Dysgu

Cyfansoddi cân yn seiliedig ar baentiad!

Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Ymgysylltu a Benthyciadau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

| munud i ddarllen

Yn ystod tymor y Gwanwyn 2025, treuliodd disgyblion Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth y diwrnod gyda'r cerddorion Liam a Sion Richard yn cyfansoddi cân am y paentiad Ovis Alarmed gan Tony Steel Morgan.

Cafodd y paentiad ei gludo o Lyfrgell Genedlaethol Cymru i'r ystafell ddosbarth wrth i'r Llyfrgell gymryd rhan yn y rhaglen Campweithiau mewn Ysgolion. . Gallwch wrando ar eu cân derfynol isod.

Mae’r adnodd canlynol yn gweithio fel cynllun gwers ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5/6+, ond gellir ei ddefnyddio a’i addasu gan unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc neu’n chwilio am her gerddorol newydd!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morgan, Tony Steele
© Morgan, Tony Steele/The National Library of Wales

Gellir ymateb i Ovis Alarmed, neu unrhyw waith celf arall o'ch dewis. Beth am bori gwefan CELF am ysbrydoliaeth?

Gwers 1: Edrych yn Fanwl ac Ymateb

Cynhesu: Creu tirlun sain (10 munud)                         
Tirlun sain yw pan fyddwn yn creu synau sefyllfa benodol – go iawn neu ddychmygol. Gellir gwneud hyn yn reddfol fel ymarfer cynhesu/torri’r iâ gyda thrafodaeth fach neu ddim trafodaeth o gwbl am y paentiad.

- Dangoswch y paentiad i’r dosbarth            
- Wrth edrych ar y paentiad, pa synau fyddech chi’n eu cysylltu â’r ddelwedd? Gall y rhain ddod o anifeiliaid, pobl, tywydd, amgylchedd (trefol neu wledig), neu o siapiau a lliwiau os yw’n fwy haniaethol            
- Cynigiwch tro i bawb – mae pon unigolyn yn gwneud eu sain eu hunain wedi’i ysbrydoli gan y paentiad, gyda’r gweddill yn ailadrodd pob sain

Cam 1: Edrych yn Fanwl (15 munud)

Awgrym: Rydym yn tueddu i edrych ar ddelweddau yn gyflym iawn. Os edrychwch yn hirach, byddwch yn sylwi ar fwy o fanylion ac yn cael mwy o syniadau eich hun am y ddelwedd a sut rydych chi’n perthyn iddi’n bersonol. Efallai y bydd gennych fwy o gwestiynau nag atebion, ond mae hyn i gyd yn ddefnyddiol ar gyfer eich ymateb!

Ovis Alarmed gan Tony Steele Morgan yn yr ystafell ddosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen 

Ovis Alarmed gan Tony Steele Morgan yn yr ystafell ddosbarth yn Ysgol Bro Hyddgen 

- Gofynnwch i’r disgyblion edrych yn ofalus ar y paentiad mewn distawrwydd am 1 funud (neu hyd at 10 munud yn dibynnu ar oedran y grŵp ac os ydynt wedi arfer ag edrych araf)            
- Myfyrio ar ddiwedd y funud: Sut oedd hynny’n teimlo?            
- Cuddio’r ddelwedd. Mewn parau, gofynnwch i'r disgyblion droi at eu partner a chymryd tro i ddweud beth welsant yn y ddelwedd. Ysgrifennwch restr wrth fynd (3 munud)           
- Gofynnwch i’r disgyblion rannu beth welsant a dechrau Brif Rhestr ar y bwrdd           
- Edrychwch ar y paentiad mewn distawrwydd am 1 funud unwaith yn rhagor           
- Gweld beth a gollwyd, ychwanegu at y rhestr           
- Oes unrhyw synau ychwanegol y byddech chi’n eu hychwanegu ar ôl edrych yn fanylach ar y paentiad?

Cam 2: Ymateb (20 munud)

Gellir defnyddio’r cwestiynau isod i greu mwy o syniadau am y paentiad. Rhowch amser i’r disgyblion feddwl am y cwestiwn, yna rhannu gyda’u phartner, cyn rhannu syniadau gyda’r dosbarth i’w hychwanegu at y Brif Rhestr:

Plant yn edrych yn ofalus ar y paentiad Ovis Alarmed gan Tony Steele Morgan

Sut gafodd y paentiad ei greu?           
A yw’n ddarlun realistig o’r pwnc? A yw’n haniaethol?           
Beth fyddech chi’n gofyn i’r artist a greodd y paentiad?           
Beth yw’r teitl? Pam ydych chi’n meddwl bod yr artist wedi dewis y teitl hwn?           
Beth ydych chi’n meddwl yw ystyr y paentiad? A yw bosib bod ganddo ystyr arall?           
Cwblhewch y frawddeg hon: Mae’n ymwneud â… ac yn trafod…           
Oes gennych chi deimlad cyffredinol wrth edrych ar y paentiad? A yw rhannau gwahanol yn gwneud i chi deimlo pethau gwahanol?           
Awgrym: Mae meddwl am sut mae rhannau gwahanol o baentiad yn gwneud i chi deimlo yn ddefnyddiol ar gyfer creu eich cân. Ydych chi eisiau i hwyl y gân gyd-fynd â’r paentiad, neu fod yn wahanol iawn?

