Yn 2008 daeth Michal Iwanowski, yr artist a aned yng Ngwlad Pwyl ac yn byw yng Nghaerdydd, ar draws graffiti ger ei gartref yn dweud ‘Go Home, Polish’. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, yng nghanol cefndir Brexit ac Ewrop ranedig, ymgymerodd â thaith anhygoel dros 1900km ar droed rhwng Cymru a’i bentref genedigol, Mokrzeszów yng Ngwlad Pwyl. Ei nod oedd archwilio a deall y syniad o ‘gartref’. Cymerodd y daith 105 diwrnod i’w chwblhau, a thrwy hynny fe bostiodd ddyddiadur o’i brofiadau a’i gyfarfyddiadau ar Instagram.
Ddeng mlynedd ers refferendwm Brexit, mae’n teimlo’n amserol arddangos gwaith Michal yma yn Storiel. Mae’r arddangosfa wedi bod yn bosibl drwy CELF – menter genedlaethol i sicrhau fod casgliadau cenedlaethol i’w gweld ledled Cymru.
Mae Michal Iwanowski: Go Home Polish yn Storiel o 28 Mawrth - 27 Mehefin 2026. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Storiel.