Mynediad
Trwy Celf ar y Cyd, rydyn ni’n ymroi i ddarparu gwefan sydd yn hygyrch i bawb. Mae canllawiau mynediad wedi bod yn rhan o gynllun a datblygiad y wefan hon o’r cychwyn cyntaf. Rydyn ni hefyd wedi cynnal sawl sesiwn brofi gydag ystod eang o ddefnyddwyr.
Rydyn ni wedi gwneud sawl peth i geisio gwneud y wefan yn fwy hygyrch - os oes gennych chi gwestiwn neu sylwadau ynglyn â hygyrchedd y wefan hon, neu os ydych chi’n canfod bod unrhyw ran ohoni’n anodd i’w defnyddio, cysylltwch â ni. Rydyn ni’n awyddus i weithio’n barhaus ar wella’r profiad pori i’n holl ymwelwyr.
Ein hamcan yw bod y wefan hon yn cydymffurfio ag anghenion blaenoriaethol 1 a 2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.0 W3C (WCAG2.0), a elwir yn Gydymffurfiaeth Lefel AA.
Maint y testun
Gellir chwyddo neu leihau maint y testun trwy ddefnyddio’r opsiwn ‘view’ yn eich porwr.
Llywio
Mae’r wefan hon yn defnyddio strwythr llywio sy’n gyson, fel ei bod yn hawdd dod o hyd i beth yr ydych chi’n chwilio amdano.
Gellir defnyddio bysellfwrdd i lywio a phori rhannau helaeth o’r wefan. Ein bwriad yw i weithio tuag at wneud yr holl wefan yn hygyrch i bobl sy’n defnyddio bysellfwrdd i lywio a phori.
Mae’r wefan hon yn defnyddio CSS, fel bod cynllun a strwythr tudalennau yn gyson.
Dogfennau
Mae rhai o’r dogfennau ar y wefan hon mewn fformat PDF. I’w darllen, bydd angen Adobe Acrobat arnoch a ellir ei lawrlwytho.
Meddalwedd lleferydd
Mae’r wefan hon yn defnyddio côd safonol y wê, fel bod meddalwedd lleferydd yn gallu ei ddarllen yn hawdd.
Delweddau
Mae fersiynau testun amgen, neu dagiau ‘alt’, ar gael ar gyfer ein delweddau, fel bod y cynnwys hwnnw yn hygyrch i bobl nad sydd yn gallu gweld delweddau. Os y dewch chi o hyd i ddelwedd heb dagiau ‘alt’, rhowch wybod i ni.