Yn aml, gall Celf Brotest fod yn ffurf i artistiaid fynegi barn ar bwnc sy'n bwysig iddyn nhw, un nad yw rhywun efallai'n gallu ei mynegi mewn geiriau, neu'n un a fyddai’n cael mwy o effaith neu gwell ystyr drwy ddarn o gelf.
Gall darn o Gelf Brotest fod ar sawl ffurf, yn gynfas wedi'i baentio, yn ffotograff, yn osodwaith, yn fideo: nid yw'n cyfyngu ei hunan i un cyfrwng.
Nid yw bob amser yn dod gan unigolyn, gallai gael ei greu gan grŵp, casgliad o bobl neu fudiad.
Yn aml, gall artistiaid greu darn o Gelf Brotest i helpu i drafod pwnc a chychwyn sgwrs am fater. Gall fynd i'r afael â phwnc drwy wneud safiad, ond does dim rhaid iddo fod yn neges glir bob amser. Dywedodd Leonardo Da Vinci unwaith – ‘Does dim byd yn cryfhau awdurdod gymaint â distawrwydd.’
Gall artist greu darn o gelf fel ffurf ar brotest gan nad yw geiriau’n gallu bod yn ddigon. Mae defnyddio darn o gelf yn ychwanegu elfen arall, gan greu rhywbeth y gall pobl uniaethu ag ef yn haws na thrwy ffyrdd eraill o gyfathrebu. Gall celf gysylltu pobl mewn ffordd nad yw ffyrdd eraill o ymgyrchu yn eu gwneud. Gall fod yn ffurf fwy cynnil o gyfleu'ch safbwynt, gan wneud i'r rhai sy'n profi'r gelfyddyd newid y ffordd maen nhw’n meddwl am bwnc penodol.
Cymrwch gip yma ar gwahanol mathau o Gelf Brotest o ar draws y byd:
Uchod, fe welwch y braslun ar gyfer Ffenest Alabama gan yr artist o Gymru John Petts. Cafodd hwn ei greu fel ffurf o brotest bositif ar ôl i’r Ku Klux Klan osod bom yn Eglwys y Bedyddwyr 16th Street yn Birmingham, Alabama ar 15 Medi 1963 gan ladd pedair merch ddu oedd yn mynychu'r Ysgol Sul yno. Nod Petts ar gyfer y gwaith hwn oedd dangos i gymuned Alabama fod yna gefnogaeth mewn rhannau eraill o’r byd i’w sefyllfa, a bod pobl Cymru wedi dod at ei gilydd i ariannu a chyflwyno ffenestr lliw newydd yn darlunio Crist fel dyn du. Gallwch ddarllen rhagor am Ffenest Alabama yma – https://blog.library.wales/the-wales-window-birmingham-alabama/
Mae Celf Brotest yn dod yn ffordd fwy poblogaidd o weithredu oherwydd cyrhaeddiad cyfryngau cymdeithasol a gall delweddau gael eu rhannu ar draws y byd mewn eiliad sy’n golygu bod gan artistiaid gynulleidfa llawer mwy a, a bod ganddynt lawer mwy o effaith nag y bydden nhw heb bŵer cyfryngau cymdeithasol.
Nid yw protestio ar y stryd a defnyddio’ch llais at ddant pawb. Mae Celf Brotest yn rhoi gwahanol fath o lais i artistiaid fynegi eu barn neu eu safbwyntiau mewn ffordd nad yw’n gweithredu’n uniongyrchol, ond sy’n dal yn gallu cael effaith barhaol.
Myfyrwyr yn Protestio, Casnewydd, Cymru
Gall artistiaid hefyd ddal eiliad o brotest i helpu i ymhelaethu ar y neges, er enghraifft y ddelwedd hon o fyfyrwyr yn protestio a dynnwyd gan David Hurn, a ffotograff Nick Treharne o’r Frenhines yn pasio Graffiti ‘Independent Tropical Wales’ ar ei ffordd i agor Cynulliad Cymru.
Tasgau Posib a Phwyntiau Trafod
- Pam ydych chi'n meddwl y byddai rhywun yn creu darn o Gelf Brotest?
- Darganfyddwch dri darn o Gelf Brotest ac eglurwch pam y dewisoch chi'r rhain?
- Pam mae Celf Brotest yn bwysig yn eich barn chi?
- Gwnewch eich ffurf eich hunan ar Gelf Brotest – a oes pwnc sy’n bwysig i chi neu’ch grŵp?
Ystod oedran
Mae’r adnodd hwn wedi’i greu’n bwrpasol i’w addasu i weddu i anghenion unrhyw ddysgwyr, o’r ysgol gynradd i oedolion.
Rydyn ni wedi creu ymarferion sydd heb eu hanelu at lefel benodol yn bwrpasol gan ein bod yn credu ym marn broffesiynol athrawon; gallwch addasu gweithgareddau i weddu i unrhyw grŵp.
Y Dyniaethau:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol..
Canlyniadau:
Amcan yr adnodd yma ydy addysgu disgyblion am y gwahanol fathau o Gelf Brotest a pam mae artistiaid yn defnyddio’r ffurf yma o brotest. Dylai’r adnodd addysgu ac ysbrydoli disgyblion i ddeall pam mae Celf Brotest yn bwysig a hefyd eu hannog i greu darn o gelf brotest eu hunain am bwnc sy'n bwysig iddyn nhw.