John Selway (1938-2017)
Gyda hanes a llenyddiaeth yn ysbrydoliaeth iddo, mae gwaith John Selway yn cyfuno realiti, cof a ffantasi, yn aml gyda chanlyniadau heriol.
Wedi'i eni yn Askern, Swydd Efrog ym 1938, dychwelodd ei deulu i Abertyleri ym 1941, lle byddai'n treulio'r rhan fwyaf o'i oes. Yn ei arddegau, mynychai Goleg Celf Casnewydd, gan ddwyn i gof y teithiau bws troellog dyddiol drwy dirwedd ddiwydiannol Cymoedd y De.
Ym 1959, dechreuodd ar dair blynedd o astudio yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. O dan arweinyddiaeth Mark Rothko a thrwy astudio ochr yn ochr â phobl fel David Hockney, Peter Blake ac R.B. Kitaj, cafodd Selway ei drochi yn y datblygiadau newydd cyffrous ym maes celf Orllewinol ar ôl y Rhyfel.
Dewisodd Selway ddychwelyd i Abertyleri ar ôl ei astudiaethau er gwaethaf edmygedd ei gyfoedion a gyrfa addawol yn Llundain. Er i’w gyd-artistiaid wneud y mwyaf o farchnad gelf broffidiol y ddinas neu ymfudo i’r Unol Daleithiau i chwilio am glod byd-eang, dewisodd Selway fyw bywyd tawel a di-nod yn y cymoedd.
Bu Selway yn dysgu yng Ngholeg Celf Casnewydd am dros chwarter canrif cyn ymddeol ym 1991. Roedd yn rhan o Grŵp 56 Cymru, sefydliad dan ofal artistiaid oedd â’r nod o hyrwyddo celf fodernaidd Cymru, gyda phobl fel Eric Malthouse, Heinz Koppel ac Ernest Zobole.
Parhaodd i weithio nes ei farwolaeth yn 2017.
Cyd-destun Cymdeithasol
Cyflymodd y 1960au gyfnod o newid i gymunedau maes glo y de.
Bu trychineb yng nglofa leol Selway, sef Six Bells, ym 1960 lle bu farw 45 o ddynion ar y talcen glo. Roedd Selway, fel pawb oedd yn byw yn y maes glo, yn gyfarwydd iawn â pheryglon y gwaith. Ym 1966, amlygodd trychineb Aberfan, lle bu farw 114 o blant a 28 o oedolion, beryglon y dirwedd greithiog.
Ar yr un pryd, roedd dyddiau cynnar o uno a chau pyllau yn cadarnhau dechrau cyfnod o ddirywiad i'r diwydiant. Roedd y cymunedau glofaol bellach yn wynebu'r bygythiad o fyw ochr yn ochr â'r pyllau glo a byw hebddynt.
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Yn erbyn y cefndir hwn y creodd Selway ei gyfres ‘Rhyfel Mawr Glo Cymru’ ym 1969 a gomisiynwyd gan Gyngor y Celfyddydau. Mae'r dyluniadau rhagarweiniol hyn yn cyfleu ansicrwydd ac emosiwn cignoeth y cyfnod hwnnw.
Wedi'u hamlinellu â thâp oren, mae nodiadau am liwiau a phwnc wedi’u nodi o amgylch yr ymylon. Caiff gwahanol elfennau eu diogelu gyda glud neu dâp wrth i Selway weithio drwy ei ddyluniad, gan wneud y gorau o'r gofod. Er ei fod yn fwy adnabyddus am ei weithiau ffigyrol, fel artist ifanc yn y 1960au arbrofodd Selway gyda haniaethu. Yma, mae ei ddefnydd o haniaethu yn creu fersiwn freuddwydiol o realiti.
Mae cynnwys y gweithiau yn gyfuniad o ddelweddaeth ddirdynnol a golygfeydd o gymuned. Mae tomenni glo yn troi'n byramidau – cofeb wych i ddiwydiant a oedd unwaith yn ffynnu, neu feddrod sy'n coffáu'r bywydau a gollwyd? Islaw, mae ffigyrau poenus, wedi'u hynysu yn y gofod, yn ymddangos fel eu bod yn dychwelyd i'r ddaear.
Mewn dyluniadau eraill, mae gobaith yn parhau drwy freuddwyd plentyn neu gwpl yn gorweddian ar y bryniau. Mae matriarch Ysgol Sul yn sefyll wrth fwrdd â bwyd arno ac mae grwpiau o bobl yn ymdoddi i ffurfiau monolithig, na ellir eu symud. Ymhlith y dioddefaint, mae Selway yn cyfleu cryfder a grym cymuned yn dod at ei gilydd. Y cryfder hwn a fyddai i’w weld yn glir dros y degawdau cythryblus a ddilynodd.
Ewch i bori drwy'r gyfres gyfan, a gweld rhagor o weithiau celf gan John Selway.
Maddie Webb Curadur Gweithiau ar Bapur Amgueddfa Cymru. Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn goruchwylio’r broses ddigideiddio. Cyn hynny, bu’n Gynorthwyydd Curadurol, ac mae Maddie wastad wedi canolbwyntio ar wneud celf yn hygyrch i bawb.