Projectau ac Arddangosfeydd

Ein Byd: Gweithgaredd Paentio

Glyn Price

1 Gorffennaf 2024 | munud i ddarllen

Cafodd Glyn Price ei ysbrydoli gan y thema Ein Byd ar Celf ar y Cyd, a fel rhan o’r gweithgaredd yma mae Glyn yn eich gwahodd i ddarganfod y byd o’ch cwmpas, gan gymryd sylw o beth yn yr ardal sy’n eich ysbrydoli. Darllenwch y camau i’ch helpu chi i greu eich darn o gelf eich hun wedi ei seilio ar eich ardal leol.

Ein Byd: Ymateb i'r tirlun a'r byd o'n cwmpas

Gweithgaredd 5 cam i’ch ysbrydoli i greu darn o gelf gwreiddiol o’ch byd chi.

Chwiliwch am ysbrydoliaeth gan ddarn o waith celf neu arddull sydd yn y casgliad. Wedyn atebwch drwy ddefnyddio’ch iaith ac arddull eich hunain i greu darn o gelf o’ch ardal a’ch cynefin.

Cam 1: Dysgu

Edrychwch ar ddarn o waith celf gan yr artistiaid gweledol o’r casgliad – oes yna artist neu arddull sydd yn tynnu eich sylw?

Cam 2: Bod yn actif

Crwydrwch yn yr awyr agored, yn eich ardal, eich cynefin, a’r byd o’ch cwmpas er mwyn hel syniadau ar gyfer creu eich darn o gelf gwreiddiol eich hunain.

Cam 3: Cymryd sylw

Ymatebwch i beth sydd yn eich diddori yn yr awyr agored. Gall hyn fod yn dirlun, adeiladau neu unrhyw beth yn y byd o’n cwmpas. Tynnwch lun gyda chamera, creu sgets sydyn neu gymrwch sylw drwy eistedd a chymryd eich amser.

Cam 4: Cysylltu

Meddyliwch am greu darn gorffenedig sydd yn adeiladu ar y gwaith ymchwil, y sgets neu’r ffotograff. Edrychwch yn ôl ar y dysgu o ‘cam 1’ er mwyn datblygu'ch arddull eich hunain drwy arbrofi.

Cam 5: Creu

Gwnewch ddarn o gelf gwreiddiol sydd yn bersonol i chi drwy ymateb i’ch cynefin. Cofiwch ddefnyddio eich arddull a’ch iaith eich hun i sicrhau eich bod yn mwynhau.

Esiampl o'r broses

1. Ymchwiliwch a dysgwch am ddarnau o gelf yn y casgliad cenedlaethol, er enghraifft, Castell Dolbadarn gan William George Jennings:

2. Byddwch yn actif a mynd allan i’r awyr agored – ‘eich byd chi’.

Mae dyn yn cymryd selfie yn yr awyr agored - gwisga cot law glas tywyll ac mae yna gymylau llwyd a chaeau gwyrddion y tu ôl iddo.

3. Cymerwch sylw drwy archwilio eich cynefin, drwy wneud sgets neu dynnu llun gyda chamera.

Ffotograff o Gastell Dolbadarn - mae'r gwair yn wyrdd, a chymylau gwynion ac awyr las llachar uwchben yr adfeilion.

4. Cysylltwch drwy archwilio arddulliau gwahanol a meddwl ymlaen am greu gwaith gorffenedig.

  • Mae artist yn gweithio ar baentiad dyfrlliw o Gastell Dolbadarn. Mae ffotograff o'u blaen i gyfeirio ato, ac mae yna set dyfrlliwiau i'r dde a phalet artist i'r chwith.
  • Mae artist yn gweithio ar baentiad dyfrlliw o Gastell Dolbadarn. Mae ffotograff o'u blaen i gyfeirio ato, ac mae yna set dyfrlliwiau a phalet artist hefyd i'w gweld..

5. Crëwch eich gwaith celf gwreiddiol eich hun o’ch byd chi.

Paentiad dyfrlliw hydrefol lliwgar o Gastell Dolbadarn - mae'r gwynt yn chwythu drwy'r coed a'r adfeilion.

PRICE, Glyn, Castell Dolbadarn © Glyn Price

Castell Dolbadarn – Glyn Price (2023), dyfrlliw 

Am yr artist

Amdanaf fi: Glyn Price

Swyddi: Arlunydd tirluniau, Tiwtor Celf, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid 16-25

Ble allwch chi weld fy ngweithiau celf: Instagram @glynprice; Facebook CELF GlynPrice ART; a fy ngwefan www.glynprice.com

Fy hoff artistiaid: William Turner, Van Gogh, Kevin Sinnott a'r Argraffiadwyr

Datganiad Artist:

"Mae’r broses o greu fy ngwaith celf yn cychwyn tra rwyf allan yn yr awyr agored, yn cerdded gyda fy ffrindiau a fy nheulu yn ardal Eryri. Mae gen i ddiddordeb mawr yn siâp y tirlun, y lliwiau a’r golau. Rwy'n ymateb i'r tirlun drwy ddefnyddio fy iaith fy hun. Yn fy stiwdio byddaf yn cael y cyfle i archwilio’r broses a creu darnau o gelf o’r galon, o lefydd sydd yn golygu rhywbeth i mi. Rwyf eisiau ysgwyd pobl i wneud y mwyaf o beth sydd gennym yma yn barod yng Nghymru, drwy ddefnyddio fy angerdd, egni a balchder drwy broses greadigol.

Dyma fy nhir i, mae gen i wreiddiau yma a dyma lle rwy'n byw ac un diwrnod byddaf yn gorffwys. Yn y cyfamser mae gen i waith i'w wneud. Rwyf yn y tir ac mae’r tir ynof i."

Ffotograff o balet paent olew - mae'r palet yn llawn paent trwchus o wahanol liwiau.
Dyn mewn crys siec coch a du yn eistedd ar stôl uchel. I'r dde iddo mae paentiad lliwgar o chwarel lechi.

Share

More like this

Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter