Zine sy'n ymchwilio i effaith llygredd plastig yn afon Teifi ac Aber Teifi, Ceredigion, gorllewin Cymru.
Trawsgrifiad
Lan yr Afon, Gan Julian McKenny
Llygredd Plastig yn Aber Afon Teifi
Mae llawer o sôn am broblem fyd-eang plastigau yn ein cefnforoedd – am domenni sbwriel mwy na Chymru yn y Môr Tawel, mewn erthyglau’n datgelu cost y gwastraff a allforiwn ni, gyda lluniau o draethau’n drwch o sbwriel â labeli gorllewinol, a’r cyfan mor gyfleus o bell i ffwrdd ... beth yw e i ni mewn gwirionedd?
Roeddwn i eisiau gweld effaith leol plastigau – pa lygredd plastig sydd yma ac o ble mae’n dod. Fe siaradais i ag amrywiaeth o bobl: cerddwyr cŵn, pobl ar eu gwyliau, casglwyr sbwriel, pysgotwyr, ffermwyr a biolegwyr môr – oedden nhw yn gweld plastig fel problem arfordirol?
Yn ôl yr adroddiadau, mae llawer o’r plastig yn y moroedd yn dod o’r tir, weithiau’n fwriadol ond yn bennaf oherwydd arferion rheoli gwastraff gwael, sy’n gyfrifol am tua 82% o’r llwyth plastig yn ôl yr amcangyfrif. Mae’r gwastraff hwn yn mynd o’r tir i’r afonydd, cyn llifo lawr i’r aberoedd a’r môr.
Ar hyd Bae Ceredigion, Afon Teifi yw’r cyfrannwr mwyaf gyda rhyw 1000 kg o blastig y flwyddyn. Dim syndod o gofio’r trefi a’r pentrefi mawr ar ei glannau – Castellnewydd Emlyn, Cenarth, Llechryd ac Aberteifi ei hun gyda Llandudoch a Gwbert ar ochr arall yr aber. Yr ail gyfrannwr mwyaf yw Aberystwyth. Er gwaetha’i phoblogaeth fwy a’i dwy afon, Ystwyth a Rheidol, mae llai o boblogaeth yn uwch lan yr afon ac felly mae’n cyfrannu rhyw 600 kg y flwyddyn.
Ar ehangder traeth Poppit wrth geg yr aber lle bydd pobl yn cerdded eu cŵn gydol y flwyddyn, ychydig iawn o blastig welais i. Dywedodd llawer o’r cerddwyr cŵn rheolaidd eu bod nhw’n casglu unrhyw sbwriel, am eu bod yn teimlo perthynas â’r lle ac am ei warchod a’i gadw’n lân. Bydd cynnydd yn y sbwriel (gan gynnwys plastig) yn ystod y tymor ymwelwyr, ond mae biniau ailgylchu amlwg a gefeiliau casglu sbwriel ger allanfa’r maes parcio.
Fe sylwais i fod y caffi poblogaidd yn defnyddio deunyddiau all gael eu hailgylchu. Mae’n amlwg fod cadw’r traeth yn lân yn fater o falchder lleol, ac wrth i’r llanw gilio dim ond llond llaw o ddarnau plastig welais i ar hyd y traeth. Oedd pwynt i fi fod wedi dod â chamera? Oedd na broblem o gwbwl?
Daeth hi’n amlwg yn fuan fod yr argraff gyntaf ddim yn adrodd y stori gyfan.
Problem anweledig
Dim i’w weld yma…
Dyma fi’n siarad â dau gasglwr sbwriel diwyd, Ffi a Piers, sy’n seiclo’n rheolaidd o Landudoch i gerdded hyd y traeth yn casglu annibendod. Maen nhw’n gweld y broblem drwy’r flwyddyn. Dyma nhw’n esbonio fod y traethau’n aml yn cael eu glanhau gan y môr sy’n cario’r plastigau nes bydd un llanw uchel yn eu gadael yn llinell ar hyd y penllanw.
