Projectau ac Arddangosfeydd

Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd

Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

18 Mehefin 2025 | munud i ddarllen

Pan ddechreuais i yn fy swydd fel Swyddog Benthyciadau ar gyfer CELF yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Mai y llynedd, un o’r pethau cyntaf i mi ei wneud oedd dal y bws T2 o Aberystwyth i Fangor (pedair awr, yn unionsyth) i drafod gydag Esther Roberts, Curadur Storiel.

Dewis gweithiau celf ar gyfer arddangosfa

Yn frwd yn fy rôl newydd – sy’n hwyluso benthyciadau o gasgliad celf gyfoes i’r 9 oriel sy’n rhan o rwydwaith CELF drwy Gymru – fe gyrhaeddais yn Storiel gyda thaenlen wedi’i argraffu o fanylion a delweddau o weithiau celf yng nghasgliad y Llyfrgell oedd o ddiddordeb i Esther, y rhan fwyaf wedi’u cymryd ar fy ffôn (wrth i’r Llyfrgell barhau i ddigido’i chasgliad ar gyfer gwefan CELF).

Yn eu mysg oedd y paentiad Stiwdio gyda Menyg gan Shani Rhys James. Mae’n dangos tu fewn i stiwdio’r artist, byrddau’n blith draphlith o baent a thyrpant, a menyg gwyn ar draws y llaw. Mae menyg yn cynnig atalfa rhag deunydd celf gwenwynig sydd o amgylch yr artist, ond mae’r paentiad hefyd yn dod â’r peryglau seicolegol o greu celf yn amlwg. Mae coch yn dominyddu’r olygfa, gyda thrawiad y brwsh yn gryf a llachar, gan greu ymdeimlad garw yn y paentiad sy’n efelychu wep yr artist sy’n edrych i fyny oddi ar ei gwaith at gefn ei stiwdio blêr. Yn cael ei arddangos yn Uwch Gyntedd y Llyfrgell, byddai ymwelwyr yn cael eu taro gan bortread anferthol, disglair o’r gwagle creadigol wrth iddyn nhw droedio’r neuadd, gyda llygaid yr artist yn eu dilyn.

JAMES, Shani Rhys, Stiwdio gyda Menyg © Shani Rhys James. Cedwir pob hawl. DACS 2025. Fel rhan o arddangosfa Gofod Mewnol, Storiel 2025

Bron i flwyddyn yn union ar ôl fy nhaith i Fangor, byddai Stiwdio gyda Menyg yn troedio’r un llwybr (nid ar drafnidiaeth gyhoeddus y tro hwn!), gan adael ei le yn y Llyfrgell Genedlaethol a theithio i’r gogledd i Storiel i gael eu gynnwys yn yr arddangosfa Gofod Mewnol / Inner Space.

Dau artist sydd wedi bod yn gweithio ac yn byw gyda’i gilydd ers dros 45 mlynedd ydy Shani Rhys James a Stephen West. Mae’r arddangosfa yn dod ynghyd gweithiau gan y ddau artist sy’n darlunio pobl mewn gwahanol lefydd – gwelir yr artist yn y stiwdio a’r gegin ddomestig ym mhaentiadau olew Shani, tra bo darluniau siarcol mawr Stephen yn dangos pobl yn symud drwy ac o fewn strwythurau pensaernïol (rhai adeilad Storiel ei hun o bryd i’w gilydd) ac sy’n perthyn i’w gilydd mewn ffyrdd annhebygol, breuddwydiol. Yn y ddau achos, mae gofod mewnol y ffigyrau yn cael eu cyfleu – rydyn ni’n gorfod dehongli eu meddyliau a’u emosiynau – a’n cysylltu gyda sut maen nhw’n rhyngweithio gyda’u amgylchfyd corfforol. Gwelir perthynas yr artist gyda’i bractis yn y stiwdio, y ffordd mae ffiguray Stephen yn symud I fewn ac allan o ddrysau, trapddorau a ffenestri, gan ymddangos yn dawel weithiau, a weithiau ar ffo.

