CYNFAS

Rhyann Arthur
4 Ebrill 2025

Grete Marks: Gadael ei hôl ar y Bauhaus

Rhyann Arthur

4 Ebrill 2025 | Minute read

cup and saucer
MARKS, Margret (Grete)
Haël-Werkstätten für künstlerische Keramik
© Ystâd Margarete Marks. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

Yn llachar, onglog, ac anghonfensiynol, mae'r cwpan a'r soser yma yn enghraifft o gerameg fodernaidd o'r 1920au a'r 30au. Mae'r lliw arwyneb coch-oren solet yn debyg i ddeunyddiau fel plastig a metel, gan ein tywys i ffwrdd o ymddangosiad traddodiadol cerameg ddomestig a oedd yn bodoli ar y pryd, a oedd wedi'i wneud â llaw a'i fasgynhyrchu. Mae'r cwpan – rhan o set de a gynlluniwyd yn 1930 gan Grete Marks (Margarete Heymann) – yn gwahodd ffordd newydd o ryngweithio â gwrthrych bob dydd sydd â swyddogaeth gyfarwydd. Mae'r collage o gylchoedd a chônau'n creu persbectif chwareus ar y set de, un sy'n cael ei lunio gyda siapiau a lliw sylfaenol, ond eto mewn arddull nad yw'n gysylltiedig â llestri a chrochenwaith. O edrych ar y gwpan, rydyn ni'n dychmygu pinsio'r pantiau y tu mewn i'r cylchoedd, yn ymwybodol na fydd y ddolen yn rhoi’r gynhaliaeth arferol, ond yn hytrach bydd angen i'r defnyddiwr ganolbwyntio ar ddal y cwpan yn fwy gofalus. Mae arddull Marks wedi ei ddylanwadu gan fudiad celf a dylunio o bwys o'r 20fed ganrif sef Bauhaus. Mae cwpan Marks yn rhoi enghraifft o berthynas frau Bauhaus gydag ymarferoldeb yn erbyn arddull.

Ysgol gelf a dylunio yn yr Almaen oedd y Bauhaus. Ar agor rhwng 1919 a 1933, parhaodd hyd cyfnod 'Gweriniaeth Weimar' yr Almaen rhwng y rhyfeloedd. Mynychodd Marks ysgol Bauhaus yn ei blynyddoedd cynnar, lle'r oedd theori siâp a lliw yn cael ei datblygu'n barhaus gan athrawon yr ysgol, neu "feistri", fel sylfaen rheolau dylunio Bauhaus ac arddull weledol. Nodweddion mwyaf eiconig arddull Bauhaus yw'r defnydd o liwiau cynradd: coch, glas, melyn; a'r defnydd caeth o gylchoedd, sgwariau, a thrionglau, sydd i'w gweld yng nghwpan a soser Marks: triongl canolog sy'n cael ei amgylchynu gan gylchoedd cyfagos.

cup and saucer
MARKS, Margret (Grete)
Haël-Werkstätten für künstlerische Keramik
© Ystâd Margarete Marks. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

Mae gan gerameg le unigryw yn etifeddiaeth y Bauhaus; er gwaethaf y ffaith mai hwn oedd y gweithdy cyntaf i gynhyrchu dyluniadau ar gyfer diwydiant a gwneud elw, dyma hefyd oedd y pwnc cyntaf i gael ei ollwng o'r cwricwlwm pan fu'n rhaid i'r ysgol adleoli o Weimar i Dessau yn 1923. Roedd strwythur addysgu Bauhaus yn golygu y byddai gan bob pwnc, boed hynny'n gerameg, paentio, gwneud dodrefn, ac ati, "Feistr Ffurf", sef artist cain fel arfer a "Meistr Crefft," sef crefftwr proffesiynol. Y rheswm am hyn oedd cyfuno sgiliau technegol y Meistr Crefft gyda chreadigrwydd ac arloesedd Meistr Ffurf, gan ddefnyddio strwythur mwy traddodiadol i gyflawni cynhyrchiad modern. I raddau helaeth, roedd y gweithdy cerameg yn gallu cynhyrchu elw oherwydd nad oeddent wedi'u lleoli yn adeiladau'r ysgol yn Weimar ond fe'u sefydlwyd yn stiwdio grochenwaith y Meistr Crefft, Max Krehen. Roedd yr amgylchedd yma’n gyfle i fyfyrwyr fel Grete Marks brofi gweithdy oedd eisoes yn llwyddiannus a chynhyrchiol lle dysgon nhw safonau a phrosesau proffesiynol.

