Cais am Gynigion Comisiwn: Cyfle gwerth £10,000 i Artist Anabl yng Nghymru
Partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru mewn cydweithrediad â phrosiect CELF oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru. Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Iau 29 Awst 2025
Trosolwg
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cynnig comisiwn gwerth £10,000 i artist anabl, b/Byddar neu niwrowahanol i greu gwaith celf newydd a fydd:
- - Yn cael ei gynnwys yn arddangosfa deithiol genedlaethol fawr Celfyddydau Anabledd Cymru, Effaith / Impact,
- - Yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- - Efallai’n cael ei dderbyn i'w gynnwys yng Nghasgliad Cenedlaethol Cymru
Mae hwn yn gyfle arwyddocaol i gynhyrchu gwaith celfyddydau gweledol proffesiynol sy'n archwilio themâu cyfiawnder hinsawdd, tirwedd neu natur o safbwynt anabledd.
- - Cyfiawnder hinsawdd, tirwedd neu natur o safbwynt anabledd.
- - Y Corff a hunaniaeth.
Y Comisiwn
Bydd yr artist dan sylw yn creu celf weledol newydd a fydd yn:
- - Ymateb i'r thema Effaith - gan archwilio'r cydgysylltiad rhwng natur, hinsawdd a phrofiad pobl anabl
- - Addas i'w arddangos mewn orielau cyhoeddus ac o bosibl i'w dderbyn gan gasgliad yr amgueddfa genedlaethol
- - Gall fod yn greadigaeth gwbl newydd, neu'n ymateb i waith celf sy'n bodoli eisoes yn y Casgliad Cenedlaethol
Cefnogir y comisiwn hwn drwy CELF - menter oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru.
Beth rydym yn ei gynnig
Bydd yr artist llwyddiannus yn cael:
- - Ffi o £10,000 - sy’n cynnwys costau amser yr artist, deunyddiau, cynhyrchu a mynediad
- - Mentora a chefnogaeth guradurol gan Gelfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru
- - Arddangos y gwaith gorffenedig yn yr arddangosfa deithiol, Effaith
- - Arddangos y gwaith gorffenedig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- - Ystyriaeth ar gyfer derbyn i Gasgliad Cenedlaethol Cymru
- - Hyrwyddo a dogfennu'r comisiwn
Mwy o wybodaeth am Effaith: Arddangosfa Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru
Pwy all ymgeisio
Rydym yn croesawu cynigion gan:
- - Artistiaid sy'n ystyried eu hunain yn anabl, yn f/Fyddar a/neu'n niwrowahanol
- - Artistiaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru
- - Artistiaid sy'n gweithio ar unrhyw ffurf ar gelfyddyd weledol, gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig: Paentio; Delweddau symudol; Cyfryngau digidol; Cerflunwaith; Gosodwaith; Ffotograffiaeth; Sain; Arferion rhygnddisgyblaethol.
Rydym yn annog ceisiadau'n arbennig gan artistiaid o gefndiroedd sy’n cael eu diffinio ar sail hil, cymunedau LHDTCRhA+, ac eraill sy'n wynebu rhwystrau rhag mynediad a gwelededd yn y celfyddydau.
Rhaid i chi fod yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru i wneud cais. Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i bob person sy’n ystyried ei hun yn anabl yng Nghymru. Ymunwch â Chelfyddydau Anabledd Cymru.
Sut mae gwneud cais
Cyflwynwch y canlynol:
- - Cynnig (dim mwy na 300 gair) yn amlinellu: Eich syniad ar gyfer y comisiwn; Sut mae'n ymateb i'r thema; Pa ddeunyddiau neu gyfryngau rydych chi'n bwriadu eu defnyddio.
- - Hyd at 5 delwedd neu ffeil cyfryngau yn dangos enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol
- - Bywgraffiad byr ohonoch fel artist (dim mwy na 200 gair)
- - Eich manylion cyswllt ac unrhyw ddolenni perthnasol (gwefan neu gyfryngau cymdeithasol)
- - Eich dogfen gofynion mynediad, neu nodyn byr am y ffordd orau o'ch cefnogi chi
Cyflwynwch eich cais i: https://dacymru.fillout.com/2025exhibition
Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Iau 29 Awst 2025
Gallwch wneud cais ar ffurf ysgrifenedig, sain neu fideo. Os oes angen i chi wneud cais mewn ffordd arall, cysylltwch drwy anfon e-bost at post@disabilityarts.cymru
Y Broses Ddethol
Bydd y ceisiadau'n cael eu hadolygu gan banel o gynrychiolwyr Celfyddydau Anabledd Cymru ac Amgueddfa Cymru.
Byddwn yn asesu cynigion ar sail:
- - Gwreiddioldeb a pherthnasedd y syniad
- - Ansawdd artistig ac eglurder o ran y weledigaeth
- - Dichonoldeb o fewn y gyllideb benodedig
- - Potensial y cyfle i gefnogi eich datblygiad artistig a'ch gyrfa
Amserlen
- - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau, 29 Awst 2025
- - Dewis artist: Canol mis Medi 2025
Cwestiynau?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch chi gyda’ch cais, anfonwch e-bost at post@disabilityarts.cymru Edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau.