DYSGU

Ella Louise Jones
10 Mehefin 2024

Collage Fabrig Scrap

Ella Louise Jones

10 Mehefin 2024 | Minute read

Mae'r artist Ella Louise Jones yn cael ei hysbrydoli gan dirwedd Cymru ac mae hi’n profi hyn trwy ddefnyddio gweadau a deunydd cyffyrddol. Yma mae hi’n eich gwahodd i greu eich gwaith eich hun allan o ddeunyddiau y gellir eu canfod o amgylch y tŷ. Dilynwch y canllaw isod a mwynhewch fod yn greadigol.

 

1. Dewiswch Eich Ffabrig Sgrap: Edrychwch drwy eich hen ddillad na allwch eu hailgylchu oherwydd staeniau paent neu dyllau. Yn lle eu taflu, ail-bwrpaswch nhw ar gyfer eich celf. Torrwch y ffabrigau hyn yn ddarnau defnyddiadwy ar gyfer eich collage.

2. Dewiswch eich hoff ffabrigau, gan ystyried eu lliwiau, patrymau a gweadau. Meddyliwch am eich syniad collage a sut y gall y ffabrigau hyn ddod ag ef yn fyw. Cyn torri, cynlluniwch sut y byddwch chi'n defnyddio pob darn ffabrig i ddangos eich cysyniad.

3. Techneg Torri: Defnyddiwch bâr da o siswrn i dorri allan eich dyluniadau. Ar gyfer toriadau cymhleth, brasluniwch eich dyluniad ar y ffabrig gyda beiro leinin cyn ei dorri. Mae hyn yn helpu i gynnal cywirdeb.

4. Torri Cymesur: Ar gyfer dyluniadau cymesur (rhyn peth ochr i ochr), plygwch eich ffabrig yn ei hanner a brasluniwch eich dyluniad ar un ochr yn unig. Yna, torrwch ar hyd y llinellau wedi'u tynnu. Pan fyddwch chi'n agor y ffabrig, dylai'r ddwy ochr adlewyrchu ei gilydd.

5. Unwaith y byddwch wedi torri eich holl ddarnau ffabrig, arbrofwch gyda chynlluniau gwahanol ar eich papur. Chwarae o gwmpas gyda dyluniadau nes eich bod yn hapus. Pan fyddwch wedi dod o hyd i'r trefniant perffaith, gludwch y ffabrig ar y papur gan ddefnyddio glud Pritt, glud PVA, neu wn glud - pa un bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi.

6.Byddwn ni'n dwlu gweld eich lluniau - rhannwch nhw gyda ni drwy ebostio sean.kenny@amgueddfacymru.ac.uk

Tirwedd

Mwgwd Bwystfil


Share


More like this