Mae’r cerflunydd ac arlunydd tir David Nash yn creu gwaith sy’n ein gwahodd i ymgysylltu’n uniongyrchol â natur a myfyrio ar y berthynas rhwng dynoliaeth a’r amgylchedd.
Yn enedigol o Esher yn Surrey, mae Nash wedi cael perthynas â Gogledd Cymru trwy gydol ei fywyd. Tra’n blentyn, byddai’n ymweld a’i nain a’i daid yn Llan Ffestiniog ac ar ôl graddio o Goleg Celf Kingston yn 1967, symudodd i’r ardal i fyw. Y flwyddyn ganlynol, prynodd hen gapel Methodistaidd ym Mlaenau Ffestiniog, Capel Rhiw, sydd o hyd yn stiwdio iddo heddiw. Dros yr hanner canrif diwethaf, mae ei waith artistig wedi esblygu law yn llaw â’r tirlun a’r ffurfiau natur sy’n ei amgylchynu.
Pren yw prif ddefnydd Nash ac mae’n aml yn gweithio’r pren yn y fan lle cwympodd y goeden neu lle gafodd ei thorri – llecyn y mae’r artist yn ei alw’n ‘chwarel goed’. Mae e’n gweithio gyda llif trydan (er iddo weithio â llaw yn ei yrfa cynnar) ac yn aml yn rhuddo’r pren gyda lamp losgi, sy’n newid lliw a chyfansoddiad y pren. Mae cerfluniau eraill yn cael eu castio mewn efydd.
Yn ogystal a chreu gweithiau i’w harddangos, mae Nash hefyd yn gweithio o fewn y tirlun. Un o’i weithiau mwyaf adnabyddus yw Ash Dome: cylch o 22 onnen y plannodd Nash mewn lleoliad cyfrinachol ger ei gartref yn 1977 ac sydd wedi bod yn tyfu byth ers hynny. Mae’r gwaith yn gydweithrediad rhwng yr artist â natur, yn ei rym a’i wendidau – oherwydd 40 mlynedd wedi i’r coed gael eu plannu, mae nhw’n ddiweddar wedi cael eu bygwth gan glefyd yr onnen.
Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.