DYSGU

Amgueddfa Cymru - Museum Wales
3 Ebrill 2023

Menywod yng Nghelf Gyfoes

Amgueddfa Cymru - Museum Wales

3 Ebrill 2023 | Minute read

Yn ôl gwaith ymchwil a wnaed gan Amgueddfa Genedlaethol Menywod yn y Celfyddydau, 

"Dim ond 13.7% o’r artistiaid byw a gynrychiolir gan orielau yn Ewrop a Gogledd America sy'n fenywod."

Drwy gydol hanes celf dydy artistiaid benywaidd ddim wedi derbyn y gydnabyddiaeth na’r gynrychiolaeth ag y mae artistiaid gwrywaidd, ac felly byddwn yn gofyn y cwestiwn pam ac yn archwilio gwaith rhai o'r artistiaid benywaidd yn ein casgliad. 


Yn yr adnodd hwn byddwch yn darganfod 5 artist benywaidd sy'n gweithio ar draws gwahanol gyfryngau, yn dysgu amdanynt, yn archwilio eu gwaith, ac yna'n dod ynghyd i drafod eu gwaith celf yn ogystal ag ateb y cwestiwn ehangach pam mae artistiaid benywaidd wedi cael eu tangynrychioli ac a yw hynny'n newid heddiw? 

 

Mary Lloyd Jones   

Fel tirlunydd, mae gan Mary Lloyd Jones gysylltiad dwfn iawn â’r ardal lle’i magwyd. Mae ei lluniau yn delio gyda’r berthynas amlhaenog sydd ganddom gyda’n cynefin ac cwestiynnu’r ffordd y mae tir yn diffinio ein hunaniaeth, boed trwy ddaearyddiaeth, ddiwylliant, hanes neu iaith.

Yn enedigol o Bontarfynach yng Ngheredigion, astudiodd Lloyd Jones yng Ngholeg Celf Caerdydd am bum mlynedd cyn cychwyn ar yrfa yn dysgu. Wedi tair mlynedd yn Romford yn Essex, dychwelodd i Gymru ac ymgartrefu yn Aberarth ar arfordir y gorllewin. Yno, daeth yr amgylchedd newydd ag ysbroliaeth ffres i’w gwaith.

Mae Ceredigion yn destun cyson yn nhirluniau Lloyd Jones, yn enwedig y creithiau y mae canrifoedd o gloddio am blwm wedi gadael yn yr ardal. Mae hi hefyd yn ymddiddori yn y marciau hynafol y mae dynoliaeth wedi eu gwneud yn fwriadol ar y tirlun, fel cerfiadau Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu yn Sir Fôn. Yn ei darluniau, mae llythrennau o’r gwyddorau cynar – Ogam a Barddol – yn aml yn cael eu cydblethu gyda ffurfiau o fyd natur. Mae’r iaith Gymraeg yn elfen ganolog arall o’i gweledigaeth, ynghyd a’r ymwybyddiaeth gref sydd ganddi o’r berthynas symbiotig rhwng tir a iaith.

Fel artist benywaidd mae Lloyd Jones wedi son am y diffyg o esiamplau oedd ganddi wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad. Serch hynny, roedd traddodiad cwiltio ei hen-neiniau yn ddylanwad pwysig arni. Er iddi gynnwys defnyddiau yn ei gwaith cynar, yn hwyrach trodd yn gyfangwbl at baentio. Trwy gydol ei gyrfa, mae ffurfiau lliwgar wedi bod yn nodwedd cyson o’i thirluniau, sy’n cyfuno’r haniaethol a’r ffigurol.

LLOYD JONES, Mary
© Mary Lloyd Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
LLOYD JONES, Mary
© Mary Lloyd Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
LLOYD JONES, Mary
© Mary Lloyd Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Ray Howard-Jones

 

Roedd Ray (neu Rosemary) Howard-Jones yn paentio tirluniau atmosfferig o arfordir ac ynysoedd de Cymru, gan fwyaf ym Mhenarth a Sir Benfro ac fel arfer mewn gouache. Mae ei gwaith yn tarddu o werthfawrogiad dwfn, ysbrydol bron, o natur, sydd yn dilyn yn y traddodiad tirluniau Rhamantaidd. 

