Myfyrdodau ar ffotograff gan Chloe Dewe Mathews o’i chyfres Caspian: The Elements
Mae ei noethni’n ddiwair. Mae düwch trwchus yn gorchuddio ei bron fel ffrog. Mae ei hwyneb yn ymddangos yn ddideimlad. Mae ei llygaid, sy’n syllu ar bwynt yn y pellter, yn wag o emosiynau, bron yn wag o ymwybyddiaeth. Does dim llygedyn o obaith i awgrymu pam ei bod hi’n eistedd mewn llanast, mewn bath sy’n llawn o’r hyn sy’n ymddangos—ac yn arogli fwy na thebyg—fel olew injan. Olew crai yw hwn, hydrocarbon, tanwydd ffosil ... naft yn fy mamiaith. Naft yw hwn go iawn!
Fyddai ‘llesiant’ ddim yn fy nharo fel rheswm. Rhith, yn hytrach. Rhithdyb. Onid yw’n codi cyfog arni? Heb sôn am ganser.
Nid yw’r gleiniau aur yn addurno ei gwddf mewn gwirionedd. Dim ond cwblhau abswrdiaeth yr olygfa maen nhw, gan gyferbynnu’r ‘aur du’ yn erbyn aur go iawn, gan fy atgoffa bod y ddwy elfen yn rheoli’r byd, yn felltith yn amlach na bendith. Symbolau pŵer ac arian.
(Roedd y llygaid a gipiodd y ddelwedd yma ar gyfer y byd mor chwilfrydig â fy rhai i)
Mae’r fenyw’n dod o ardal Môr Caspia. O un o’r gwledydd sy’n amgylchynu’r môr dioddefus, llyn hallt mwyaf y ddaear. Ond a allai hi fod o Iran; fy mamwlad goll?
Ers i fi adael ddegawdau’n ôl, mae menywod wedi cael eu gorfodi i orchuddio’u hunain mewn defnydd o’u pennau i’w sodlau, hyd yn oed mewn ffotograffau. Ond mae’r fenyw yma’n noeth. Ac eto, gallai hi ddod o Iran. Gyda’i gwallt du a chroen lliw lleuad yr hydref, fel fy nain, wedi’i chreu o’r un pridd, yr un halen ... Ie, gallai hi fod yn deulu i fi. Ar un adeg, Iran oedd yr holl diriogaeth oedd o gwmpas Môr Caspia, neu dyna rydyn ni’n hoffi meddwl.
***
Môr Caspia ar arfordir Iran oedd ein lleoliad gwyliau pan o’n i’n blentyn. Bydden ni’n pacio am dri mis o haf, yn llwytho popeth allwn ni i mewn ac ar ben tri neu bedwar car, ac yn gyrru tua’r gogledd o Tehran. Ar heol beryglus a nadreddog y Chalus, drwy ei thwneli hir a thywyll, tyllau enfawr sy’n torri drwy galon mynyddoedd yr Alborz, bydden ni’n cyrraedd Môr Caspia. Bydden ni’n canu ac yn chwerthin drwy gydol y daith bum awr. Ar bob taith, byddwn i’n teimlo cyffro’n codi ynof fi ymhell cyn i Fôr Caspia ddod i’r golwg yn y pellter. Gallwn i ei deimlo, fel pe bai’r awyr yn agor yn y fan honno. Mae’r hen ddelwedd yma’n ailymddangos yn barhaus, yn cael ei deffro gan Fôr Iwerddon bob tro y bydda i’n cerdded i lawr at draeth Aberystwyth. Mae’r holl foroedd yn rhan o’r un teulu. Maen nhw i gyd yn canu yn eu calonnau. Roedd Môr Caspia yn eiddo’n llwyr i fi unwaith.
Bydden ni’n treulio’r haf cyfan ar draeth Môr Caspia, yn bwyta styrsiwn a chobiau corn wedi’u grilio ar siarcol. Dyma lle dysgais i nofio. Bydden ni’n gwneud ffrindiau newydd. Dyna’r lle cyntaf i fi ffansïo rhywun, oedolyn oedd yn edrych fel Elvis.
Ac roedd tristwch yn ddieithr.
Mae’r cyfan wedi mynd bellach. Does dim byd ar ôl i’r cenedlaethau ddaeth ar fy ôl i. Mae styrshwn yn ‘haram’ erbyn hyn; dillad nofio wedi’u gwahardd. Pwy fyddai’n meddwl? Ni fyddai’r oedolion hyd yn oed wedi dychmygu y byddai pethau’n dod i hyn!
