Mae’r syniad o hunaniaeth Gymreig yn rhywbeth sy’n cael ei drafod ym mhob ystyr bron yn feunyddiol, mae’r syniad o ‘Gymreictod’ yn cael ei glymu nid yn unig mewn hiraeth a thraddodiad, ond mewn gwerthoedd modern bob dydd hefyd.
Mae'r Adnodd hwn yn edrych ar thema Cymru a Pherthnasedd Cymreig ac yn gofyn y cwestiwn ‘beth mae bod yn Gymro/Gymraes yn ei olygu?’. Isod, fe welwch ddeg darn o waith celf sy'n dod o dan y thema hon, defnyddiwch nhw i drafod y syniad o hunaniaeth Gymreig.
Bedwyr Williams – Bard Attitude
Mae’r arlunydd yn sefyll mewn tirwedd ddramatig gyda thelyn yn gorwedd yn ansicr ar graig uwchben afon. Mae ei wisg a'i farf wen ffug yn chwythu yn yr awel. Mae gwaith Bedwyr yn seiliedig ar waith Philip James de Loutherbourg (1740-1812) a’i ddelwedd eiconig o’r Bardd mewn sylw chwareus ar luniadau hunaniaeth a hanes Cymru.
Beth yn y ddelwedd hon sy’n cyfleu ‘Cymreig’ i chi?
Sut mae bardd yn cynrychioli hunaniaeth Gymreig?
Gweithgaredd: Rhowch gynnig ar ail-greu paentiad clasurol ar ffurf ffotograff.
Laura Ford – Glory Glory (Hat & Horns)
Mae ffigwr trawiadol yn gwisgo elfennau o wisg draddodiadol Gymreig. Ac eto, o edrych yn agosach, mae gan y cerflun ymddangosiad rhyfeddol fel cymeriad allan o stori dylwyth teg, neu hunllef. Mae ‘Glory Glory’, sy’n rhan o gyfres ehangach a grëwyd ar gyfer Biennale Fenis 2005, yn archwilio cysyniadau gwrthgyferbyniol hunaniaeth genedlaethol.
Pa ddillad sy’n cynrychioli Cymru neu Hunaniaeth Gymreig?
Pa straeon tylwyth teg ydych chi’n meddwl amdanyn wrth feddwl am Gymru?
Gweithgaredd: Rhowch gynnig ar greu gwisg draddodiadol Gymreig unigryw.
Brenda Chamberlain – Hunan-bortread ar Garnedd Ddafydd
Awdur ac artist angerddol oedd Brenda Chamberlain. Ar adeg paentio'r hunan-bortread hwn, roedd hi wedi ymgartrefu ym mynyddoedd y gogledd i fyw bywyd tawel a chreadigol. Mae’r ddelwedd hon sydd wedi’i llunio’n ofalus yn dangos gwraig bwrpasol a chryf ei meddwl, yn benderfynol o fod yn artist. Mae'r ystum pendant sy'n wynebu'r blaen a chefndir niwlog y dirwedd yn deillio o baentiadau'r Dadeni.
Pam mae Brenda Chamberlain yn defnyddio'r cefndir hwn?
Beth all y ddelwedd hon ei ddweud wrthon ni am ‘Gynefin’ Chamberlain?
Beth am eich ardal leol sy'n gwneud i chi deimlo'n Gymreig?
Gweithgaredd: Rhowch gynnig ar greu hunlun gyda chefndir tirwedd neu greu hunanbortread.
Clementine Schneiderman - It's Called Fashion (Look It Up), Merthyr Tudful
Mae’r ffotograff hwn yn bortread tyner a phryfoclyd o hunaniaeth, cymuned a phlentyndod. Ers 2015, mae Clémentine Schneidermann a Charlotte James wedi gweithio ar y cyd â grwpiau ieuenctid ar draws cymoedd y de i greu’r project ‘It’s Called Ffasiwn’. Mae'r ymdeimlad o awduraeth ar y cyd yn cynhyrchu deialog gyfoethog rhwng artist, pwnc a lle.