O un lleoliad – y beudy sydd wedi’i droi’n gartref a'n stiwdio i Shani a Stephen – mae dau arddull gwahanol wedi ymddangos. Wrth i weithiau celf o gasgliadau’r Llyfrgell, Amgueddfa Cymru, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd a MOMA Machynlleth ddod ynghyd ar gyfer yr arddangosfa hon, maen nhw’n cysylltu ac yn cyferbynnu yn oriel Storiel i ddangos mwy am ofodau mewnol y ddau artist, sy’n ymblethu wrth fyw a gweithio gyda’i gilydd, ond sydd hefyd yn wahanol.

Ond sut y cyrhaeddon nhw yno? Rhwng curadur yn holi i gael benthyg darn o gelf a gweld y darn hwnnw mewn arddangosfa, mae sawl cam arall a nifer o bobl yn cyfrannu at gludo’r darn yn ddiogel.

Paratoi gweithiau celf i'w benthyg

Stiwdio gyda Menyg gan Shani Rhys James yn ei grât

Stiwdio gyda Menyg gan Shani Rhys James wedi'i bacio'n barod i deithio

Unwaith i gais am fenthyciad gyrraedd, mae ystod eang o bobl angen ystyried diogelwch anfon un o ddarnau celf neu wrthrych y Llyfrgell i leoliad gwahanol. Fe esboniodd Jaimie Thomas imi, sydd wedi bod yn gweithio fel Swyddog Benthyciadau y Llyfrgell ers 24 mlynedd, bod y swydd yn golygu cynyddu mynediad at, ond hefyd warchod, y casgliad. Byddwn ni o hyd yn benthyg lle bo modd, ond mae angen ystyried unrhyw risg. Er enghraifft, mae’n rhaid i ni feddwl am pa mor bregus yw darn. Os ydy darn heb ei wydro, fel y mae Stiwdio gyda Menyg, mae’n llai diogel wrth fynd i wahanol amgylchfyd; pe byddai’r gwaith ddim mewn ffrâm, neu ar gynheiliad (wyneb) fel canfas defnydd, byddai’n fwy tebygol o gael ei ddifrodi. Mae angen lleihau’r risgiau yma. Yn yr achos hwn, mae’r paentiad ar fwrdd pren a wedi’i fframio, felly fe benderfynodd y tîm cadwraeth y byddai’n ddigon sefydlog i deithio.

Mae hefyd angen adolygu pa mor addas yw'r lleoliad sy’n benthyg y gwaith. Golygir hyn bod angen gwirio data ynghylch tymheredd a lefelau golau a lleithder yr oriel, yn ogystal â diogelwch yr adeilad. Ynghyd â’r orielau CELF eraill, fe gafodd Storiel fuddsoddiad yn ei adeilad er mwyn gallu benthyg gan y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, rhywbeth a wnaed y broses hon yn weddol syml.

I'r gwrthwyneb i'r broses o sicrhau addasrwydd Storiel, roedd paratoi Stiwdio gyda Menyg i gael ei gludo yn dipyn o ymgyrch. O ganlyniad i faint y paentiad, roedd angen benthyg crât arbennig i’w gludo. Cafodd hwn ei addasu gan ein Technegydd Arddangosfeydd oedd wedi ychwanegu cynheiliad bloc er mwyn i’r paentiad ffitio’n daclus a theithio’n llyfn. Unwaith roedden ni wedi tynnu’r paentiad o gael ei arddangos yn y Llyfrgell, roedd angen cyflawni adroddiad cyflwr llawn sy’n cynnwys edrych yn graff ar bob ran o’r darn (gan gynnwys y ffrâm!) a chofnodi’n ofalus unrhyw golledion, rhwnbiad, crafiad, ysgriffiadau, crychu neu graciau. Bydd modd cyfeirio at yr adroddiad hwn wrth i’r paentiad adael a dychwelyd i’r Llyfrgell.

