DYSGU

Amgueddfa Cymru
11 Chwefror 2023

Celf a Phrotest

Amgueddfa Cymru

11 Chwefror 2023 | Minute read

Yn aml, gall Celf Brotest fod yn ffurf i artistiaid fynegi barn ar bwnc sy'n bwysig iddyn nhw, un nad yw rhywun efallai'n gallu ei mynegi mewn geiriau, neu'n un a fyddai’n cael mwy o effaith neu gwell ystyr drwy ddarn o gelf.

Gall darn o Gelf Brotest fod ar sawl ffurf, yn gynfas wedi'i baentio, yn ffotograff, yn osodwaith, yn fideo: nid yw'n cyfyngu ei hunan i un cyfrwng.

Nid yw bob amser yn dod gan unigolyn, gallai gael ei greu gan grŵp, casgliad o bobl neu fudiad.

Yn aml, gall artistiaid greu darn o Gelf Brotest i helpu i drafod pwnc a chychwyn sgwrs am fater. Gall fynd i'r afael â phwnc drwy wneud safiad, ond does dim rhaid iddo fod yn neges glir bob amser. Dywedodd Leonardo Da Vinci unwaith – ‘Does dim byd yn cryfhau awdurdod gymaint â distawrwydd.’

Gall artist greu darn o gelf fel ffurf ar brotest gan nad yw geiriau’n gallu bod yn ddigon. Mae defnyddio darn o gelf yn ychwanegu elfen arall, gan greu rhywbeth y gall pobl uniaethu ag ef yn haws na thrwy ffyrdd eraill o gyfathrebu. Gall celf gysylltu pobl mewn ffordd nad yw ffyrdd eraill o ymgyrchu yn eu gwneud. Gall fod yn ffurf fwy cynnil o gyfleu'ch safbwynt, gan wneud i'r rhai sy'n profi'r gelfyddyd newid y ffordd maen nhw’n meddwl am bwnc penodol.

Cymrwch gip yma ar gwahanol mathau o Gelf Brotest o ar draws y byd:

 

PETTS, John
© John Petts/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Braslun ar gyfer Ffenest Alabama

Memorial Window at the 16th Street Baptist Church, from the people of Wales after the 1963 bombing. PhotoL National Geographic Image Collection / Alamy

 

Uchod, fe welwch y braslun ar gyfer Ffenest Alabama gan yr artist o Gymru John Petts. Cafodd hwn ei greu fel ffurf o brotest bositif ar ôl i’r Ku Klux Klan osod bom yn Eglwys y Bedyddwyr 16th Street yn Birmingham, Alabama ar 15 Medi 1963 gan ladd pedair merch ddu oedd yn mynychu'r Ysgol Sul yno. Nod Petts ar gyfer y gwaith hwn oedd dangos i gymuned Alabama fod yna gefnogaeth mewn rhannau eraill o’r byd i’w sefyllfa, a bod pobl Cymru wedi dod at ei gilydd i ariannu a chyflwyno ffenestr lliw newydd yn darlunio Crist fel dyn du. Gallwch ddarllen rhagor am Ffenest Alabama yma – https://blog.library.wales/the-wales-window-birmingham-alabama/ 

Mae Celf Brotest yn dod yn ffordd fwy poblogaidd o weithredu oherwydd cyrhaeddiad cyfryngau cymdeithasol a gall delweddau gael eu rhannu ar draws y byd mewn eiliad sy’n golygu bod gan artistiaid gynulleidfa llawer mwy a, a bod ganddynt lawer mwy o effaith nag y bydden nhw heb bŵer cyfryngau cymdeithasol.

Nid yw protestio ar y stryd a defnyddio’ch llais at ddant pawb. Mae Celf Brotest yn rhoi gwahanol fath o lais i artistiaid fynegi eu barn neu eu safbwyntiau mewn ffordd nad yw’n gweithredu’n uniongyrchol, ond sy’n dal yn gallu cael effaith barhaol.

HURN, David
© David Hurn/MAGNUM/Amgueddfa Cymru

Myfyrwyr yn Protestio, Casnewydd, Cymru

TREHARNE, Nick
© Nick Treharne/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Y Frenhines ar ei ffordd i agor y Cynulliad Cenedlaethol newydd, Stryd Bute, Caerdydd

Gall artistiaid hefyd ddal eiliad o brotest i helpu i ymhelaethu ar y neges, er enghraifft y ddelwedd hon o fyfyrwyr yn protestio a dynnwyd gan David Hurn, a ffotograff Nick Treharne o’r Frenhines yn pasio Graffiti ‘Independent Tropical Wales’ ar ei ffordd i agor Cynulliad Cymru. 

Tasgau Posib a Phwyntiau Trafod 

  • Pam ydych chi'n meddwl y byddai rhywun yn creu darn o Gelf Brotest?
  • Darganfyddwch dri darn o Gelf Brotest ac eglurwch pam y dewisoch chi'r rhain?
  • Pam mae Celf Brotest yn bwysig yn eich barn chi?
  • Gwnewch eich ffurf eich hunan ar Gelf Brotest – a oes pwnc sy’n bwysig i chi neu’ch grŵp?

Ystod oedran


Mae’r adnodd hwn wedi’i greu’n bwrpasol i’w addasu i weddu i anghenion unrhyw ddysgwyr, o’r ysgol gynradd i oedolion.

Rydyn ni wedi creu ymarferion sydd heb eu hanelu at lefel benodol yn bwrpasol gan ein bod yn credu ym marn broffesiynol athrawon; gallwch addasu gweithgareddau i weddu i unrhyw grŵp.

Y Dyniaethau:

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol..

Canlyniadau:

Amcan yr adnodd yma ydy addysgu disgyblion am y gwahanol fathau o Gelf Brotest a pam mae artistiaid yn defnyddio’r ffurf yma o brotest. Dylai’r adnodd addysgu ac ysbrydoli disgyblion i ddeall pam mae Celf Brotest yn bwysig a hefyd eu hannog i greu darn o gelf brotest eu hunain am bwnc sy'n bwysig iddyn nhw.


Share


More like this