“Ro’n i wedi penderfynu, yn oddeutu chwech oed, fy mod am fod yn arlunydd ac yn awdur.”
(Artistiaid yng Nghymru)
Er mai ym Mangor y cafodd Brenda Chamberlain ei geni ac y bu farw (1912-1971), bu’n byw ac yn gweithio mewn llawer o lefydd. Bu’n astudio yn Llundain, yn byw yn Llanllechid, ar Ynys Enlli, ar Ynys Hydra yng Ngwlad Groeg, a threuliai sawl gwyliau hir yn Ffrainc a’r Almaen. Ble bynnag roedd hi’n byw, byddai’n ysgrifennu, yn paentio, ac yn cadw dyddlyfrau darluniadol. Roedd ei hamgylchedd yn cael effaith ddofn arni, a byddai’n newid arddull ei gwaith a’i deunyddiau ar sail hynny.
Yn ystod ei hoes, enillodd Brenda Fedal Aur am Gelfyddyd Gain ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, arddangosodd ei gwaith mewn dros ddeg ar hugain o sioeau grŵp, a chynhaliodd saith arddangosfa unigol yn Llundain a Chymru. Er ei bod yn cyfaddef mai paentio oedd yn apelio fwyaf iddi, ymhlith ei gwaith cyhoeddedig mae tri llyfr am lefydd roedd hi wedi byw ynddynt, llyfr o farddoniaeth, llyfr o gerddi a darluniau, ac adroddiad o sut yr aeth ati i greu Caseg Broadsheets.
Cyn mynd i astudio celf yn ysgolion yr Academi Frenhinol yn Llundain, teithiodd i Copenhagen lle arhosodd gyda theulu am chwe mis, ac roedd hi wrth ei bodd pan ddarganfu gwaith Gauguin yn yr amgueddfeydd yno.
Gwasg y Gaseg
Ar ôl i’w hastudiaethau ddod i ben, symudodd i Lanllechid yn y gogledd orllewin gyda’i chyd-fyfyriwr, John Petts. Roedden nhw wedi gwneud adduned i fyw yn ôl eu celf, ond yn aml roedd yn rhaid iddyn nhw wneud gwaith fferm i dalu’r biliau. Gyda’i gilydd, sefydlon nhw Gwasg y Gaseg, gan greu posteri, taflenni, gwahoddiadau priodas a chardiau cyfarch. Cydweithion nhw gyda’r bardd, Alun Lewis, i greu cyfres o argrafflenni â llaw a oedd yn cynnwys cerddi ac ysgythriadau.
Rhoddodd Brenda y leinoprint lliw a wnaed â llaw yma i Alun Lewis a Gwenno, ei wraig, yn anrheg priodas ym 1941. Mae dylanwad Gauguin yn dechrau ymddangos yn arddull ei gwaith, gyda’r menywod cadarn urddasol a’r llinellau hyderus cryfion. Mae llawer o’i phynciau’n cynnwys bywyd cefn gwlad yng nghaeau a mynyddoedd Eryri. Mae oedrannau’r menywod yn amrywio, a’r rhai iau sy’n gorffwys yng nghanol y ffrâm. Gwisga dwy fenyw droednoeth ffedogau gwynion gan gario basgedi ar eu pennau.
Byw ar yr Ynys
Ar ôl iddi hi a John Petts wahanu ym 1943, penderfynodd Brenda symud i Ynys Enlli lle bu’n byw am bymtheng mlynedd, gyda Jean van de Bijl i ddechrau, ac yna ar ei phen ei hunan. Ar yr ynys, daeth o hyd i egni newydd. Llenwodd ei dyddlyfrau â disgrifiadau o’i bywyd bob dydd a dechreuodd baentio ag olew, a roddodd ryddid iddi weithio ar raddfa fwy. Defnyddiai’r ynyswyr fel modelau, a dechreuodd arddangos yn Llundain. Ym 1951 a 1953 enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Datblygodd ei ffigurau i fod yn arddullaidd, a gellir gweld dylanwad Gauguin unwaith eto yn ei defnydd o liwiau gwastad beiddgar heb fawr ddim graddliwio, os o gwbl.
Mae tri o ddynion yr ynys yn dychwelyd i’r lan gyda’u daliad. Roedd bywyd ar yr ynys yn syml iawn, nid oedd trydan na dŵr tap, roedd yn rhaid casglu broc môr bob dydd i greu tân, ac roedd rhaid dod o hyd i fwyd. Pysgod, cwningod ac wyau gwylanod oedd deiet sylfaenol yr ynys.
Troi'n Haniaethol
Ar ddechrau’r 1960au, cafodd Brenda ei swyno gan y cysyniad o drawsnewidiad cyrff wedi boddi yn greigiau ac effaith y golau drwy ddŵr y môr, a daeth ei gwaith yn fwy haniaethol.
Yn Llongddrylliad mae’n dal i fod yn bosib adnabod siâp y ffigurau ac asennau’r cwch, ond yn Manrock ac yn Marine Object mae’r morwr yn colli ei ffurf ddynol ac yn dod yn fwy solet, gan drawsffurfio’n graig wedi’i siapio a’i cherflunio gan rym y môr a’r llanw.
