Dysgu

Gareth Griffith: Ystafell yr Artist

Neil Lebeter

21 Chwefror 2024 | munud i ddarllen

"Gallwn i sefyll ac edrych ar un gornel o hwn..."

Amgueddfa Cymru
JOHN, Gwen
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

Rydw i a Gareth yn orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn sefyll o flaen paentiad Gwen John pan mae e’n datgan hyn. Mae gan bractis Gareth iaith weledol ei hun, un sy’n hynod ac yn gwbl unigryw. Mae presenoldeb ei waith yn ddigyfaddawd – mae’n gwbl bendant – ond mae hefyd yn anffurfiol, yn ddi-lol ac yn groesawgar. Mae ei waith yn dathlu lliw, defnyddiau a chreu er mwyn creu, ac ar yr un pryd mae’n hynod bersonol; yn dwyn i gof ddigwyddiadau ac yn ymgorffori gwrthrychau go iawn o'i fywyd. Mae rhai o'r penodau yma, fel y cyfeiriadau cyson at ei amser yn byw ac yn gweithio yn Jamaica ar ddechrau'r saithdegau, yn syfrdanol. Yn fwy na dim, mae ei bractis yn llawn rhyddid a chreadigrwydd di-ben-draw na all y rhan fwyaf o artistiaid ond breuddwydio amdanyn nhw.

Ond mae yna hefyd graffter yn sail i'r cyfan – nid nostalgia a mympwy yw hyn. Mae haenau o gyfeiriadau a gwybodaeth hanesyddol, cymdeithasol a gwleidyddol ffyrnig yn sail i'r gwaith; a dyna pam wnaeth sylw Gareth am baentiad Gwen John aros yn y cof. Byddai e’n gallu sefyll ac edrych ar un gornel o gampwaith gan Gwen John a dweud rhywbeth nad oeddech chi’n ei wybod o’r blaen, a dyna pam mae’n bleser treulio amser gydag e. Mae'n artist sy'n cynhyrchu rhai o weithiau gorau ei yrfa, gyda dros 80 mlynedd o wybodaeth a phrofiad y tu ôl iddo.

Amgueddfa Cymru
Bertorelli, 2019
GRIFFITH, Gareth
© Gareth Griffith/Amgueddfa Cymru

Bertorelli: Gwaith allweddol

Tra roedden ni yn yr Amgueddfa, dyma ni hefyd yn edrych ar ei waith, Bertorelli (2019), a gasglwyd gan Amgueddfa Cymru yn 2020. Roedd yn rhan o’i arddangosfa unigol ddiweddar Trelar, aeth ar daith i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Tŷ Pawb, Oriel Myrddin ac Oriel Davies. Mae Bertorelli yn un o’i weithiau diweddar allweddol; y gwrthrychau canfod wedi'u hail-greu, eu hailbwrpasu a'u paentio i mewn i'r gwaith fel rhyw fath o fywyd llonydd sy’n torri’r bedwaredd wal. Mae hen bortread o ryw frenin Eidalaidd neu'i gilydd yn cael ei ail-lunio ac yna'n cael ei ail-greu yn ôl i'r paentiad canolog. Mae'r gwaith yn bersonol, ac yn cyfeirio at y Bertorellis; teulu Eidalaidd oedd yn berchen ar siop hufen iâ yng Nghaernarfon y byddai Gareth yn ymweld â i yn blentyn. Gwaith ei fab, Ioan, yw’r pen clai i’r chwith a greodd pan oedd yn yr ysgol, wedi’i baentio yn ôl i waith ei dad dros 30 mlynedd yn ddiweddarach. Mae llinynnau naratif yn plethu drwy’r gwaith, y cyfan wedi’i gysylltu drwy brofiad bywyd yr artist.

Mae yna hiwmor hefyd. Ble mae'r bedwaredd faneg ar ochr dde y paentiad? Mae ganddon ni ddwy faneg go iawn, ac un wedi'i phaentio – darlun perffaith o'r faneg go iawn gyntaf. Mae ein llygaid yn disgwyl gweld yr ail faneg wedi'i phaentio hefyd – felly ble mae hi? A yw hi wedi disgyn o’r gwaith rywsut? Edrychwch yn agosach ac fe welwch amlinell ohoni yno, lle gwag fel marciwr ar gyfer morthwyl sydd ar goll o silff offer.

Arddangos ledled Cymru

Nid chwim yw'r syniad na'r defnydd o ofod gwag chwaith. Mae Gareth yn pwyntio at y gyfres o weithiau pebyll o tua 2011 fel trobwynt yn ei waith diweddar. Mae gwagle’r babell, yr angen am ei noddfa a’r seibiant dros dro mae hi’n ei gynnig yn ddelwedd sy’n croniclo argyfwng mudo torfol ein hoes. Roedd sioe Lloches/Pabell yn Galeri Caernarfon ac Oriel Mostyn (2011/12) yn cynnwys nifer o weithiau, pob un yn ystyried strwythur y babell, ei swyddogaeth, a'i chysylltiad â lloches. Gwahoddwyd dros 30 o artistiaid a myfyrwyr i gyfrannu at yr arddangosfa drwy greu adeileddau pebyll 8” x 6” x 6” – gan greu Cae o Loches, gyda defnyddioldeb a chyfyngiad y briff artistig yn adlewyrchu'r strwythurau eu hunain.

