flaen gwaith celf, ac mae hyn fwy neu lai wastad yn gwella eich gwerthfawrogiad chi ohonynt. Gall hyd yn oed newidiadau cymharol gynnil mewn lliw a sglein wneud gwahaniaeth enfawr i'r ffordd y mae paentiad yn edrych. Dw i wedi sylwi yn aml sut y gall colledion bach o baent a chrafiadau dynnu sylw oddi ar yr argraff a fwriadwyd – gallwn weld yr esgeulustod, ac mae'n cael effaith gref ar sut rydyn ni’n rhyngweithio â darn o waith.
Yn yr achos hwn, roedd nifer o'r paentiadau hyn yn cynnig heriau diddorol imi. Roedd yr amrywiaeth o arwynebau a thechneg baentio ar draws y grŵp yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed gan fod angen dull ychydig yn wahanol ar gyfer pob paentiad.
Dau Heddwas
Ar y dechrau roeddwn i’n ansicr iawn am Dau Heddwas. Wedi’m drysu am yr hyn oedd yn digwydd yn yr olygfa a ddarlunnir, a hefyd beth oedd yn digwydd ar wyneb y paentiad. Er nad ydw i’n dal i wybod beth mae'r plismyn yn cynllwynio yn ei gylch, fe wnes i gynnydd gyda'r paentiad ei hun.
Roedd y paentiad yn fudr ac roedd ganddo smotiau o baent gwyrdd ar draws yr wyneb. Roedd sawl man arall lle roedd paent wedi’i golli a chrafiadau yn yr haenau uchaf o baent a mannau lle roedd yr wyneb wedi cymylu a gwynnu.
Ar ôl tynnu'r baw, daeth yn amlwg fod Poole wedi rhoi cwyr ar wyneb y paentiad a'i fod wedyn wedi paentio dros y cwyr mewn rhai mannau, er enghraifft y tai a gwisg las yr heddwas. Y mannau gwyn cymylog oedd lle roedd y cwyr wedi colli ei dryloywder. Yn y ddwy gornel uchaf roedd y cwyr yn absennol ac roedd y paent wedi treulio, gan awgrymu bod y mannau hyn wedi'u difrodi a bod y cwyr wedi ei grafu i ffwrdd yn y broses honno. Roedd absenoldeb cwyr yn y mannau hynny yn gwneud i'r awyr edrych yn oleuach ac yn fwy mat gan fod y cwyr yn dirlenwi’r paent mewn mannau eraill.
Doeddwn i erioed wedi dod ar draws artist oedd yn defnyddio cwyr fel gorchudd ar yr wyneb i ddirlenwi a newid sglein eu paentiadau olew o'r blaen, ac roedd angen i mi feddwl yn ofalus am beth i'w wneud am y corneli. Roedd y dystiolaeth weledol yn awgrymu bod cwyr yn arfer bod yn y corneli. Roeddwn i eisiau cywiro'r aflonyddwch gweledol hwnnw o'r cwyr coll, gan ei fod yn creu effaith weledol anwastad yn yr awyr gan ddenu sylw rhywun. Ond pe bawn i'n defnyddio cwyr fyddwn i ddim yn gallu ei dynnu heb effeithio ar y gorchudd cwyr gwreiddiol.
Un o ddaliadau pwysig cadwraeth yw gwrthdroi. Mae hyn yn arbennig o wir am bethau fel farnais ac atgyffyrddiadau ar baentiadau, gan y gall farnais ac adfer ddadliwio dros amser ac mae angen eu tynnu a'u hailosod.
Ar ôl meddwl rhywfaint, cafodd y cwyr coll ei ddisodli gan farnais acrylig a fyddai'n rhoi dirlawnder a sglein tebyg i'r paent, tra'n cynnig hydoddedd gwahanol i'r cwyr fel y gellid ei dynnu yn y dyfodol pe bai angen. Ail-ffurfiwyd y mannau anhryloyw o gwyr gyda gwres ysgafn a rhywfaint o loywi, ac atgyffyrddwyd y colledion paent â dyfrlliwiau.
Di-deitl neu Menyw yn Ysmygu gyda Gwin
Roeddwn i'n hoffi Menyw yn Ysmygu gyda Gwin cyn gynted ag y gwelais hi, ond roedd y paent yn arbennig o ansefydlog. Roedd eisoes llawer o baent wedi’i golli a mwy o fannau lle’r oedd paent yn plicio ac yn paratoi i ddisgyn i ffwrdd a’i golli am byth. Roedd hefyd wedi'i ymestyn ar ffrâm dila, nid y gwreiddiol, a oedd yn rhy fach. Roedd hyn yn achosi i'r paent gracio ar hyd yr ymylon uchaf a’r gwaelod.