Microplastigau yw’r broblem mewn gwirionedd medden nhw – y gelyn anweledig sydd ddim yn bioddiraddio ond yn torri’n fersiynau llai fyth ohono’i hun. O chwilio’n gyflym ar-lein fe welais i fod grwpiau o lanhawyr traeth cydwybodol fel Ffi a Piers wrthi ar y rhan fwyaf o draethau Sir Benfro a Cheredigion, ond dim ond hyn a hyn y gallan nhw ei wneud i chwilio am rywbeth anweledig.
Mae’n calonnau ni’n aml yn y lle iawn, ond byddwn ni’n yn gwneud pethau’n waeth wrth geisio gwneud y peth cywir. Dywedodd cerddwyr cŵn fod bagiau baw yn broblem yn y twyni – byddai’r gwastraff naturiol yn bioddiraddio petai heb ei lapio mewn plastig.
Fydd y rhan fwyaf o ‘blastigau bioddiraddadwy’ ddim ond yn diraddio mewn canolfannau dwysedd uchel i gompostio gwastraff gwyrdd, lle bydd ein cynghorau yn mynd â chynnwys ein biniau gwyrdd.
“Amcangyfrifir bod 1000 o afonydd yn gyfrifol am bron i 80% o allyriadau plastig afonol blynyddol byd-eang i’r môr ... ac afonydd trefol bach gyda’r gwaethaf.” - Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP)
Lan yr afon, mae dŵr uchel ar ôl stormydd a llifogydd yn eithaf cyffredin. Dyma arwyddion wedi’u sgubo i ffwrdd yng Nghenarth, a dros y dudalen fe welwn ni lapiwr bêls gwair wedi’i ddal mewn canghennau coeden.
Mae pysgotwyr lleol wedi codi pryderon am y plastig lapio bêls yn yr afon, yn enwedig tua’r adeg y bydd eogiaid ifanc i’w cael.
Taith Deinosor
Dychmygwch am eiliad daith deinosor plastig bach, fyddai wedi disgyn ar ddamwain i’r afon yn y llifogydd. Byddai’n cael ei daflu dros raeadrau Cenarth, dan y pontydd hen a newydd yn Aberteifi ac ymlaen i’r aber a’r môr agored, cyn cyrraedd yn y diwedd un o’r traethau ger Tyddewi (lle bydd y cerrynt fel arfer yn gadael ei gargo) i gael ei gasglu gan lanhawyr traeth lleol.
Wnaeth y daith ddechrau yn y cyfnod mesosöig? Oedd hwn yn blanhigyn o oes y deinosoriaid gafodd ei weddnewid gan wres a gwasgedd y jwrasig a’r cretasig ac amser daearegol dwfn yn olew, cyn ei echdynnu a’i droi’n blastig i’w ffurfio mewn ffatri yn Tsieina yn ddeinosor poced plentyn, un o betheuach byrhoedlog masnach fyd-eang?
“Daeth Hector o hyd i ddeinosor bach – yn lle ei roi yn y bag du dyma fe’n ei sleifio i’w boced” – stori gwirfoddolwr ifanc yn glanhau Bae Caerfai, o ecodewi.org.uk
Es i draw i labordy morol Sea Trust Cymru yn Wdig i gael mwy o fanylion am effaith plastig ar fywyd gwyllt yn yr ardal.Fe ges i sgwrs gyda Lloyd, biolegydd morol sy’n rhedeg cynllun ailgylchu gyda physgotwyr môr lleol sy’n casglu gwastraff a’i roi mewn biniau pwrpasol. Mae cwmni Waterhaul o Gernyw wedyn yn cymryd y deunydd ac yn cynhyrchu sbectolau haul a nwyddau eraill, gan arbed dros 6 tunnell o blastig hyd yn hyn.
Er bod ailgylchu’n broses werth chweil (yn enwedig deunyddiau fel cardfwrdd, papur a metel) y gwir plaen am ailgylchu plastigau, y plastigau fyddwn ni’n eu didoli adref, yw taw dim ond ychydig bach all gael ei ailgylchu mewn gwirionedd.
“Britons dispose of nearly 100bn pieces of plastic packaging a year, survey finds.” Dywedodd yr erthygl hon yn y Guardian yn 2022 taw dim ond 12% o blastig untro sy’n mynd i ailgylchu.