Doedd ‘llesiant’ ddim yn air a ddefnyddid i werthu pethau nad oedd eu hangen ar bobl. Heb sôn am ganser! Roedden ni’n ‘iach’ yn y dyddiau hynny am ein bod ni’n byw. Pob un ohonon ni’n ffynnon o lawenydd. Pwy fyddai wedi meddwl un dydd y byddai pobl yn ymdrochi mewn olew crai du mewn twb?
Roedd hynny ymhell cyn i fenywod gael eu gorfodi i orchuddio eu hunain mewn defnydd o’u pennau i’w sodlau. Dim ond yn y gorchudd hwnnw y cawn nhw ymdrochi erbyn hyn, os o gwbl. Dw i hyd yn oed wedi clywed am waliau’n cael eu hadeiladu ym Môr Caspia i wahanu menywod oddi wrth y dynion, rhag iddyn nhw ddeisyfu cnawd ei gilydd.
Roedd ymhell cyn i grefydd ddatgan bod dynion yn beryglus i fenywod nad ydyn nhw wedi’u gorchuddio mewn defnydd o’u pennau i’w sodlau.
Roedd ymhell cyn i’r cyfreithiau a’r olew ddod i wenwyno Môr Caspia, a chyn i’r felltith daro ei fflora a’i ffawna.
Yn y dyddiau hynny, roedd oedolion yn arfer dweud bod olew’n wenwyn. Naft, ym Mhersieg, yw’r hylif du seimllyd a drewllyd. Yn wir, byddai’n cynnig cynhesrwydd i ni yn ystod misoedd rhewllyd y gaeaf, pan fyddai Nain yn ei ddefnyddio i lenwi ei hen wresogydd Valor glas. Bryd hynny byddai’r arogl yn wan iawn, yn bleserus bron. Ond pe bai diferyn ohono’n disgyn ar fy llaw, byddai’n gweiddi cer i olchi dy ddwylo ar unwaith, neu bydd rhaid i fi ffonio’r doctor. Fe golli di dy olwg os wnei di rhwbio dy lygaid, ferch!
Roedd ymhell cyn i naft gael ei arllwys ym Môr Caspia a ffurfio slics du ar wyneb y dŵr glas. A byddai’r adar yn mudo am byth ar ôl gweld eu meirw’n arnofio ar wyneb Môr Caspia. A byddai amddiffynwyr Mam Natur yn cael eu cosbi’n greulon am seinio rhybudd.
Roedd ymhell cyn y byddai pobl, o’u hewyllys eu hunain, yn eistedd mewn llanast du, mewn tawelwch llwyr, wedi’u twyllo i gredu bod yr hyn sy’n ddrud yn dda ac yn iach, waeth pa mor fudr a drewllyd, fel y fenyw yn y ffotograff, sy’n ei throi’n symbol o brotest.
Am filiynau o flynyddoedd, roedd Môr Caspia wedi cuddio’r felltith ddu yn ei ddyfnderoedd, o dan gramen drwchus y ddaear. Ymhell cyn i fath bas gael ei ddyfeisio. Ymhell cyn i eiriau gael eu dyfeisio, a chyn y gallai beirdd ganfod y ffordd â’u hen ganhwyllau gwêr yn nüwch y nos at y mwg oedd yn codi o’r tyrrau olew i dywyllu golau’r dydd.
Awdur a chyfieithydd clodwiw sy’n byw yn Aberystwyth yw Shara Atashi. Mae’n ferch i’r bardd o Iran, Manuchehr Atashi. Ym 1979, yn ddeuddeg oed, mudodd Shara a’i mam i’r Almaen, lle cwblhaodd ei haddysg ysgol a graddio’n ddiweddarach yn y gyfraith. Symudodd i Lundain yn 2012, a symud yn nes ymlaen i Gymru i ganolbwyntio ar ei gwaith ysgrifennu. Yn 2021, cafodd ei dyfarnu’n awdur ‘Cynrychioli Cymru’. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn nifer o gyfnodolion llenyddol, yn bennaf yn Writers Mosaic, New Welsh Review, Planet, Nation Cymru. Cafodd Shara ddyfarniad ‘Canmoliaeth Uchel’ yng Ngwobr Stephen Spender 2022. Mae rhagor o wybodaeth am Shara a’i gwaith ar gael ar wefan Writers Mosaic.