Roedd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar gyfres o baentiadau o bebyll glas gan Gareth; a rheini’n seiliedig ar ffotograff o babell yr oedd y teulu Griffith yn ei defnyddio ar deithiau gwersylla yn ystod eu cyfnod yn byw yn Jamaica. Yn ystod un daith, ymosodwyd arnynt, a bu bron iawn i Gareth golli ei ben gyda machete – digwyddiad gwirioneddol ysgytwol a thrawmatig. Dechreuodd y gweithiau yma broses barhaus o “wynebu ysbrydion fy ngorffennol” yng ngeiriau Gareth. Mae wedi dychwelyd i'r profiad yma mewn nifer o weithiau a chyfresi dros y degawd diwethaf.

Rhannu profiad

Er bod y cyfeiriadau yma, a llawer o rai eraill, yn treiddio drwy lawer o waith Gareth, does na ddim ffordd benodol o ddehongli ei waith, ac nid yw Gareth yn mynd ati gyda dehongliad bwriadol chwaith. Yn aml bydd yn darganfod y gwaith bron fel y byddwn ni’n ei ddarganfod – rydyn ni i gyd yn rhan o hyn.

Cymerwch y gyfres ddiweddaraf o baentiadau crys fel enghraifft. Derbyniodd Gareth grys gwaith yn anrheg gan ei fab hynaf. Cafodd y crys ei olchi ar ddamwain gyda blanced ei gi – gan wasgaru blew dros y crys. Bu'r crys yn hongian yn ei stiwdio am gyfnod wedyn yn aros i gael tynnu’r blew oddi arno; ond daeth yn bresenoldeb yn y stiwdio – crys blew Gareth. Yn raddol, dechreuodd y crys gael ei ddarlunio a’i baentio wrth iddo ymwthio i ymwybod yr artist, gan dyfu’n y pen draw yn gyfres newydd o weithiau. Crys Blew Triptych oedd cyd-enillydd Biennale Paentio BEEP 2022. Mae'r hoelion sy'n ymddangos yn y triptych eto'n ychwanegiad greddfol, yn ategu’r presenoldeb rhyfedd yn y paentiadau hyn sy'n anodd ei ddiffinio. Mae gan y crys blew ei arwyddocâd ei hun, a gallai'r hoelion ddod â'u naws grefyddol eu hunain, ond dyma hefyd iwnifform yr artist, crys gwaith syml a gafodd ei olchi â blanced y ci drwy gamgymeriad.

Pwysigrwydd y stiwdio

Yr hyn rydw i’n ei gael o’r gyfres yw pwysigrwydd y stiwdio. Ar ôl ymddeol o ddysgu, adeiladodd Gareth stiwdio newydd y tu ôl i'w dŷ ym Mynydd Llandygai. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad ei fod wedi treulio’r degawd diwethaf ers hynny yn cynhyrchu rhai o weithiau gorau ei yrfa. Mae creu’r gofod hwnnw, y berthynas barhaus rhwng yr artist a’i amgylchfyd, yr archwiliad parhaus o broses, o ofod mewnol ac allanol, yn ganolog i bopeth ym mhractis Gareth.

Yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae’n dyfynnu’r dywediad gan Picasso mae’n dychwelyd ato’n aml; “Nid ceisio fydda i, ond canfod.”


Cafodd y testun hwn ei ysgrifennu'n wreiddiol ar gyfer yr arddangosfa Gareth Griffith: Ystafell Artist yn Storiel, Bangor.


Ysgrifennwyd pan oedd Neil Lebeter yn Uwch Guradur Celf Fodern a Chyfoes yn Amgueddfa Cymru rhwng 2018 a 2022. Mae gan Neil ddiddordeb yn y blociau adeiladu cymdeithasol a diwylliannol sy’n dylanwadu ar amgueddfeydd a diwylliant gweledol yn ehangach, a sut y gall celf gyfoes daflu golwg feirniadol ar y strwythurau hynny. Neil oedd curadur Rheolau Celf?, arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a sefydlodd y grŵp Codi’r Llen ar Gaffael gyda Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.

Amrywiaeth o weithiau celf o flaen wal wen. Mae'r gweithiau'n amrywio o baentiadau i gerflunwaith sy'n dangos ffigyrau a siapiau.

Arddangosfa Gareth Griffith: Ystafell Artist, Storiel © Gareth Griffith / Storiel

Amrywiaeth o baentiadau lliwgar ar wal wen.

Arddangosfa Gareth Griffith: Ystafell Artist, Storiel © Gareth Griffith / Storiel

Amrywiaeth o baentiadau ar wal wen tua'r chwith, ac mae crys brown yn hongian o'r nenfwd tua'r canol. Ar y dde mae whilber.

Arddangosfa Gareth Griffith: Ystafell Artist, Storiel © Gareth Griffith / Storiel

Share

More like this

Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter
Menywod yng Nghelf Gyfoes
Amgueddfa Cymru - Museum Wales
Cymru a Chymreictod
Amgueddfa Cymru