Projectau ac Arddangosfeydd

Mae Dwy yn well nag Un: Eleanor a Sarah - Merched Llangollen

Tina Rogers

3 Medi 2025 | munud i ddarllen

Gellir gwrando ar recordiad o'r erthygl hon wedi'i hadrodd gan yr awdur Tina Rogers ar YouTube.

ROGERS, Tina. Paentiad a Collage o Ferched Llangollen. ‘Mae Dwy yn well nag Un’ © Tina Rogers

Mae pawb sy’n byw yn ardal Llangollen yn gwybod am y Ddwy Ferch oedd yn byw ym Mhlas Newydd – Sarah Ponsonby a’r Fonesig Eleanor Butler.

ROGERS, Tina (1977) Ffotograff o Tina yn 13 mlwydd oed gyda'i chwaer fach Jennie a Nanna Susie

Dechreuodd fy nghysylltiad i â’r merched yma gyda fy Nain o Ogledd Iwerddon a gyrhaeddodd Langollen ym 1947 gan aros yma am weddill ei hoes. Er fy mod i’n byw bum milltir i ffwrdd yn y Waun, yn ystod yr haf bydden i’n gorfod mynd am ‘wyliau (annioddefol) gyda Nanna Susie’.

Mae fy atgofion o’r ymweliadau hynny’n cynnwys tri pheth, arogl sâl-melys treiddiol blodau ‘Lili’r dyffrynnoedd’ a gafodd eu prynu ar ddiwrnod allan yn y Rhyl, y ddol weu ryfeddol oedd yn cuddio’r papur tŷ bach meddyginiaethol yn ei hystafell ymolchi binc llachar, a’n taith ddyddiol i Blas Newydd i dalu teyrnged i’r ‘Ladies’.

Wrth ofyn i Nain pwy oedden nhw, a pham ein bod ni’n gorfod ymweld â’r tŷ o hyd, byddai’n dweud wrtha i i fod yn dawel. Dim ond fel oedolyn y des i i sylweddoli bod fy nain yr un mor anwybodus am y ddwy fenyw yma ag yr oeddwn i, ac mai dim ond rhywbeth i lenwi’r amser oedd yr ymweliadau dyddiol.

Drws Plas Newydd, Plas Newydd House Museum and Tearooms, All You Need to Know Before You Go (2024)

Wedi'i gyrchu: Tachwedd 2024

Grisiau Plas Newydd, Plas Newydd House Museum and Tearooms, All You Need to Know Before You Go (2024)

Wedi'i gyrchu: Tachwedd 2024

Dim ond unwaith yr es i mewn i’w tŷ nhw pan oeddwn i’n blentyn (roedd Nanna’n adnabod y fenyw wrth y drws, ac fe gawsom fynd i mewn am ddim, ond dim ond lawr grisiau), a dw i’n cofio’r papur wal boglynnog tywyll, oedd fel lledr bron, yn y cyntedd a’r grisiau, ac ymwelydd o America yn pigo’r papur yn ofalus fel ‘cofrodd’ .

Hen le tywyll oedd y tu mewn i’r tŷ, sef hollol i’r gwrthwyneb i sut roedd y tu allan iddo, oedd fel stori dylwyth deg gydag awyr las, blodau, a Chôr y Cewri bach. Y tu mewn roedd yn fater gwahanol. Doedd y Tina ddeg oed ddim yn gallu dychmygu pam fyddai unrhyw ‘foneddiges’ yn byw mewn lle mor...dywyll.