Gwers 2: Ysgrifennu'r Gân

Cam 3: Geiriau ac Odli (30 munud)

Ystafell ddosbarth gyda dau oedolyn yn edrych ar fwrdd gwyn, mae gan rhai plant eu breichiau yn yr awyr.

Dechreuwch chwarae gyda’r Brif Rhestr o eiriau, cwestiynau a theimladau i greu geiriau cân          
Gall y rhain fod yn gwestiynau, barn, cysylltiadau – does dim syniad gwael ar y cam hwn!          
- Dangoswch sut i gyfrif a chyfateb gyda sillafau, ac odli dwy linell gyda’i gilydd          
Awgrym: Mae gair olaf pob llinell mewn cân fel arfer yn odli ac mae pob llinell o’r pâr odli fel arfer â’r un nifer o sillafau. Efallai y bydd angen cyfnewid geiriau neu newid trefn brawddegau i sicrhau taw dyma'r drefn. Mae hyn i gyd yn rhan o’r broses greadigol.                        
Ysgrifennwch 2–4 pâr odli o linellau geiriau fel dosbarth         
Rhowch 10 munud i’r disgyblion ysgrifennu 2–4 pâr odli pellach, yn unigol neu mewn pâr         
Awgrym: Does dim syniad gwael ar y cam hwn. Hyd yn oed os nad yw syniad yn gweithio, efallai y bydd yn ddefnyddiol yn nes ymlaen neu’n arwain at syniad arall sy’n gweithio!Awgrym: Does dim syniad gwael ar y cam hwn. Hyd yn oed os nad yw syniad yn gweithio, efallai y bydd yn ddefnyddiol yn nes ymlaen neu’n arwain at syniad arall!

Cam 4: Cytgan, Penillion a Melodi (30 munud)

Mae’n amser rhoi’r geiriau sy'n odli at ei gilydd fel penillion a phenderfynu ar gytgan.

Dau oedolyn yn sefyll o flaen dosbarth o ddisgyblion.

Cytgan: Adran gofiadwy o’r gân sy’n cael ei hailadrodd sawl gwaith gyda’r un geiriau.         
Penillion: Yn dod cyn y cytgan; mae gan bob pennill newydd eiriau gwahanol.         
Melodi: Alaw y gân.

Yn yr ystafell ddosbarth, bydd angen i’r cam hwn gael ei arwain gan yr athro, yn ddelfrydol gydag offeryn fel gitâr neu biano er mwyn dechrau rhoi geiriau i alaw.

Efallai bydd angen ychwanegu neu dynnu geiriau i wneud i elfennau’r gân swnio’n gywir.

Rhannwch syniadau fel dosbarth, gan ysgrifennu’r geiriau ar y bwrdd gwyn. Beth sy’n sefyll allan? A allai hyn fod yn gytgan? Pa eiriau sy’n ymddangos fel eu bod yn perthyn i'w gilydd fel penillion?

Awgrym: Efallai bydd rhai pobl yn cymryd yr awenau’n naturiol wrth lunio’r geiriau a’r syniadau yn y gân, ond mae syniadau pawb yn werthfawr.

Addasiad:

Ar gyfer fersiwn symlach o’r gweithgaredd hwn, canolbwyntiwch ar greu hwyliau gyda dilyniant cordiau i gyd-fynd â’r geiriau.

C – G – A leiaf – F (bywiog/hapus) a C leiaf – Bb – G Leiaf – F (tywyll/trist)

Gall y disgyblion wedyn ganolbwyntio mwy ar odlau ac ar rythmau, a siarad neu “rapio” dros y cordiau.

Cam 6: Ymarfer, perfformio a recordio

Unwaith fyddwch chi’n hapus gyda’r penillion, y cytgan a’r alaw (neu eich cyfuniad o eiriau/cordiau os yn gwneud y fersiwn addasedig), bydd angen i rywun greu fersiwn derfynol o’r geiriau yn llawn ac yna gall y dosbarth ymarfer.

Cofiwch: mae angen teitl ar eich cân!

Efallai hoffech chi ychwanegu synau o dirlun sain y paentiad a wnaethoch fel ymarfer cynhesu (fel y gwnaeth disgyblion Ysgol Bro Hyddgen!).

Yn olaf, trefnwch amser i berfformio neu recordio eich cân.

Awgrym: Mae’n bwysig rhannu darn creadigol o waith gyda chynulleidfa pan fydd wedi’i gwblhau fel bod pobl eraill yn gallu ymateb i’r gwaith rydych chi wedi’i greu!