Ganwyd Howard-Jones i rieni Cymraeg yn Berkshire a treuliodd ei phlentydod ym Mhenarth gyda’i nain a’i thaid. Ar ôl mynychu’r ysgol leol, yn 1920 aeth i Ysgol Gelf Slade lle bu’n astudio am bedair mlynedd.

A hithau’n dal yn Llundain yn ei thridegau, cafodd ei harddangosfa unigol gyntaf yn 1935 ond arafodd ei gyrfa o ganlyniad i broblemau iechyd a treuliodd gyfnod yn paentio cysgodion lamp mewn ffatri lampiau. Ar ôl dychwelyd i Benarth gweithiodd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gwneud darluniau archeolegol ar gyfer cyhoeddiadau. Yn hwyrach yn ei gyrfa, bu hefyd yn ddarlunydd meddygol.

Er nad oedd yn artist rhyfel swyddogol, yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd Howard-Jones ei chomisiynnu i baentio’r amddiffynfeydd ar ynysoedd Echni a Ronech ym Môr Hafren, a paentiodd hefyd y cychod yn paratoi i adael Penarth a dociau Cardydd ar gyfer glaniadau D-Day.

Gyda’i chartref ym Mhenarth wedi ei ddifrodi gan fomiau, symudodd i Lundain yn 1947 ond dychwelai i Gymru bob haf. O 1948 tan 1959, byddai hi a’i phartner, y ffotograffydd Raymond Moore, yn gweithio fel gofalwyr haf ar Ynys Sgomer yn Sir Benfro, lle paentiodd rai o’i gweithiau mwyaf adnabyddus.

Roedd Howard-Jones hefyd yn gwneud murluniau a mosaigiau, ac yn 1958 enillodd gystadleuaeth genedlaethol i greu mosaig enfawr ar gyfer swyddfeydd y Western Mail yng Nghaerdydd. Cafodd y gwaith, Llygad i’r Bobl, ei ddymchwel yn 2008. Mae’r amrywiaeth yn ei gyrfa artistig yn dangos yr heriau oedd yn wynebu menywod yn y byd celf ar ganol yr ugeinfed ganrif, sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ei henw, sydd ddim yn datgelu ei rhywedd.

HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Clémentine Schneidermann and Charlotte James

Mae Clémentine Schneidermann a Charlotte James wedi arloesi gyda phrojectau sy’n dod a iaith ffasiwn fyd-eang i bobl ifanc mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol yn ne Cymru – ac wrth wneud, yn dod â dau fyd hollol wahanol at ei gilydd er mwyn annog ymgysylltu cymdeithasol.

Yn wreiddiol o Ffrainc, symudodd y ffotograffydd Clémentine Schneidermann i Gymru i wneud gradd MA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru, lle mae hi hefyd wedi cwblhau PhD. Mae hi’n arbenigo mewn ffotograffiaeth ddogfennol gymdeithasol gyda diddordeb arbennig mewn gweithio o fewn cymunedau. Mae’r steilydd Charlotte James yn dod o Ferthyr Tudful a gwnaeth radd BA mewn Cyfathrebu Ffasiwn yn Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Ers hynny mae hi wedi gweithio fel cyfarwyddwr creadigol, steilydd ffasiwn a gwneuthurwr ffilmiau yn Llundain a Chymru.

Cyfarfu’r ddwy tra’n gweithio ar broject cymunedol yn y Cymoedd, ac o hyn datblygodd y cydweithrediad ‘It’s called Ffasiwn’ yn 2015. Nod y project oedd dysgu plant a phobl ifanc am steilio a dylunio cyn tynnu lluniau ohonyn nhw’n gwigo dillad ffasiynol mewn gwahanol leoliadau yn y gymuned: ymhlith y tai, yn y strydoedd neu o flaen y bryniau cyfagos. Mae’r darluniau yn cyfuno ffotograffiaeth ddogfennol gydag elfennau o ffasiwn, perfformiad, tirluniau a phortreadau, gyda chanlyniadau annisgwyl ac weithiau swreal. Mae’r ffordd bositif y mae Schneidermann a James yn dangos eu testunau yn cyfleu'r neges y gall pawb fod yr hyn a fynnon nhw, beth bynnaf yw’r amgylchiadau. Trwy herio stereoteipiau, mae eu delweddau grymus yn profi bod hyn yn bosib. Mae'r project yn parhau a’r bobl ifanc yn dal i gael tynnu eu lluniau wrth dyfu'n hŷn.