Yn dilyn ei ostwng i’w grât, fe fyddai Stiwdio gyda Menyg yn cael ei ddiogelu a’i lapio i greu microhinsawdd arbennig ar gyfer y gwaith.

Yn barod i’w gludo, cafodd y gwaith ei gadw yn ddiogel tan wythnos cyn agoriad yr arddangosfa. Daeth tîm cludo arbenigol i symud y crât 1990 x 2940 x 195cm (trwm!) drwy’r Llyfrgell ac i mewn i’w fan, a oedd wedi dod yr holl ffordd o Penzance i Aberystwyth, gan gasglu a gollwng gweithiau celf mewn orielau ar hyd y ffordd. Roedd yr elfen yma’n ymddangos yn rhwydd, yn bennaf am fod y tîm mor brofiadol, ac roedd cwestiynau rhesymegol yn codi gennyf o hyd (sut fydd y crât yn ffitio o amgylch y gornel honno? Pwy fydd yn aros gyda’r gweithiau celf eraill yn y fan? Sut sydd orau i symud y crât ar hyd y corridor?), ond roedd y tîm wedi’u datrys ymhell o flaen llaw.

Aeth Studio with Gloves i Fangor y diwrnod canlynol, lle cafodd ei arddangos gan Esther a’r tîm y cyfle i’w osod yn yr arddangosfa newydd, ynghyd â’r gweithiau eraill.

Mae benthyca’r casgliad celf gyfoes cenedlaethol i orielau o fewn rhwydwaith CELF yn rhan hollbwysig o broject CELF. Yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i bobl drwy Gymru gael gweld y casgliad yn y cnawd, gan ddangos y gweithiau hyn mewn gwahanol lefydd, ac ar y cyd â gweithiau celf eraill, yn creu perthynas newydd fydd yn arwain at brofiadau cyfoethocach o’r gwaith.

JAMES, Shani Rhys, Stiwdio gyda Menyg © Shani Rhys James. Cedwir pob hawl. DACS 2025. Fel rhan o arddangosfa Gofod Mewnol, Storiel 2025

Wrth i mi sgwennu’r darn hwn, mae’r paentiad Stiwdio gyda Menyg i'w weld ym mynedfa’r arddangosfa Gofod Mewnol / Inner Space. Wrth symud o amgylch orielau Storiel a gweld y paentiad ar y cyd â’r benthyciadau eraill a gweithiau newydd gan naill Shani a Stephen, mae gennym ni gyfle unigryw i weld y berthynas rhwng dau bractis artistig, a sut maen nhw wedi newid dros amser. Yn y cyd-destun hwn, mae’n bosib i ni gynnig dehongliadau newydd ac ymateb drwy feddwl a theimlo’n ffres ymysg ein gofodau mewnol ein hunain.

Gofod Mewnol, Storiel 2025, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel

Gofod Mewnol, Storiel 2025, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel

Gofod Mewnol, Storiel 2025, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel

Mae modd i chi weld Stiwdio gyda Menyg gan Shani Rhys James yn Gofod Mewnol / Inner Space yn Storiel Bangor tan yr 28ain o Fehefin 2025.


Mae Phoebe Murray-Hobbs yn Swyddog Benthyciadau Cymunedol ar gyfer CELF yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ers mis Mai 2024. Fe astudiodd Ieithoedd Modern cyn cyflawni gradd Meistr yn Hanes Celf yn y Courtauld Insitute yn Llundain, gan ganolbwyntio ar lawysgrifau canoloesol (lle y daeth o hyd i gasgliad y Llyfrgell!). Ar ôl gweithio fel athrawes ysgol gyfun yn Ngogledd Orllewin Llundain fe symudodd i Aberystwyth, lle mae'n mwynhau ymarfer dawnsio Cymreig a Llydaweg.


Share

More like this

Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter