
Ymweld ag Amgueddfeydd Cymru am y tro cyntaf ers dychwelyd i Gymru o’r Unol Daleithiau. Roeddwn i wedi bod yn gweithio yn fy stiwdio yn peintio angylion (comisiwn) pan ymwelais ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a gweld campwaith Augustus John; y paentiad olew o’r bardd Dylan Thomas.
Ffrwydrodd y paentiad o’m blaen yn fwrlwm o goch, gwyn a glas. Dylan Thomas yn gwisgo bandana o flaen lliwiau baner Texas.
Dim ond newydd symud o Texas oeddwn i, a gwelais am y tro cyntaf wyneb pwdlyd, angylaidd y Dylan Thomas ifanc. “Bacchus” Michaelangelo: Duw gwin, creadigrwydd, rhyddid rhywiol a theatr.
Roedd Augustus John wedi peintio Dylan â chroen gwelw lliw alabaster/ham, cyrls browngoch nefolaidd, gên fach bwt a thalcen cryf, yn edrych i ffwrdd oddi wrtha i trwy lygaid llwydfrown mawr. Ciplun cyflym, hyderus, argraffiadol bron. Portread cyfareddol, coch, Cymreig o’r bardd ifanc.
“Edrycha arna i Dylan”
Yn y traethawd “Remembering Dylan Thomas” mae Nerys Williams, New Dublin Press 2020, yn ysgrifennu am wraig y bardd... “Yn ei harddegau, ymosododd yr arlunydd Augustus John yn rhywiol dreisgar ar Caitlin a’i hawlio’n gariad iddo. Yn rhyfedd, fe wnaeth John gyflwyno Caitlin i Dylan mewn tafarn.”
(Roedd peintwyr portreadau cynnar yn teimlo bod ganddyn nhw hawl i ddefnyddio cyrff eu heisteddwyr ac eisteddodd Caitlin i Augustus John ar sawl achlysur. Mae tri phaentiad olew a sawl braslun yn dangos diddordeb Augustus John yn Caitlin MacNamara yn 1930 pan oedd hi’n 16/17 oed).
Cyflwynodd Augustus John Caitlin MacNamara i Dylan Thomas ym mis Ebrill 1936: roedd y tri’n cyfarfod yn aml wrth ymweld â mam Caitlin, oedd yn byw ger Augustus John yn Fryern Court, Hampshire. Yn ystod yr ymweliadau hyn y peintiodd Augustus John ddau bortread o Dylan Thomas 1936-1937. Priododd Dylan a Caitlin yn 1937.
Portread cynnar iawn o’r bardd yw hwn, a Dylan Thomas ddim ond yn dair ar hugain oed ac ar anterth ei greadigrwydd.
Pylu wnaeth cyfeillgarwch Augustus John a Dylan Thomas. Doedd gan John fawr o feddwl o “Dan y Wenallt”: ysgrifennodd “... Mae’r holl rwtsh-ratsh yn drafesti di-hiwmor o fywyd y werin wedi’i weini mewn dysglaid o gawl oer a thalpiau mawr o ffug-deimladrwydd wedi suddo ynddo. Ych a fi!”
JOHN, Augustus, Dylan Thomas © Ystad Augustus John. Cedwir pob hawl 2025 - Bridgeman Images.
Casgliad y National Portrait Gallery
Af i edrych ar bortread Augustus John o Dylan Thomas yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain.
Llygaid trist, lliwiau brown a llwydfelyn. Siwmper smotiog pysgotwr gyda ‘choler cwch’ mawr o wlân, yn eistedd o flaen cefndir tebyg i fetel wedi’i guro. Yn dal i beidio edrych arna i.
“Edrycha arna i.”
“Mi wna’i dy beintio di Dylan”
A chefndir dulas o’i amgylch, Dylan Thomas yn edrych i fyny ar y lleuad, wrth adael Gwesty Brown’s a mynd yn ôl at Caitlin yn y Boathouse. Wedi’i beintio yn yr un arddull â dau bortread Augustus John.