SCHNEIDERMANN, Clémentine
© Clémentine Schneidermann/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
SCHNEIDERMANN, Clémentine & JAMES, Charlotte
© Clémentine Schneidermann and Charlotte James/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
SCHNEIDERMANN, Clémentine & JAMES, Charlotte
© Clémentine Schneidermann and Charlotte James/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

 

Magdalene Odundo 

Mae Magdalene Odundo DBE yn ffigwr o fri rhyngwladol ym myd cerameg, yn ogystal â bod yn Ganghellor ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol ac yn dderbynnydd gwobr Treftadaeth Affricanaidd am Gyflawniad Eithriadol yn y Celfyddydau yn 2012. 

Cafodd Magdalene Odundo, a gafodd ei geni yn Kenya ym 1950, ei haddysg drwy system addysg drefedigaethol Prydain yn India a Kenya cyn gweithio mewn cwmni hysbysebu ac astudio dylunio masnachol yng Ngholeg Polytechnig Kabete, Nairobi. Ym 1971 symudodd i Brydain i astudio yn Ysgol Gelf Caergrawnt. Yma, cafodd ei hysbrydoli i astudio cerameg gan y casgliadau yn amgueddfeydd Caergrawnt a chan ei thiwtor Zoë Ellison, a gafodd ei geni yn Simbabwe ond a hyfforddwyd yng Nghrochendy Ewenni ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Ym 1974-1975, astudiodd Magdalene Odundo dechnegau crochenwaith Affricanaidd yn Nigeria a Kenya, a mabwysiadodd dechneg adeiladu â llaw fel ei phrif dechneg. Mae gwaith llosgi manwl a'r dechneg danio draddodiadol o Uganda o'r enw emsubi yn rhoi gwedd unigryw i'w llestri.

Aeth Magdalene Odundo ymlaen i astudio yng Ngholeg Celf a Dylunio Gorllewin Surrey a’r Coleg Celf Brenhinol. Cafodd ei harddangosfa unigol gyntaf mewn amgueddfa gyhoeddus ei churadu gan Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, ym 1987, a oedd iddi hi ‘yn gam pwysig iawn wrth osod y llwybr ar gyfer fy ymarfer’.

Dydy Magdalene Odundo ddim yn diffinio ei hunan fel ‘artist Affricanaidd’, a mae’n tynnu ar ystod eang o ddylanwadau byd-eang, gan gynnwys cerflunwaith a dawns yn ogystal â cerameg hynafol a hanesyddol o Affrica, America gyn-Sbaenaidd, Asia, Gwlad Groeg a’r Aifft.

Odundo, Magdalene
© Magdalene A N Odundo/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Rachel Whiteread 

Mae Rachel Whiteread (g. 1963) yn gwneud cerfluniau bach a mawr drwy wneud cast o'r gofod gwag mewn gwrthrychau cartref cyffredin. Er enghraifft, mae hi wedi gwneud castiau solet o'r gofod o dan gadeiriau, tu mewn i gypyrddau dillad, y twll dan y grisiau, o amgylch llyfrau mewn cwpwrdd llyfrau a hyd yn oed y tu mewn i botel dŵr poeth. 

Mae’r cast yn cael ei wneud pan fydd deunydd hylif, fel plastr, concrit neu resin, yn cael ei dywallt i fowld a'i adael i galedu - gan droi'r aer y tu mewn yn wrthrych solet. 

Ym 1993, Whiteread oedd y fenyw gyntaf i ennill y Wobr Turner fawreddog am ei phroject Untitled (House). Ar gyfer y gwaith yma, fe wnaeth hi greu cast concrit o dŷ teras tri llawr cyfan yn yr East End yn Llundain, gan drawsnewid adeilad a oedd unwaith yn gartref teuluol yn wrthrych rhyfedd a solet. Cymerodd y cerflun enfawr yma dri mis i'w gwblhau a chafodd ei ddymchwel gan y cyngor yn fuan wedyn. 