Teithiau i’r Almaen gyda chreonau a pheniau
Gan fod y gaeafau ar Ynys Enlli yn gallu bod yn llym, byddai Brenda’n treulio amser gyda’i ffrindiau yn yr Almaen. Yn aml, byddai ond yn mynd â deunyddiau celf syml gyda hi, a dechreuodd arbrofi gyda gwaith rhwbio. Gyda charpedi Persiaidd ac Indiaidd patrymog a chyfoethog lle bu’n aros yn ysbrydoliaeth, byddai’n rhwbio creonau ar wyneb gwaeadog i gynhyrchu’r cefndir ar gyfer patrymau a symbolau onglog.
Mwy o liw a gludwaith yn ne Ffrainc
CAeth Brenda ar deithiau paentio i Provence hefyd. Adlewyrchwyd lliw, golau a cheinder ei hamgylchoedd yn ei gwaith.
Daeth ei chyfansoddiadau’n fwy cymhleth, a does dim blociau o liw plaen bellach. Mae graddliwiau a dyfnder i’w ffigurau. Dechreuodd arbrofi mewn gwaith amlgyfrwng a defnyddio llythrennau gludwaith yn y cefndir. Mae ei ffigurau ymlaciol yn ymddangos fel pe baen nhw ar ganol sgwrs, ac yn eistedd yn agos i gostreli dŵr yn y blaendir.
Amlgyfrwng yng Ngwlad Groeg
Yn debyg i pan aeth Brenda i Ynys Enlli, pan symudodd i Ynys Hydra yng Ngwlad Groeg ym 1962, dechreuwyd cyfnod creadigol newydd yn ei bywyd. Dywedai fod yr haul poeth yn cannu’r lliw yn ei gwaith, a ddaeth yn unlliw ac yn gymysgedd o linellau a gludwaith.
Dechreuodd gydweithio gyda’r dawnsiwr Robertos Saragos, gan geisio dangos symudiad ei gorff wrth iddo ymarfer i gerddoriaeth Claude Debussy. I ddechrau, byddai’n rhewi’r symudiad i safle, gan ei wneud yn sefydlog. Ymlaciodd yn raddol, gan alluogi ei llaw i symud yn rhydd dros y papur fel bod modd gweld o ba safle roedd y dawnsiwr wedi symud, ac i ba safle roedd yn mynd iddo.
Arweiniodd eu cydweithrediad at ddatganiad dawns yn Llundain ym 1964, lle dawnsiodd Saragos i gerddoriaeth a barddoniaeth. Ysgrifennwyd y geiriau gan Brenda Chamberlain a’i chyfaill, Michael Senior, ac fe’u darllenwyd gan yr actores Dorothy Tutin.
Ar ôl y profiad hwn, gofynnodd y cyfansoddwr Halim El Dabh i Brenda gymryd rhan mewn arbrawf gydag e. Gofynnodd iddi arlunio’n rhydd wrth iddo chwarae ei gyfansoddiad ei hun ar y piano. Wedi hynny, byddai’n gosod ei llyfr arlunio ar y piano, a chanfu y gallai chwarae’r darn yn ôl ar sail ei nodiannau. Dros y blynyddoedd nesaf, datblygodd Brenda’r nodiannau bach cychwynnol hyn yn ddarluniau egnïol mawr mewn creon cwyr ar gerdyn.
Ysgrifennu a llunio drama
Yn ystod ei chyfnod yng Ngwlad Groeg, ysgrifennodd ddrama am wrthryfel y cyrnoliaid a gynhyrchwyd yn ddiweddarach ym Mangor (1968). Mae casgliad o ffotograffau, llyfr braslunio o ddyluniadau gwisgoedd, a sgript o’r ddrama yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd y gyfres olaf o ddarluniau a gynhyrchodd yn cael eu cydnabod fel Darluniau Gregynog gan iddyn nhw gael eu harddangos am y tro cyntaf yn Neuadd Gregynog ger y Drenewydd. Maen nhw’n cynnwys llinellau du noeth ar bapur gwyn gyda wynebau, cychod a cherrig mân.
Drwy gydol ei bywyd, roedd Brenda Chamberlain yn croesawu newid. Heblaw am weithio mewn gwahanol arddulliau a chyfryngau, roedd hi wrth ei bodd yn gweithio gyda dawns, cerddoriaeth a theatr, ac yn ystod ei bywyd cyhoeddodd dair nofel, cyfrol o farddoniaeth, llyfr o gerddi a darluniau, yn ogystal â hanes o’r broses o greu’r Caseg Broadsheets.
Darllenwch fwy am y bobl o fewn portreadau Brenda Chamberlain mewn erthygl ategol a gyd-gomisiynwyd gydag Art UK.
Curadur arddangosfeydd ac awdur yw Jill Piercy, sy’n arbenigo mewn celf a chrefft yng Nghymru. Mae hi wedi ysgrifennu i nifer o gyhoeddiadau ac wedi paratoi sawl traethawd catalog ar gyfer arddangosfeydd. Bu’n Swyddog Celf a Chrefft i’r Eisteddfod Genedlaethol am chwe blynedd, ac mae hi wedi curadu gwaith ar gyfer orielau yng Nghymru, Ewrop ac Unol Daleithiau America. Mae hi wedi curadu tair arddangosfa o waith gan Brenda Chamberlain, a hi yw awdur Brenda Chamberlain – Artist and Writer.