Piso dryw bach yn y môr
Mae 300 miliwn tunnell o blastig yn cael ei gynhyrchu ar draws y byd bob blwyddyn – mor drwm â phwysau’r hil ddynol i gyd yn ôl y sôn!
Mae’r 88% all ddim cael ei ailgylchu – plastigau caled – yn mynd i domenni tirlenwi neu’n cael ei losgi i gynhyrchu ynni.
Bydd bag plastig yn cael ei ddefnyddio am 12 munud ar gyfartaledd, ond yn cymryd 1000 o flynyddoedd i ddadelfennu.
Dim ond plastigau categori 1 a 2 sy’n hawdd eu hailgylchu – PET a HDPE. Mae plastigau caled a phlastigau wedi’u lamineiddio yn fwy trafferthus i wahanol raddau. Mae llawer yn credu bod y system rifo yn broblem sy’n drysu ac yn annog cymysgu plastig ‘da’ a ‘drwg’ nes bod dim byd yn cael ei ailgylchu.
Mae archfarchnadoedd wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar. Datgelodd adroddiadau bod llawer o’r plastigau gaiff eu dychwelyd yno i’w hailgylchu yn rhy frwnt i’w brosesu neu y math anghywir o blastig. Bydd y rhan fwyaf yn cael ei anfon i’w losgi oherwydd byddai’r plastig brwnt yn niweidio’r peiriannau didoli.
Mae tystiolaeth yn dangos bod ailgylchu yn cael ei hyrwyddo fel ateb gan ddiwydiant sydd am greu mwy o blastig. Ymgais i basio’r broblem i’r defnyddiwr i bob pwrpas. Rydyn ni’n creu byd sydd ddim yn onest am ailgylchu a’r hyn sy’n gallu cael ei gyflawni, gan greu amheuon sy’n ymddangos yn deg wrth glywed adroddiadau fel hyn.
Drwy wneud rhywfaint o ailgylchu, rydyn ni’n teimlo’n seicolegol ein bod ni wedi gwneud y ‘peth iawn’, ac felly’n gallu prynu mwy o gynnyrch plastig neu nwyddau mewn pecynnau plastig – yn union beth mae’r diwydiant am i ni wneud.
Felly ar ben y ffaith taw ychydig iawn o blastig sy’n addas i’w ailgylchu, rydyn ni’n creu problem allwn ni ddim ailgylchu ein ffordd allan ohoni. Dyw hyn ddim yn golygu peidio ailgylchu lle gallwn ni, ond yn lle edrych ar y defnyddiwr terfynol rhaid i ni edrych lan yr afon at y cynhyrchwyr, a lleihau y cynhyrchu yn y lle cynta.
Yr ateb hirdymor yw cynhyrchu llai o blastig, sef y gwrthwyneb i’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd.
Yn lle hyn rydyn ni’n gwthio syniadau unigol fel gwellt yfed. Byddai’n rhaid defnyddio gwelltyn papur sawl, sawl gwaith i ddileu ôl troed carbon un gwelltyn plastig, felly mae’r atebion i’r problemau hyn mewn gwirionedd yn sefyllfa Catch-22.
Y ffordd i osgoi hyn i gyd yw peidio creu plastig yn y lle cyntaf.
Ym mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth mae ymchwilwyr yn ceisio; creu plastigau gwirioneddol fioddiraddadwy o wymon, defnyddio gwlyptiroedd i hidlo microblastigau cyn cyrraedd y môr, a datblygu cynnyrch ar gyfer y diwydiant morol all gymryd lle’r rhwydi a’r bagiau sy’n gorffen yn sbwriel ar draethau mor aml.
Nyrdls, ddywedoch chi?
Wrth sgwrsio yn Poppit gyda’r glanhawyr traeth Ffi a Piers, dyma nhw’n sôn am nyrdls. Am eiliad roeddwn i’n amau ’mod i wedi camglywed, a dyma fi’n aros cyn gofyn... nyrdls, ddwedoch chi?
Canlyniad y broses ailgylchu yw nyrdls – pelenni bach lliwgar sy’n ddeunydd crai ar gyfer cynhyrchion newydd. Mae fideos ar-lein yn dangos bwcedi llawn yn cael eu harllwys i hopran i’w gwresogi a’u mowldio’n gynnyrch newydd. Byddan nhw fel arfer yn cyrraedd ein traethau pan fydd cynhwysydd cludo yn disgyn oddi ar fwrdd llong. Mae lluniau torcalonnus ar-lein o draethau dan luwch o belenni gwyn, fel ar ôl storm gesair aruthrol. Tasg amhosib, bron, yw clirior pelenni mân hyn.
Yn ôl Piers gall y pelenni gael eu defnyddio i fesur lefelau llygredd plastig – mae traeth Poppit wedi gweld 3 pelen y fetr sgwâr un diwrnod a dros 50 ar ddiwrnod arall. Os na fydd y nyrdls yn cael eu casglu, bydd y plastig yn aros ac yn dychwelyd.
Mae Lloyd y biolegydd môr yn dweud y bydd e’n aml yn canfod pelenni du yn Wdig. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio mewn gweithfeydd trin dŵr i gynyddu’r arwyneb y gall bacteria dyfu arno i brosesu ein helifiant. Mae rhyddhau carthion wedi bod yn broblem fawr ar Afon Teifi dros y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd bod dŵr hallt yn gorlifo’r system ar lanw uwch. Dull cymharol newydd yw trin dŵr gwastraff, yn ôl Lloyd, a gweithfeydd trin yn ei chael hi’n anodd dygymod â’n gofynion am ddŵr glanach (bydd olion cyffuriau, gwrthfiotigau, clefydau, ac ati mewn samplau dŵr yn cael eu defnyddio i farnu lefelau haint fel covid).
Yn y 1970au roedd llygredd carthion yn ein hafonydd a’r arfordir yn uchel iawn – roedd rhai’n rhybuddio rhag casglu’r cregyn gleision enfawr oedd i’w gweld mewn ambell le yn Wdig am eu bod yn agos at allfeydd carthion llawn maetholion...
Yn Wasteland mae Oliver Franklin-Wallis yn disgrifio rhedeg ei ddwylo drwy ‘naddion’ plastig – is-gynnyrch ailgylchu tebyg i’r pelenni. Gan ddisgrifio harddwch symudliw’r deunydd fel ‘olew ar ddŵr’, sonia bod y rhan fwyaf o gronfeydd olew wedi’u dyddodi 180 miliwn o flynyddoedd yn ôl, cyn cael eu gweddnewid gan wres a gwasgedd. O hyn daw plastig, cynnyrch o’r diwydiant olew sydd ddim yn dadelfennu ond yn aros yn yr amgylchedd am oes oesoedd. Dyma’i ddisgrifiad –
“Matter perhaps as old as the dinosaurs, falling through my fingers like confetti”
“Nurdles: the worst toxic waste you’ve probably never heard of” erthygl yn y Guardian 2021 gan Karen McVeigh, dyfynnwyd yn Wasteland
17 miliwn – nifer y casgenni o olew a ddefnyddiwyd i greu cynhyrchion plastig yn 2006
450 o flynyddoedd – pa mor hir y gall potel blastig gymryd i ddadelfennu
50 mlynedd – pa mor hir fydd cwpan plastig ewynnog yn gymryd i ddadelfennu. Dyw Styrofoam ddim yn bioddiraddio.
15 miliwn – nifer y dillad llawn plastig gaiff eu taflu a’u hallforio i Ghana o wledydd y gogledd bob wythnos
16,000 – nifer y cemegau sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu plastig
Biniau gwastraff arfordirol – wedi’u marcio’n glir i ni rannu’n gwastraff. Ond bydd y ddwy ochr yn aml yn cael eu cymysgu, a’u hanfon wedyn i domenni neu i’w llosgi am eu bod nhw’n methu cael eu prosesu.
Mae plastig coch, gwyrdd a glas yn troi’n ficroblastig yn llawer cynt na phlastig gwyn, arian neu ddu oherwydd y lliwiau sy’n cael eu hychwanegu.
Bydd ein defnydd o blastig yn treblu erbyn 2060, diolch i’r diwydiant plastig. Dros y pum mlynedd diwethaf cafwyd cynnydd o 60% mewn addewidion gan y corfforaethau hyn i leihau’r defnydd o blastig. Dros yr un cyfnod, mae plastig yn y moroedd wedi cynyddu 50%.
Mae cwmni cemegau Dow yn ffyddiog iawn y bydd y farchnad yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r galw godi.
Yng ngheg aber afon Teifi mae Craig y Gwbert, bryngaer o’r Oes Haearn sydd heddiw ar gyrion y cwrs golff, ac yn ei chysgod mae llithrfa naturiol fu’n fynedfa i fasnach dros y môr ers cyn cof. Prin yw yr olion heddiw. Un o nodweddion yr oes ddaearegol newydd ddadleuol, yr Anthroposen, yw ein gwastraff plastig hollbresennol, sy’n gosod ei hun yn y cofnod daearegol i genedlaethau’r dyfodol (os bydd rhai ...) boeni amdano.
Yn ddiweddar rydyn ni wedi sylweddoli bod sawl ffynhonnell fawr o ficroblastigau heb gael eu hystyried, gan gynnwys paent, teiars ceir a charthffosiaeth.
Yn ôl yr amcangyfrifon bydd hyd at 40% o baent yn cyrraedd y môr fel microblastig.
Mae polymerau plastig yn y rhan fwyaf o baent modern. Daw’r halogiad hwn o hen adeiladau, gwaith adnewyddu, dymchwel, a’r tywydd yn erydu paent.
Mae ‘modelau’ eraill yn amcangyfrif y bydd 50% o’r paent mewn adeiladau yn treiddio i’r amgylchedd ehangach yn y pen draw.
Mae ein dillad modern yn llawn ffibrau synthetig. Bob tro rydyn ni’n golchi’n hoff siwmper mae’n gollwng ffibrau, microblastigau, i’r dŵr gwastraff.
Mae rhywfaint yn cael ei hidlo yn y gwaith trin gwastraff. Bydd gwastraff yn cael ei wahanu ac unrhyw bathogen yn cael ei ladd er mwyn ei droi’n slyri i’w daenu fel gwrtaith ar dir fferm. Mae’n swnio fel proses ddefnyddiol.
Yn anffodus mae’r microblastigau gafodd eu hidlo yn y slyri. Bydd y slyri’n cael ei olchi yn y pen draw i’r nentydd a’r afonydd, cyn llifo lawr i’r môr. Yno bydd y microblastigau’n cael eu llyncu gan greaduriaid morol, sy’n cael eu llyncu yn eu tro ganddon ni, gan gychwyn y cylch eto yn ôl pob tebyg.
Y Teiars yn Taro’r Tarmac
Ffynhonnell gyffredin arall yw teiars ceir, sy’n treulio tua 10-16% o’u rwber dros eu hoes.
Yn Wdig roedd y biolegwyr morol yn canfod blewiach plastig du ar y blaendraeth, a darnau o oleuadau brêcs ceir yn syndod o aml.
Peiriannau sgubo stryd oedd wedi colli’r blew, ac roedd y plastigau a’r microblastigau anweledig o deiars ceir, yn cael eu golchi i’r draeniau gorlif ac yn syth i’r traeth.
Yn ôl amcangyfrif arall, mae hyd at 90% o’r microblastigau yn ein moroedd yn dod o deiars ceir.
Cymhlethdod
Mae bywyd modern yn aml yn teimlo fel cyfaddawd rhwng gwneud y peth iawn neu beidio. Weithiau bydd ceisio gwneud yn iawn yn gwneud pethau’n waeth!
Felly rydyn ni’n ceisio troi’r cloc yn ôl a ‘glanhau’ yr amgylchedd rydyn ni wedi’i niweidio mor esgeulus. Ond beth os welwn ni fod hyd at 100 o rywogaethau morol wedi ffurfio perthynas fuddiol gyda’r sbwriel? Drwy glirio’r plastig byddwn ni’n dinistrio eco-system maen nhw wedi dod i ddibynnu arni!
