Hawlfraint
Perchnogion Hawlfraint
Mae hawlfraint yr holl gynnwys sy'n ffurfio neu sydd wedi'i gynnwys yn y wefan CELF hon yn parhau i fod yn eiddo i Amgueddfa Cymru — Museum Wales, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a pherchnogion hawlfraint eraill fel y nodir.
Hawlfraint gweithiau celfMae CELF wedi ymrwymo i barchu hawliau eiddo deallusol unigolion eraill. Gwneir ymdrech drylwyr i gydnabod deiliaid hawlfraint cyfreithiol pob gwaith celf yn y casgliad. Er hyn, nid ydym wedi llwyddo i olrhain pob deiliad hawlfraint.
Er ein bod am arddel hawliau cydsyniad artistiaid a deiliaid hawlfraint, rydym am sicrhau y gall y cyhoedd weld gweithiau o'r Casgliad Celf Cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth hawlfraint am y gweithiau hyn, neu â hawl cyfreithiol i unrhyw waith, cysylltwch â ni.
Polisi Tynnu DeunyddiauMae CELF wedi ymrwymo i barchu hawliau eiddo deallusol unigolion eraill. Gwnaed pob ymdrech resymol i sicrhau y caiff deunydd ei atgynhyrchu ar CELF gyda chaniatâd llawn deiliaid yr hawlfraint. Mae'r manylion hawlfraint i'w gweld o dan y ddelwedd gyfatebol neu yn nhestun trosrolio'r ddelwedd.
Os ydych chi'n ddeiliad hawlfraint ac yn poeni eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd ar ein gwefan nad ydych wedi rhoi caniatâd iddo fod yno (neu nad yw wedi’i ganiatáu dan eithriad hawlfraint dan Ddeddf Hawlfraint, Dylunio a Phatentau y DU 1988) cysylltwch â ni drwy'r dudalen cysylltwch â ni gan nodi'r canlynol:
- • Eich manylion cyswllt
- • Manylion llawn cynhyrchydd y deunydd
- • Yr union gyfeiriad gwefan llawn (URL) lle gwnaethoch chi ganfod y deunydd
- • Prawf taw chi yw perchennog yr hawliau a datganiad eich bod, dan rybudd anudon, taw chi yw deiliad yr hawlfraint neu'n gynrychiolydd wedi eich awdurdodi i weithredu dros y deiliad.
Cyfeiriwch at y canllawiau a ddarparwyd gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ynghylch defnyddio delweddau. Dim ond ar ôl i ganiatâd gael ei glirio y gellir defnyddio delweddau o weithiau celf.
Pan gyflwynir ceisiadau am fenthyciadau, bydd y Swyddog Benthyciadau Cymunedol yn gwirio pa ganiatâd a roddir i ddefnyddio delweddau ac yn gweithio gyda'r Swyddog Hawlfraint a Thrwyddedu i sicrhau caniatâd i'w defnyddio.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Cynnwys ysgrifenedig CELFMae’r cynnwys ysgrifenedig ar celfarycyd.cymru yn perthyn i Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Oriel Davies, Oriel Mostyn, Oriel Myrddin, Plas Glyn-y Weddw, Canolfan Grefft Rhuthun a Storiel, fel y nodir drwy’r awdur.
Bydd yr holl hawlfraint ac eiddo deallusol arall (cofrestredig ac anghofrestredig) ar celfarycyd.cymru a celfarycyd.wales a'r holl gynnwys (gan gynnwys yr holl gymwysiadau) sydd wedi'i leoli ar y wefan yn parhau i fod yn eiddo i CELF neu ei drwyddedwyr (sy'n cynnwys defnyddwyr eraill).
Mae cynnwys ysgrifenedig ar CELF wedi'i greu'n benodol ar gyfer ein defnyddwyr ac ni ellir ei atgynhyrchu y tu hwnt i CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru, oni bai at ddibenion academaidd anfasnachol.
Nid yw'n dderbyniol atgynhyrchu'r cynnwys hwn mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ymlaen llaw gan CELF. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gopïo, ailgyhoeddi, dadosod, lawrlwytho, postio, darlledu, trawsyrru'r cynnwys ysgrifenedig. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni..
Cynnwys sydd wedi’i gyfrannu i CELFMae Hawlfraint cynnwys a gyfrannwyd i CELF yn parhau gyda'r Cyfrannwr.
Mae gan CELF yr hawl i gyhoeddi'r cynnwys hwn ar unrhyw adeg.
Gall y Cyfrannwr gyhoeddi'r cynnwys hwn mewn man arall fel y mae'r Cyfrannwr yn teimlo sy'n briodol, yn dilyn cyfnod o 6 mis ar ôl y cyhoeddiad cychwynnol gan CELF.
Os cyhoeddir cynnwys y Cyfranwyr mewn man arall, mae hawlfraint y gweithiau celf yn dal i fod yn berthnasol, a bydd angen caniatâd y deiliad(aid) hawlfraint cysylltiedig ar y Cyfrannwr.
Mae'r Cyfrannwr wedi cadarnhau bod y gwaith maen nhw'n ei gyfrannu yn wreiddiol ac nad yw'n torri cyfreithiau hawlfraint, nac unrhyw gyfreithiau eraill y DU.
Mae gan CELF yr hawl i olygu a diwygio unrhyw gynnwys ar wefan CELF.
Ni fydd CELF yn gwneud arian o waith Cyfranwyr at ddibenion masnachol, oni bai y cytunir fel arall gyda'r Cyfranwr(wyr).
Gall CELF ddefnyddio gwaith Cyfranwyr at ddibenion hyrwyddo a marchnata (h.y. nid at ddibenion gwneud arian).
Os oes rhagor o gwestiynau gennych ynghylch Hawlfraint, cysylltwch â ni.