Pam ydych chi'n meddwl bod y boblifanc wedi gwisgo fel hyn?
Sut mae’r darn hwn yn gwneud i chi deimlo?
Sut mae'r bobl sy’n cael eu portreadu yn cynrychioli hunaniaeth Gymreig?
Gweithgaredd: Rhowch gynnig ar greu golygfa yn darlunio eich hunan fel oedolyn, neu os yn oedolyn – fel plentyn.
David Hurn - Taith fws o'r cymoedd ar wyliau yn ystod y pythefnos pan oedd y pyllau glo ar gau. Aberafan, Cymru
Roedd Pythefnos y Glowyr yn digwydd yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst pan oedd y pyllau glo yn cael eu cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw blynyddol. Byddai glowyr, eu teuluoedd a chymunedau cyfan o gymoedd y de yn heidio i gyrchfannau fel y Barri a Phorthcawl i fwynhau gwyliau haeddiannol.
Beth mae'r gair cymuned yn ei olygu i chi?
Ydy’r olygfa hon yn unigryw i Gymru?
Ble yng Nghymru ydych chi'n cysylltu â gwyliau?
Kyffin Williams - Eira ar Foel Siabod
Mynydd ger Capel Curig yn Eryri yw Moel Siabod. Er bod Kyffin Williams yn byw yn Llundain pan baentiodd y gwaith hwn, byddai’n dychwelyd yn gyson i gartref ei deulu yn Llansadwrn, Ynys Môn i baentio’r dirwedd. Yn ystod ei oes, llwyddodd Kyffin i sicrhau proffil uchel yng Nghymru, ac mae ei baentiadau o Eryri wedi dod yn gyfystyr â golygfa boblogaidd a rhamantaidd o dirwedd Cymru.
Pa fath o tirweddau sydd yn rhan o hunaniaeth Cymru?
Pa naws mae'r darn hwn yn ei bortreadu?
Gweithgaredd: Ble mae eich lle hapus yng Nghymru? Rhowch gynnig ar greu darn o gelf yn darlunio’r lle hwn – gellir ei wneud mewn unrhyw ffurf.
Catrin Howell – Cŵn Gwyllt
Mae dau gi gwyllt yn dringo ar ben ei gilydd wrth iddyn nhw geisio dianc rhag dŵr glaswyrdd y môr wrth iddo godi. Cyfeiriad yw hwn at chwedl Cantre’r Gwaelod, teyrnas a foddwyd gan ddyfroedd Bae Ceredigion. Mae'r artist wedi dal ysbryd gwyllt yr anifeiliaid, sy'n ymddangos fel pe baen nhw’n helpu ei gilydd yn hytrach nag ymladd.
Pa chwedl Gymreig yw eich ffefryn a pham?
Pa anifail sy'n cynrychioli Cymru orau?
Gweithgaredd: Darllenwch hanes Cantre’r Gwaelod ne hanes chweldau Cymraeg. Cynlluniwch creadur mytholegol eich hun.
Paul Davies – Mappa Mundi
Yn y llun hwn, mae Paul Davies yn dwyn ynghyd gynrychioliadau o'i weithiau celf tir mawreddog. Bu’n gweithio gyda chymunedau lleol ar gynigion i greu mapiau anferth o’r dirwedd gan ddefnyddio gwrthgloddiau a phlanhigion. Mae’r lluniad hwn yn cynnwys dyluniadau ar gyfer Map of Wales in Ynys Môn (1987) a darn heb ei wireddu, World Map for Merthyr Tydfil (1989).
Sut mae bobl o rhananu arall o’r byd yn meddwl am Gymru? Sut mae Cymru yn cael ei gweld ar fap o’r byd yn eich barn chi?
Gweithgaredd: Dyliniwch map o Gymru ne eich milltir sgwar chi gan amlygu be sy’n bwysig i chi.