Cymhlethdod
Plastigladdiad
Yn ddiweddar mae rhai gwleidyddion wedi ceisio cyflwyno cynllun i annog dychwelyd mwy o blastig glân i’w ailgylchu, sydd wedi gweithio yn Ewrop.
Mae corfforaethau wedi lobïo’n galed ac yn gryf yn erbyn y syniad.
Yn Wasteland mae Oliver Franklin-Wallis yn dod i sylweddoli taw dim slogan bachog yn unig yw ‘arbed, ailddefnyddio, ailgylchu’, ond eu bod nhw yn y drefn fwyaf effeithiol.
O gofio taw dim ond plastigau PET a HDPE all gael ei hailgylchu’n fforddiadwy (a bod dirywiad safon ar ôl sawl cylch yn golygu eu bod nhw hefyd yn cyrraedd tomen neu draeth tramor cyfleus) yr unig ateb yw datrys ein dibyniaeth ar blastig.
Arbed, ailddefnyddio, ailgylchu
Daeth y newydd yn ddiweddar fod microblastigau yn ein bwyd a’n cyrff, eu bod nhw’n lleihau ffrwythlondeb ac o bosib yn achosi cancr, yn gwenwyno ein amgylchfyd, a’r cyfan yn anweledig. Rydyn ni’n clywed hefyd am ‘gemegau am-byth’ yn treiddio o hen safleoedd tirlenwi lle roedden ni’n meddwl ein bod ni wedi claddu’r broblem ac anghofio amdani.
O’r 16,000 sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu plastig, mae llawer heb eu profi na’u rheoleiddio. Rydyn ni’n prynu bwyd mewn plastig ‘gwarchodol’, yn mwynhau aroglau car newydd (sef y nwyon sy’n cael eu rhyddhau yn y broses gynhyrchu). Mae prynu pethau’n ail law yn dechrau gwneud mwy a mwy o synnwyr i fi.
Aber Afon Teifi yn Llandudoch
Mae bisphenol-a (bpa) yn gemegyn sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn cynhyrchion plastig sy’n dianc i’n dyfroedd. Mae’n dynwared hormonau estrogen ac yn effeithio ar ddatblygiad rhywiol y creaduriaid yn y dŵr.
Mae ymchwilwyr yn edrych i weld a yw hefyd yn effeithio ar fodau dynol wrth fynd drwy’r gadwyn fwyd.
Diolchiadau
Diolch i CELF a gomisiynodd y gwaith hwn i ysgogi trafodaeth am blastigau yn ein moroedd. Mae’n ymateb i waith yr artistiaid Mike Perry (casgliad Amgueddfa Cymru) a Tim Pugh (casgliad y Llyfrgell Genedlaethol).
Diolch hefyd i’r cerddwyr cŵn, yr ymwelwyr, y trigolion, y bobl fusnes a’r gwyddonwyr wnaeth roi o’u hamser i siarad am broblem sydd yn ymddangos yn anweledig. Gydag ychydig bach o ymchwil gallwn ni weld dyfnder a chymhlethdod sy’n cyffwrdd â chymaint o elfennau bywyd modern, yn enwedig newid hinsawdd a phroblemau sylfaenol cyfalafiaeth a marchnadoedd byd-eang.
Daeth yr ystadegau a’r ‘ffeithiau’ o ffynonellau ac erthyglau dibynadwy, rhaid eu trin gyda rhywfaint o amheuaeth. Un rheswm dros gyflwyno’r ffeithiau fan hyn oedd i annog trafodaeth ehangach o broblem ein defnydd o blastig, a’r llygredd sy’n deillio o’n dibyniaeth ni.
Lan yr afon
Ymchwiliad i effaith llygredd plastig yn afon Teifi ac Aber Teifi, Ceredigion, gorllewin Cymru.
Cafodd y darnau plastig canfyddedig i gyd eu casglu yn ystod y prosiect.
Hawlfraint pob llun Julian McKenny 2024
Ffotograffydd celf gain yw Julian McKenny sy'n gweithio ger Aberteifi yn y gorllewin.