CELF: yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru
Mae Celf ar y Cyd yn elfen ganolog o CELF. Mae'r fenter yn rhoi mynediad i'r casgliad cenedlaethol ym mhob cwr o Gymru, ar-lein ac yn y cnawd. Mae sefydlu oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru yn un o ymrwymiadau allweddol Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae'r ymrwymiad yn cael ei wireddu diolch i gydweithredu rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes yn Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y model CELF yn ehangu mynediad drwy rwydwaith o orielau ym mhob cwr o Gymru. Diolch i raglen fenthyg gynhwysfawr, bydd cyfle i bobl Cymru ddarganfod y casgliad yn lleol, yn ogystal â sicrhau mynediad digidol gwell i'r casgliad cenedlaethol i bobl ar draws Cymru, y DU a thu hwnt.
Y naw oriel sy'n aelodau o'r rhwydwaith yw:
- Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
- Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
- MOSTYN, Llandudno
- Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
- Oriel Davies, y Drenewydd
- Oriel Myrddin, Caerfyrddin
- Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
- Canolfan Grefftau Rhuthun
- STORIEL, Bangor