ROGERS, Tina, Ffotograff o lyfr Elizabeth Mavor

Y tro cyntaf i fi weld Eleanor a Sarah oedd ar glawr llyfr Elizabeth Mavor (Ffig 5 – mae’r llyfr, a brynais mewn ffair sborion yn y Waun ym 1982, yn dal gen i). Hen lyfr Penguin oedd hwn gyda meingefn oren, gyda’r teitl ‘The Ladies of Llangollen – A Study in Romantic Friendship’, a phaentiad lliw o ddau berson oddi tano. Ar y chwith, gwelwn ochr-olwg o un person (Sarah) yn edrych ar berson arall sy’n eistedd gyferbyn â nhw, ac maen nhw’n edrych i’w chwith (Eleanor). Sylwch nad ydw i’n eu disgrifio nhw fel ‘menywod’ oherwydd mewn gwirionedd, pan oeddwn i’n ddwy ar bymtheg oed, ro’n i’n meddwl mai dau ddyn oedrannus oedden nhw, rhyw bortread cyffredinol o gyfnod y Rhaglywiaeth, ‘unrhyw beth fyddai’n gwneud y tro, cyhyd â’i fod yn edrych yn iawn’ ar gyfer clawr y llyfr.

Hyd at y pwynt hwnnw, ro’n i wedi dychmygu y byddai’r ddwy yn edrych fel Tywysogesau Disney, gyda wigiau gwyn o’r ail ganrif ar bymtheg, a gwisgoedd swmpus, a gwyntyllau. Dwy Sinderela dlws o Langollen, y merched lleol enwog yma na wyddwn i ddim byd amdanyn nhw. Roedd y ddelwedd ddelfrydyddol yma ar fin newid wrth i fi ddechrau darllen llyfr Maver am fywydau’r ddwy fenyw hynod a chymhleth yma.

Amgueddfa Cymru
LEIGHTON, Lady
Richard James LANE
Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru

Mae casgliad helaeth o gelf gan Amgueddfa Cymru, un darn – Eitem rhif NMW A 29669 (Ffig 6) yw lithograff gwreiddiol inc du ar bapur gwyn a gynhyrchwyd gan Richard James Lane o lun a gopïwyd sawl gwaith mewn gwahanol ffurfiau (un o’r rheini yw’r gwaith celf ar glawr llyfr Elizabeth Maver) gan y Fonesig Leighton.1 Cyfaddefodd yn ddiweddarach iddi dynnu’r llun o Sarah ac Eleanor, oedd bellach yn ddall, ‘yn slei’ o dan y bwrdd tra bod ei mam yn tynnu eu sylw heb yn wybod iddynt, gan nad oedden nhw’n hoffi pobl yn tynnu eu lluniau.

Mae’n ymddangos bod y portread gwreiddiol – a gafodd ei dynnu’n gyflym iawn fwy na thebyg ac a oedd ond yn cynnwys pennau a rhan uchaf cyrff y ddwy, heb lawer o fanylion – wedi mynd ar goll dros amser, a chafodd y portread mwy ‘cymhleth’ yma ei roi ar bapur rywbryd yn ddiweddarach, gan y Fonesig Leighton yn ôl pob tebyg.

Yn ystod eu hoes eu hunain, cafodd y Merched eu dathlu mewn ffyrdd masnachol rhyfeddol, o dapestrïau i blatiau. Cafodd y plât yma (Ffigurau 7 ac 8) ei gynhyrchu gan Grochendy Morgannwg rhwng 1815–25 (bu farw Eleanor ym 1829, a Sarah ym 1831), aeth ymlaen i ddod yn un o ddarnau mwyaf enwog a chasgladwy y Crochendy.2

ROGERS, Tina (2017) Y pwll gafodd ei ‘ddwyn’ o Valle Crucis, yng Ngardd y Merched. Plas Newydd. 

LYNCH, James Henry, Portread o'r Arglwyddes Eleanor Butler a Miss Ponsonby 'Merched Llangollen'

Am ba reswm bynnag, penderfynodd Mr Lane ddefnyddio celfwaith addurniedig y Fonesig Leighton o’r ddwy’n ‘eistedd mewn llyfrgell’, creu lithograff ohono, ei argraffu, a’i werthu ym 1830. Nid dyna’r unig lithograff. Defnyddiodd James Henry Lynch bortread y Fonesig Leighton hefyd a’i newid fel bod y ddwy Ferch wedi tyfu coesau ac yn sefyll yn mwynhau eu gardd wrth ymyl y bedyddfaen, y gwnaethon nhw ei ‘gaffael’ o adfeilion Abaty Glyn y Groes (roedd y Merched yn awyddus iawn i ‘ailddefnyddio’ pethau roedden nhw’n ‘dod o hyd’ iddyn nhw), ynghyd â chi anhysbys tebyg i gorfilgi.

