DYSGU

Sian Lile Pastore
11 Chwefror 2023

Siarad â Phlant am Gelf

Sian Lile Pastore

11 Chwefror 2023 | Minute read

Ydych chi erioed wedi bod eisiau trafod celf gyda phlant, ond byth yn siŵr ble i ddechrau?

Dyma gwpl o awgrymiadau i'ch rhoi ar ben ffordd.

Strategaethau Meddwl Gweledol

Y dechneg gyntaf y gallech ei defnyddio yw Strategaethau Meddwl Gweledol, a ddatblygwyd gan Philip Yenawine o'r Amgueddfa Celf Fodern yn Efrog Newydd.

Mae'n dechneg syml sy'n gwahodd unrhyw un i edrych yn fanwl ar waith celf cyn eu hannog i ofyn cwestiynau, ond yn hytrach nag ateb y cwestiwn rydyn ni fel arfer yn ei daflu yn ôl atyn nhw.

Efallai byddwn ni'n ymateb gyda:       
O, cwestiwn da – beth ydych chi'n meddwl y gallen nhw fod yn ei wneud? Mae hyn yn ysgogi sgwrs ac yn annog plant i benderfynu drostyn nhw eu hunain ar ddarn o gelf yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar y wybodaeth swyddogol yn yr oriel neu ar-lein.

Ffaith / Barn

Ffordd arall o edrych ar ddarn o waith celf a siarad amdano yw cyflwyno datganiadau i'r grŵp a gofyn ai ffaith neu farn ydyn nhw. Mae hyn yn gweithio'n dda os yw disgyblion yn fwy cyfforddus yn siarad mewn parau neu fel grŵp.

Mae'r disgyblion yn cymryd eiliad i edrych ar y gwaith celf a thrafod y datganiad a roddwyd iddynt ac yna’n darllen eu datganiad – maen nhw'n penderfynu gyda'i gilydd os mai ffaith neu farn yw'r datganiad a pham. Rydyn ni’n gofyn i weddill y grŵp os ydyn nhw'n cytuno, ac oddi yno gallwn ni archwilio ychydig mwy ynghylch y gwaith celf yn sgil eu sylwadau.

Yn aml, rydyn ni'n gweld, drwy siarad â phlant am gelf fel hyn, maen nhw'n aml, yn naturiol, yn darganfod llawer o wybodaeth am y gwaith celf a does dim angen i ni roi unrhyw wybodaeth iddyn nhw. Weithiau, efallai y byddwn ni'n dweud enw'r artist a theitl y gwaith celf wrthyn nhw ac os yw'n berthnasol, rywfaint o wybodaeth am yr artist, ond mewn gwirionedd mae'n ymwneud â phlant yn darganfod drostyn nhw eu hunain.


Share


More like this