Daniel Trivedy - Blancedi Argyfwng Cymreig
Mae saith blanced argyfwng wedi’u gorbrintio â dyluniadau traddodiadol o garthenni Cymreig. Cynhyrchwyd y gwaith hwn yn yr un flwyddyn ag y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu huchelgais i fod yn Genedl Noddfa. Mae'r gosodwaith yn cyferbynnu defnydd ymarferol y flanced ffoil denau â threftadaeth, diwylliant a diogelwch y garthen Gymreig draddodiadol. Mae’n ein hannog i ystyried y cyfleoedd i fod yn genedl gynhwysol a chroesawgar.
Beth mae’r gwaith hwn yn ei ddweud wrthon ni am Gymru heddiw?
Sut mae’r darn hwn yn gwneud i chi deimlo?
Pam mae Trivedy wedi defnyddio blancedi argyfwng ar gyfer y darn hwn?
Mary Lloyd Jones – Ysgwrn
Arlunydd yw Mary Lloyd Jones sy’n defnyddio’r haniaethol i archwilio’r dirwedd drwy gof, diwylliant a hunaniaeth. Mae ei gwaith yn mynegi’r syniad o gynefin – ymdeimlad o berthyn ac ymlyniad at le arbennig. Mae’r gwaith wedi’i enwi ar ôl y fferm lle magwyd y bardd Hedd Wyn (1887-1917), a enillodd y ‘gadair ddu’ yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar ôl cael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Pa ddigwyddiadau yn hanes Cymru ydych chi'n meddwl sy'n ychwanegu at y teimlad o hunaniaeth Gymreig?
Pa liwiau sy'n cynrychioli tirweddau Cymru?
Gweithgaredd: Dyliniwch darn o gelf haniaethol sy’n cynrychioli eich hunaniaeth chi.
Gweithgareddau:
- Dewch o hyd i Gelf yn eich ardal leol sy’n adlewyrchu hunaniaeth Gymreig – gall fod yn ddarn sydd eisoes yn ei le neu’n ddarn rydych chi’n ei greu wedi’i ysbrydoli gan eich ardal leol
(Cofiwch gall Celf fod yn unrhyw beth, er enghraifft, darlun, paentiad, cerflun, ffotograff ac ati. Mae gennych gynfas gwag) - Pe gallech osod y darn hwn o gelf unrhyw le yn eich cymuned i ble fyddai'n mynd?
Ystod oedran:
Rydyn ni wedi creu ymarferion sydd heb eu hanelu at lefel benodol yn bwrpasol gan ein bod yn credu ym marn broffesiynol athrawon; gallwch addasu gweithgareddau i weddu i unrhyw grŵp, drwy bob cam o ddysgu cynradd, uwchradd ac oedolion.
Y Dyniaethau:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Canlyniadau:
Nod yr adnodd hwn yw cychwyn sgwrs ar yr hyn mae'n ei olygu i fod yn Gymro/Gymraes a chael myfyrwyr i drafod beth mae Cymru yn ei olygu iddyn nhw drwy gyfrwng Celf.
Drwy ddefnyddio’r adnodd hwn mewn grŵp bydd yn annog dysgwyr i fynegi a thrafod barn, gan weithio’n unigol ac mewn grwpiau i ymateb yn greadigol i wahanol weithiau celf yn y casgliad, gan ddefnyddio gwaith tîm a chreadigrwydd unigol.
Gweithgareddau:
- Dewch o hyd i Gelf yn eich ardal leol sy’n adlewyrchu hunaniaeth Gymreig – gall fod yn ddarn sydd eisoes yn ei le neu’n ddarn rydych chi’n ei greu wedi’i ysbrydoli gan eich ardal leol
(Cofiwch gall Celf fod yn unrhyw beth, er enghraifft, darlun, paentiad, cerflun, ffotograff ac ati. Mae gennych gynfas gwag) - Pe gallech osod y darn hwn o gelf unrhyw le yn eich cymuned i ble fyddai'n mynd?