Gweithgareddau Pellach – Cerddoriaeth yn ôl i gelf:

Synau haniaethol: Allwch chi dynnu llun o sŵn eich cân gan ddefnyddio siapiau a llinellau? Pa liwiau fyddech chi’n eu defnyddio ar gyfer y cytgan? Beth am y penillion? Pam?

Arddangosfa fach: Mae pawb yn y dosbarth yn gwneud llun wedi’i ysbrydoli gan eu hoff eiriau yn y gân newydd. Arddangoswch yr holl luniau gyda’i gilydd nesaf at y paentiad gwreiddiol. A yw’r cysylltiad â’r gwreiddiol yn amlwg? A yw’r lluniau newydd yn perthyn i’w gilydd (yr un syniadau neu liwiau, er enghraifft)?

Efallai hoffech chi ystyried rhai enghreifftiau o artistiaid a gafodd eu hysbrydoli gan gerddoriaeth:

Roedd cariad Jean-Michel Basquiat at gerddoriaeth jazz yn ysbrydoliaeth fawr yn ei waith celf       
Roedd Wassily Kandinsky yn edmygu cerddoriaeth am y ffordd y gallai fynegi byd mewnol (meddyliau, teimladau, canfyddiadau) artist, ac fe wnaeth lawer o weithiau celf yn ymateb i ddarnau cerddorol       
Gwnaeth Georgia O’Keeffe gyfres o baentiadau yn ceisio cofnodi profiad gweledol o synau       
Roedd Ceri Richards yn ymddiddori yn y cysylltiad rhwng celf a cherddoriaeth. Cerddorion ac offerynnau yw testun llawer o’i weithiau celf y gallwch eu gweld ar wefan CELF

Chwilio am ragor o ysbrydoliaeth?

Gallwch wrando ar ragor o gerddoriaeth wedi'i hysbrydoli gan y casgliad celf cenedlaethol gan Lo-Fi Jones, Internet Fatigue, Sweet Baboo, Francesa Dimech and Madame Ceski on the CELF website.

Ystod oedran

Mae'r adnodd hwn wedi'i anelu at ddisgyblion oed cynradd, ond fe ellir ei addasu i ddisgyblion hŷn      
 

Maes y Cwricwlwm

Celfyddydau Mynegiannol (cerddoriaeth a chelf weledol); Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu                        
 

Celfyddydau Mynegiannol

(Cerddoriaeth a Chelf Weledol)

Datganiad o’r hyn sy’n bwysig: Gallaf ddisgrifio gwaith celf ac ystyried sut mae’n cyfleu hwyliau, teimladau a syniadau; Gallaf nodi cwestiynau a themâu ehangach sy’n codi wrth edrych ar waith celf; Gallaf dynnu ar fy synhwyrau, ffynhonnell fel ysbrydoliaeth a’m dychymyg i ymateb yn greadigol i waith celf; Gallaf ddeall prif elfennau penillion, cytgan a melodïau mewn cân

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Datganiad o'r hyn sy'n bwysig: Gallaf ddefnyddio iaith yn effeithiol i ddisgrifio delwedd a’m syniadau yn ei chylch hi; Dwi'n deall bod cân yn ffurf arbennig o ysgrifennu sy’n cynnwys odlau; Gallaf odli dwy linell o eiriau cân gyda’i gilydd; Gallaf ddefnyddio iaith yn greadigol mewn cyd-destun amlieithog; Gallaf ddefnyddio iaith i fynegi barn am syniadau pobl eraill

Canlyniadau

  • 1. Gallu edrych yn fanwl ar ddarn o gelf, ei ddisgrifio a nodi themâu ehangach
  • 2. Defnyddio cwestiynau, syniadau a theimladau am waith celf fel sail I greu geiriau ar gyfer cân
  • 3. Rhannu syniadau a gwrando ar eraill; cydnabod gwerth fy syniadau i ac eraill yn y broses greadigol o ysgrifennu cân
  • 4. Nodi geiriau sy’n odli ac odli geiriau cân gyda’i gilydd
  • 5. Deall y termau cytgan, pennill ac alaw a chyfrannu at greu’r elfennau hyn mewn cân
  • 6. Perfformio cân gyda grŵp

Strwythur y Wers

Isafswm o 2 wers 45–60 munud, ynghyd â sesiynau ymarfer a pherfformio/recordio

Adnoddau Angenrheidiol

  • 1. Mynediad at ddarn o gelf neu ddelwedd o ansawdd uchel o waith celf (a chopïau printiedig, yn dibynnu ar faint y grŵp)
  • 2. Pen, pensil a phapur i’r disgyblion allu ysgrifennu syniadau
  • 3. Sgrîn neu fwrdd gwyn i ysgrifennu geiriau’r dosbarth
  • 4. Offeryn cerdd fel gitâr neu biano i’r athro
  • 5. Dyfais recordio (dewisol)

Share

More like this