Fel crochenwyr Bauhaus cynnar eraill, ymrwymodd Marks i ddefnyddio priddwaith i gynhyrchu ei cherameg. Mae gan briddwaith galedwch sy'n ei wneud yn ddewis da wrth gynhyrchu silwétau Bauhaus cryf, trawiadol. Yn wahanol i gerameg sy'n cael ei thanio ar dymheredd uwch, mae priddwaith yn annhebygol o gamu yn yr odyn, sy'n golygu bod y strwythur a'r llinellau a ffurfiwyd gan y crochenydd bron yn sicr o adael yr odyn yr un ffordd ag yr aethant i mewn. Gall y tymheredd tanio is ar gyfer priddwaith a gwydredd hefyd gynhyrchu lliwiau mwy llachar a fyddai'n pylu ac yn llosgi i ffwrdd pe bai'n cael ei danio ar dymheredd uwch. Mae'r gwydredd a ddefnyddir yn y cwpan a'r soser yma yn cael ei wneud gan ddefnyddio wraniwm ocsid. Yn deillio o'r elfen o wraniwm, mae'r ocsid hwn yn ymbelydrol ac yn cynnwys allyrwyr alffa, y gronynnau ymbelydrol mwyaf peryglus. Nid yw'r gerameg wydrog ei hun yn rhyddhau lefelau peryglus o ymbelydredd, ond pe baech chi'n bwyta neu yfed o gwpan a soser Marks, byddai gronynnau ymbelydrol yn cael eu hamsugno o'r gwydredd a mynd i mewn i'ch corff ac aros yno. Ni ddefnyddir wraniwm mewn gwydredd bellach - lleihawyd ei ddefnydd yn ystod yr ail ryfel byd a'i wahardd yn yr 1980au - ond mae'r lliw orengoch cyfoethog a grewyd ganddo yn unigryw.

Ffurfiwyd y cwpan a'r soser yn wreiddiol ar olwyn crochenydd pan y'i cynlluniwyd. I allu ailadrodd yr eitemau hyn, gwnaed mowld o'r cwpan a'r soser gwreiddiol, sy'n eu galluogi i gael eu castio mewn slip: proses lle mae clai hylifol yn cael ei dywallt i fowld plastr a'i adael i setio yn ôl i glai cadarn. Ar ôl eu tynnu allan o'r mowld, gellir tanio a gwydro'r darnau yn yr un modd byddai'r crefftwr yn trin crochenwaith a wnaed ar yr olwyn. Mae gan glai safle rhyfedd ymhlith deunyddiau dylunio modernaidd: nid yw'n "fodern" fel concrit, dur, neu wydr, ond yn hytrach mae'n rhan o grefftau traddodiadol canrifoedd cynharach. Roedd moderniaeth, yn enwedig ar ôl y rhyfel byd cyntaf, yn benderfynol o ddatblygu deunyddiau newydd i gyflawni dibenion newydd ac i gyflawni gweledigaethau newydd. Nid yw clai yn cyd-fynd â'r prototeip hwn yn unol ag athroniaeth Bauhaus, ac nid yw'n cyfrannu at fath arall o ddyluniad neu ddeunydd megis yr effaith y mae tecstilau wedi'u gwehyddu yn ei chael ar ddodrefn a dylunio mewnol. Efallai mai dyma pam y cafodd ei ollwng mor hawdd o gwricwlwm y Bauhaus wrth i'r ysgol esblygu.

cup and saucer
MARKS, Margret (Grete)
Haël-Werkstätten für künstlerische Keramik
© Ystâd Margarete Marks. Cedwir Pob Hawl. DACS 2025/Amgueddfa Cymru

Gadawodd Grete Marks y Bauhaus ar ôl cyfnod byr yn 1921. Er bod y Bauhaus yn gysylltiedig â chynhyrchu llawer o artistiaid benywaidd, dylunwyr, a gwneuthurwyr, roeddent yn aml yn cael eu cyfyngu i'r gweithdai tecstilau; ymladdodd Marks dros ei lle yn y gweithdy cerameg a arweiniodd wedyn at fwy o ferched yn cael eu derbyn i'r crochendy. Parhaodd Marks i gynhyrchu crochenwaith am weddill ei hoes, gan sefydlu ei chrochendy ei hun yn Marwitz, tu allan i Berlin, cyn gweithio gyda chrochendy Mintons ym Mhrydain ar ôl ffoi o'r Almaen Natsïaidd. Parhaodd crochenwaith Marks i gael ei ddiffinio gan ei defnydd o wydro bywiog, yn ogystal ag addurniadau a ysbrydolwyd gan beintwyr y Bauhaus. Mae crochenwaith arddull Bauhaus Marks yn parhau i fod yn eiconig ac yn enghraifft o sut y gall dysgeidiaeth yr ysgol ehangu i sawl cyfrwng artistig.

Share


More like this