Mae cerfluniau Whiteread ar yr un pryd yn gyfarwydd ac yn ddirgel. Maen nhw’n ymwneud â gwrthrychau a gofodau domestig ond mae'n eu cyflwyno mewn ffordd nad ydyn ni wedi arfer ag ef, gan wneud yr anweledig yn weladwy.

WHITEREAD, Rachel
© Rachel Whiteread/Amgueddfa Cymru

Y Ffeithiau 

 


"Yn y Deyrnas Gyfunol, mae 64% o israddedigion a 65% o ôl-raddedigion mewn celfyddydau creadigol a dylunio yn fenywod, ond mae 68% o'r artistiaid a gynrychiolir yn orielau masnachol gorau Llundain yn ddynion." - Freelands Foundation

 

"Dim ond 13.7% o’r artistiaid byw a gynrychiolir gan orielau yn Ewrop a Gogledd America sy'n fenywod."

"Yn 2017, roedd 27% o’r artistiaid cyfoes byw yng Nghasgliad y Tate yn fenywod." 


"Mae mwy na $196.6 biliwn wedi'i wario ar gelf mewn ocsiynau rhwng 2008 a hanner cyntaf 2019. O hyn, dim ond gwerth $4 biliwn— sef tua 2 y cant oedd yn waith gan fenywod." - "Female Artists Represent Just 2 Percent of the Market. Here’s Why—and How That Can Change," artnet News


"O'r 3,050 o orielau yng nghronfa ddata Artsy, dydy 10% ddim yn cynrychioli’r un artist benywaidd, a dim ond 8% sy'n cynrychioli mwy o fenywod na dynion. Mae bron i hanner yn cynrychioli 25% neu lai o fenywod." - The Global Art Market Report 2019 (Art Basel/UBS)

Ystod Oedran


Mae’r adnodd hwn wedi’i greu’n bwrpasol i’w addasu at anghenion unrhyw ddysgwyr, o’r ysgol gynradd i oedolion. 

Rydyn ni wedi creu ymarferion sydd heb eu hanelu at lefel benodol yn bwrpasol gan ein bod yn credu ym marn broffesiynol athrawon; gallwch addasu gweithgareddau i weddu i unrhyw grŵp, drwy bob cam o ddysgu cynradd, uwchradd ac oedolion.

Y Dyniaethau:

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Canlyniadau:

Nod yr adnodd hwn yw taflu goleuni ar rai o'r artistiaid benywaidd yn y casgliad, ac archwilio eu gwaith, eu hymarfer a'u cefndir. Ei nod hefyd yw cael dysgwyr i drafod menywod mewn celf, a pham mae eu rôl a'u statws wedi newid dros amser. 

Bydd y gweithgareddau yn annog dysgwyr i gasglu barn yn seiliedig ar ymchwil a llunio barn bersonol yn ogystal â'u hannog i weithio ar sgiliau cyfathrebu grŵp, gyda’r gallu i feirniadu a dod i gasgliadau cytbwys

Gweithgareddau:

  • Porwch drwy'r casgliadau a dewch o hyd i'ch hoff artist benywaidd chi, a nodwch pam mae ei gwaith yn apelio atoch chi. 

  • Trafodaeth Grŵp – Pam mae menywod wedi cael eu tangynrychioli mewn celf? 

  • Trafodaeth Grŵp – Ydy'r cae chwarae wedi dod yn gyfartal? Ydy merched yn cael eu hamlygu fel dynion mewn Celf Gyfoes?

  • Prosiect Ymchwil: Ymchwiliwch i artistiaid benywaidd cyfoes a dewiswch eich ffefryn gan nodi pam, cyflwynwch hyn i’r grŵp neu’r dosbarth gyda'ch rhesymu yn canolbwyntio ar gefndir yr artist a pham mae ei gwaith yn apelio atoch chi.

Share


More like this