"Yn nhŷ fy nhad, rydyn ni bob tro'n gwneud amser ar gyfer trafodaethau a sgyrsiau am yr hyn sy'n bwysig i ni. Yn amrywio o hil, i faterion cymdeithasol cyfoes a thywydd Cymru. Yn y llun hwn mae tri o fy mrodyr iau yn cael eu darlunio'n sgwrsio â'n tad."
Sut gall un foment deuluol benodol ysgogi profiad cyffredinol o ddod at ei gilydd?
Mae Jasmine Violet yn artist rhyngddisgyblaethol sy'n gweithio yng Nghymru. Yn seiliedig ar olygfa o lun polaroid a dynnwyd pan oedd yr artist yn tyfu i fyny, mae'r llun inc It's not just Black and White yn cyfleu moment sy'n ymddangos yn ddinod, ond un sy'n cynnwys ystod o emosiynau, perthnasoedd ac atgofion a rennir.
Am wylio gydag isdeitlau? Cliciwch ‘CC’ ar y fideo i ddewis gwyliau gyda chapsiynau caeedig (closed captions).
Yn y ffilm hon gan Pete Telfer, mae Jasmine yn myfyrio ar greu'r darn, pwysigrwydd gwahanol fathau o deulu yn ei bywyd, a'r angen i ddathlu emosiynau a cherrig milltir a gofalu am y bobl rydych chi'n eu caru.
Cafodd It's not just Black and White (2019) ei arddangos fel rhan o arddangosfa Teulu yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o Fawrth - Fehefin 2024, ac mae'n rhan o'r casgliad celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.