Cyflwyniad – Beth yw Portread?
Yn y wers hon, bydd dysgwyr yn archwilio'r cysyniad o bortreadau a sut mae'n adrodd stori am hunaniaeth person. Drwy drafodaeth, arsylwi, a ffotograffiaeth ymarferol, bydd plant yn datblygu eu dealltwriaeth o hunan-fynegiant, emosiynau, ac adrodd straeon gweledol
(10 munud)
Dangoswch amrywiaeth o bortreadau (paentiadau, ffotograffau, darluniau) ar sgrin fawr neu wedi'u hargraffu.
Questions:
Beth sydd yn y llun yma?
Pwy yw’r unigolyn yma, tybed??
Sut maen nhw'n teimlo?
Sut allwch chi ddweud?
Beth mae eu dillad a'u cefndir yn ei ddweud wrthym amdanynt?
Trafodwch sut y gall portreadau adrodd stori am hunaniaeth person e.e. eu hemosiynau, eu diwylliant, neu eu swydd.
Cynllun Gwers Ffotograffiaeth
Cynllun Gwers Ffotograffiaeth
Cynllun Gwers Ffotograffiaeth
Archwilio Hunaniaeth mewn Portreadau
(15 munud)
1. Dangos portreadau o Gymru (dolen i cynefin)
2. Trafodwch sut mae pobl yn mynegi eu hunaniaeth yn y delweddau hyn drwy:
- Dillad
- Mynegiant wyneb
- Cefndir/lleoliad
- Gwrthrychau maen nhw'n eu dal
3. Cysylltu hyn â'u hunaniaeth nhw eu hunain - sut ydyn ni'n dangos pwy ydyn ni mewn lluniau?

Gweithgaredd Ffotograffiaeth: Tynnu Lluniau Portreadau
(20 munud)
Rhowch gamerâu/llechi hawdd eu defnyddio i’r plant.
Esboniwch awgrymiadau ffotograffiaeth portreadau sylfaenol yn unol â’r camau dilyniant:
Geirfa allweddol:
Gafael: Dal y camera yn gadarn.
Darganfod ac Agor: Llywio i'r ap camera/llechen.
Cyfansoddiad: Gosod y goddrych yn y ffrâm.
Ffeiliau a Storio: Cadw ac adolygu delweddau e.e. cerdyn SD, gyriant caled.
Chwyddo: Addasu ffocws er mwyn tynnu sylw at fanylion.
Rhowch y plant mewn parau a gadewch iddyn nhw gymryd eu tro yn tynnu lluniau o'i gilydd. Anogwch nhw i feddwl am eu hunaniaeth - sut maen nhw eisiau cael eu gweld? Sut maen nhw'n teimlo a sut y gallant ddangos eu hemosiwn.
Enghreifftiau o'r casgliad
Myfyrio a Thrafodaeth (15 munud)
Dangoswch bortreadau'r plant ar sgrin neu eu hargraffu.
Gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio eu lluniau:
Beth oeddech chi eisiau i'ch portread ei ddangos?
Sut ydych chi'n teimlo am eich llun?
Beth wnaethoch chi ei ddysgu amdanoch chi'ch hun ac eraill?
Trafodwch sut mae ffotograffiaeth yn ffordd o adrodd straeon am bwy ydyn ni.
Cyfle Dysgu Pellach: y Celfyddydau Mynegiannol
Datganiad o’r hyn sy’n bwysig Rwy’n gallu rhoi a derbyn adborth fel artist a chynulleidfa.
Defnyddiwch fframiau ysgrifennu i fyfyrio ar waith eraill. Er enghraifft:
Roedd ... yn dda.
Mae angen iddyn nhw wella ar...
Mae fy llun yn portreadu...
Gellir recordio'r myfyrdodau hyn ar lafar neu eu hysgrifennu, yn dibynnu ar y plentyn.
Grŵp oedran
Mae'r adnodd wedi'i creu ar gyfer plant ysgol gynradd, ond gall cael ei addasu ar gyfer myfyrwyr hyn
Maes y Cwricwlwm:
Celfyddydau Mynegiannol (Ffotograffiaeth)), Dyniaethau (Hunaniaeth)
Celfyddydau Mynegiannol
Datganiad o’r hyn sy’n bwysig: Rwy’n gallu archwilio a disgrifio sut mae artistiaid a gwaith creadigol yn cyfleu naws, teimladau a syniadau. Rwy’n gallu archwilio ac arbrofi ac yna ddewis technegau creadigol, arferion, deunyddiau, prosesau, adnoddau, offer a thechnolegau priodol..
Dyniaethau
Datganiad o’r hyn sy’n bwysig : • Rwy’n gallu archwilio fy hunaniaeth a'i chymharu â hunaniaeth eraill, gan gydnabod bod cymdeithas yn cynnwys grwpiau, credoau a safbwyntiau amrywiol.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Datganiad o’r hyn sy’n bwysig: • Rwy’n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio geirfa sy’n gynyddol amrywiol ac yn gynyddol fanwl gywir.
Canlyniadau
- 1. Deall beth yw portread a beth all ei ddweud wrthym am berson.
- 2. Archwilio gwahanol fathau o bortreadau (paentiadau, ffotograffau, darluniau).
- 3. Nodi emosiynau a manylion cefndir i ddeall hunaniaeth.
- 4. Arbrofi gyda chymryd eu portreadau eu hunain gan ddefnyddio sgiliau ffotograffiaeth sylfaenol.
- 5. Myfyrio ar sut yr hoffent gynrychioli eu hunain mewn portread.
Strwythur y Wers
60 munud
Yr Adnoddau sydd eu hangen
- 1. Delweddau printiedig o bortreadau.
- 2. Camerâu, llechi , neu sesiwn ffotograffiaeth dan arweiniad athrawon.
- 3. Sgrin neu argraffydd i arddangos delweddau.
- 4.Gofod wedi'i oleuo'n dda ar gyfer tynnu portreadau.
- 5. Taflenni geirfa printiedig i blant gyfeirio atynt.