DYSGU

Amgueddfa Cymru
12 Ebrill 2023

The Chester Play of the Deluge - David Jones o fraslun i brint

Amgueddfa Cymru

12 Ebrill 2023 | Minute read

Pam mae artist yn defnyddio llyfr braslunio? Gallai fod am nifer o resymau, ar gyfer astudiaethau manwl, lluniadau cyflym neu wneud nodiadau - mae wir yn offeryn ar gyfer archwilio ac mae'n gaffaeliad amhrisiadwy i unrhyw artist.   
Yma fe welwn ni lyfr braslunio yr artist o Gymru, David Jones, lle gallwch weld ei astudiaethau manwl o anifeiliaid a oedd yn ei dro yn llywio'r cerfiad bloc pren ar gyfer ei brintiau gorffenedig. Drwy astudio ei lyfr braslunio, gallwn nodi pryd a ble'r oedd yn gweithio a chael gwell dealltwriaeth o'r hyn a ddylanwadodd ar y darn olaf, The Chester Play of the Deluge.


Share


More like this