Yn gyntaf, cafodd y paent oedd yn plicio ei atgyfnerthu a'i ludo yn ôl i lawr ar y cynfas. Yna glanhawyd wyneb y paentiad, a'i dynnu o'r ffrâm i wneud yr ymylon yn fwy fflat. Archebwyd ffrâm newydd a chafodd leinin rhydd ei ymestyn i ategu'r cynfas gwreiddiol. Yna cafodd y paentiad ei ail-ymestyn.
Roedd impasto y paent yn heriol i’w ail-greu gyda deunydd llenwi gwyn gwrthdroadwy, ond ces i amser gwych yn llunio'r llenwadau i barhau â chyfeiriad brwsh y paentiad. Ar ôl gorffen y llenwadau, fe wnes i eu hatgyffwrdd yn ôl y patrwm gwreiddiol i adfer y foneddiges i'w llawn ogoniant.
Pedwar glöwr
Yn wahanol i'r ddau baentiad arall y soniwyd amdanynt hyd yn hyn, roedd gan y paentiad hwn haen orchuddiol o farnais arno, er nad oedd y farnais bellach yn dirlenwi'r paentiad. Roedd glanhau’r wyneb yn gwneud gwahaniaeth da, ond yr hyn roedd ei angen mewn gwirionedd oedd farnais newydd i ail-ddirlenwi’r paentiad. Roedd y farnais newydd yn edrych yn wych, ac yna es i ati i atgyffwrdd y colledion bach. Dydw i erioed wedi bod yn agosach at roi'r ffidil yn y to a cheisio dod o hyd i yrfa newydd.
Pan fyddwch chi'n ceisio adfer colledion a difrod, mae'n llawer haws os gallwch chi ddefnyddio'r un pigmentau a ddefnyddiwyd gan yr artist. Gallwch gael yr un lliw drwy gymysgu pigmentau gwahanol ac weithiau mae'n rhaid i chi, ond ar y cyfan mae'r cadwraethwyr yn defnyddio eu gwybodaeth o ba ddeunyddiau a phigmentau roedd artistiaid yn eu defnyddio i'n helpu i ddewis y pigmentau cywir ar gyfer atgyffwrdd. Fel y darganfyddais, mae'n dod yn llawer anoddach gyda phaentiadau cyfoes, gan fod cymaint o wahanol bigmentau ar gael i artistiaid erbyn hyn. Roedd ceisio atgyffwrdd y paentiad hwn gyda fy mhalet arferol yn dasg amhosib. Treuliais gyfnod rhy hir o amser yn ceisio atgyffwrdd colledion bach yn y cefndir oren poeth / pinc. Yn y pen draw, des i'r casgliad y byddai angen i mi ehangu fy ngorwelion, ac archebu detholiad o bigmentau modern, organig i roi cynnig arnynt. Mae'n troi allan mai "Fluorescent Flame Red" oedd yr union liw roeddwn i ei angen. Yn anffodus, nid yw'r pigment yn gwrthsefyll golau, felly bydd yn pylu dros amser, ond mae'n bris bach i dalu am fy nhawelwch meddwl. Mae'r atgyffwrdd yn wrthdroadwy, felly gellir ei ail-wneud yn ddiogel yn y dyfodol os oes angen.
Meddwl y tu allan i'r bocs
Ces i dipyn o foddhad yn gweithio fy ffordd drwy'r grŵp hwn o baentiadau ac yn gyfle gwych i dreulio amser gyda gwaith artist nad oeddwn yn gyfarwydd ag ef. Mae paentiadau modern yn aml yn cyflwyno heriau gwahanol oherwydd bod artistiaid yn defnyddio deunyddiau a thechnegau nad ydynt yn rhai traddodiadol. Mae angen mynd at baentiadau modern gan dybio na fyddant yn ymddwyn fel paentiadau olew traddodiadol, hyd yn oed os ydyn nhw'n edrych yn debyg iddyn nhw. Ond, rhan o'r hwyl o drin y gweithiau celf hyn yw cael ein synnu a gorfod meddwl y tu allan i'r bocs. Cafodd tri o'r paentiadau eu harddangosfa yn arddangosfa Y Cymoedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2024.
Cafodd tri o'r paentiadau eu harddangosfa yn arddangosfa Y Cymoedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2024.
Mae Sarah Bayliss yn Uwch Gadwraethwr Paentiadau Amgueddfa Cymru ers 2022 ac wedi bod yn gweithio yng Nghaerdydd fel cadwraethwr llawrydd ers 2017. Astudiodd gemeg cyn astudio Cadwraeth Peintio îsl yn Sefydliad Courtauld yn Llundain. Ers symud i Gaerdydd mae Sarah wedi datblygu diddordeb mewn paentiadau Cymreig yr 20fed ganrif a syrcas Gymreig yr 21ain ganrif.