Mae’r artist ffotograffig Helen Sear yn creu gwaith sy’n ymdrîn â’r amgylchedd naturiol a’n profiad ni ohono, boed yn brofiad corfforol, gweledol neu synhwyrol.
Ganed Sear yn Swydd Gaerloyw ac astudiodd Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Reading a’r Slade School of Fine Art. Daeth ei gwaith i’r amlwg ar ddiwedd y 1980au pan oedd yn gweithio’n bennaf gyda gosodiadau, perfformio a ffilm.
Yn y 1990au cynnar trodd Sear fwyfwy at ffotograffiaeth, ei phrif gyfrwng artistig ers hynny. Ar yr un pryd, mae hi’n mynd i’r afael â chyfyngiadau’r ffordd y mae ffotograffiaeth yn cyfleu ein byd: er enghraifft, gyda phersbectif pwynt sefydlog a’r pwyslais ar y gweledol yn unig. Yn ei gwaith mae hi, i’r gwrthwyneb, yn ystyried sut y gall ffotograffiaeth ysgogi ac ennyn ein synhwyrau a’n emosiynau. Gan ganolbwyntio ar fyd natur – blodau a phlanhigion yn ogystal â phobl – mae ei delweddau yn aml ag ansawdd arallfydol ac etheraidd sydd weithiau wedi ei greu trwy dechnolegau digidol ac sy’n adlewyrchu ei diddordeb mewn realaeth hudolus, swrealaeth a chelf gysyniadol.
Mae dau waith gan Sear yn nghasgliad Amgueddfa Cymru: Blocked Field (Raglan) (2012), gwaith ar raddfa fawr sy’n dangos pentyrrau gwair, a Company of Fields (2015).
Yn ystod ei gyrfa, mae Sear wedi ennill sawl gwobr, o’r British School of Rome (1993) i Eisteddfod Genedlaethol Cymru (2011). Yn 2015, cafodd ei dewis i gynrychioli Cymru yn 56ain Biennale Fenis – y fenyw gyntaf i wneud hynny. Ar ôl byw a gweithio am gyfnod hir yng Nghymru, mae hi bellach yn byw yn Ffrainc.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.