Cafodd y peintiad olew hwn ei arddangos yn Arddangosfa “Dan y Wenallt” yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau ac Amgueddfa Dinbych-y-pysgod (lle cafodd y Dylan Thomas coch ei arddangos, fel mae’n digwydd).
Es i’n wallgof yn peintio’r portread yma o Dylan Thomas. Wedi fy anfon i ysbyty meddwl am chwe mis, tynnais lun ohono’n chwarae cardiau wrth fwrdd cegin, llun manwl iawn, yn enwedig y llygaid. Fe werthodd yn syth, ond o na bawn i’n berchen arno nawr, neu o leiaf wedi cadw ffotograff ohono. “Cariad yn y Gwallgofdy”.
Fe wyliais i ddyn oedd ymhell dros bwysau yn gorfwyta hyd at farw yn y lle yna. Cynigiais i roi CPR iddo; doedd y cynorthwywr, i mi, ddim yn ei wneud yn iawn. “Dim diolch.”
Es i â Dylan gyda mi ar y daith honno. “On the madhouse boards worn thin by my walking tears.”
Oddi ar hynny rwy’n peintio a thynnu lluniau o Dylan yn edrych arna i.
STUART, Lynn, Dan y Wenallt © Lynn Stuart
Dan y Wenallt, Dylan Thomas ifanc, tai lliwgar Harbwr Abergwaun wedi’u hadlewyrchu yn y dŵr yn gefndir. Pennau cennin Pedr a’u petalau wedi disgyn. Dail blysig yn llyfu ochr wyneb Dylan. Coeden yn troi’n fenyw a chanddi fraich deilen pabi. Clychau’r gog gwyllt, wedi hedeg fel garllegau bach glas-borffor, a chlematis yn ymestyn amdano. Mae’n gwisgo’r bandana o bortread Augustus John. Wedi’i ddarlunio’n fwyn, ysgafn mewn pensiliau lliw.
STUART, Lynn, Return Journey © Lynn Stuart
Darllediad radio gan y BBC o adeg y rhyfel yw “Return Journey”, am y Blitz yn Abertawe. Rwy’n portreadu Dylan mewn pensil, yn eistedd gyferbyn â rhes o dai llonydd sy’n udo’r geiriau a ddarlledwyd.
“It was a cold white day on High Street, and there was nothing to stop the wind slicing up from the docks, for where the squat and tall shops had shielded the town from the sea, lay their blitzed, flat graves, marbled with snow, and headstoned with fences….”
Dylan â’i lygaid treiddgar, siwmper wlân, cardigan wlân, bandana a sigarét, yn syllu ac yn eich herio i beidio â theimlo.
… A theimlo wnes innau pan ddes i wyneb yn wyneb â “Dylan Thomas”, y darlun Argraffiadol bron o’r bardd ifanc gan Augustus John. Cyrls orengoch gwyllt, gwedd led-binc, yn edrych yn llygadrwth i’r dde yn y portread gorau, i mi, o’r bardd.
Augustus John, fe ddalioch chi Dylan Thomas.... ac fe ddaliodd Dylan Thomas chithau.
Mae Lynn Stuart yn artist sydd wedi gweithio gyda phaent olew ers mynd i'r Coleg (Coleg Celf Dyfed, a Choleg Celf Maine, UDA). Tra'n byw yn America, cafodd gwaith Lynn ei arddangos yn y Dallas Centre for Contemporary Art ar sawl achlysur ac fe gafodd ei gynnwys yn Arddangosfa Genedlaethol Texas dan y beirniad Sandy Skoglund. Ers dychwelyd i'r DU, mae Lynn wedi arddangos ei gwaith yn MOMA ac Oriel Theatr y Torch, ac Oriel Stryd y Brenin, Caerfyrddin.
Cafodd y darn hwn ei gomisiynu gan CELF a Chelfyddydau Anabledd Cymru.