Er bod y ddwy’n cadw dyddiaduron, does dim sôn am blatiau, ac ni wnaethon nhw ysgrifennu dim am y ffaith bod eu ffrind y Fonesig Leighton wedi tynnu llun ohonyn nhw’n gyfrinachol, nac ychwaith bod y darluniau wedi cael eu masgynhyrchu a’u gwerthu. Gan wybod am hanes y Merched a’r ffordd y bydden nhw’n ysgrifennu am bob enghraifft o’r pardduo mwyaf dibwys, gellir ond tybio nad oedd ganddyn nhw ddim syniad am y diwydiant cartref a dyfodd o’u henwogrwydd er mwyn i dwristiaid brynu addurnau ohonynt.

Efallai mai’r darn enwocaf o femorabilia o’r ddwy yw’r union lithograff yma, gan fod y ddau bortread arall o Sarah ac Eleanor ond yn honni maen nhw ydyn nhw. Mae’r lithograff yn dal ar gael i’w brynu ar-lein heddiw, ac mae Plas Newydd ei hun yn gwerthu printiau o bortread James Henry Lynch.

Mae lithograff y Fonesig Leighton a Richard Lane yn bwysig, gan fod llawer o ddisgrifiadau ysgrifenedig o’r ddwy pan oedden nhw’n hŷn wedi cael eu nodi, ond dyma’r unig ddarluniad darluniadol ‘gwir’ sydd ohonyn nhw.

Rydyn ni’n gwybod bod y Fonesig Leighton wedi gwneud braslun cyflym o’i ffrindiau, a gallwn dybio y byddai’r braslun yma’n canolbwyntio’n bennaf ar eu hwynebau a’u siapiau ac nid ar fanylion yr amgylchedd o’u cwmpas. Fodd bynnag, roedd y Fonesig Leighton yn ffrind agos a byddai’n ymweld â nhw’n aml, felly gellir tybio hefyd bod y portread yma nid yn unig yn debyg iawn i Sarah ac Eleanor, ond yn ddarlun cywir o’u hamgylchoedd er ei fod wedi’i dynnu o’r cof.

Gadewch i ni astudio’r Lithograff di-liw yma ar bapur – ‘Portread o Ferched Llangollen’ a myfyrio ar y merched anarferol yma.

Eu stori nhw.

Mae’r lluniad ei hun yn gampus iawn gyda llawer o fanylion drwyddo draw. Mae’r ddwy yn eistedd mewn ystafell sy’n edrych fel stydi neu lyfrgell ‘gothig’. Y tu ôl iddyn nhw mae paentiadau a silffoedd o lyfrau clawr caled mewn cypyrddau llyfrau mawr uchder y nenfwd ac alcof siâp meindwr Gothig. Mae hyn yn dangos eu bod nid yn unig mewn sefyllfa ddiogel yn ariannol (y llyfrau, y moethusrwydd) ond eu bod hefyd yn wybodus, ac o hynny, gellir tybio bod y ddwy fenyw yma’n dod o ddosbarthiadau ‘uwch’ mewn cymdeithas.

Maen nhw’n eistedd wrth fwrdd pren mawr wedi’i gerfio’n addurnol (yn debyg iawn i weddill y tŷ. Yr unig gais y byddai’r Merched yn gofyn i’w hymwelwyr ddod fel anrhegion oedd eu hen ddodrefn derw. Bydden nhw yna’n ei dorri a’i ailddefnyddio yn y tŷ. Pedwar postyn gwely wedi’u hailddefnyddio yw’r pyst sydd wedi’u cerfio’n gywrain yn y cyntedd blaen). Yn fersiwn lliw y portread, mae’r waliau a’r gorchudd ar y bwrdd yn lliw glas nefliw. Mae amrywiaeth o bethau diddorol a chyffrous ar y bwrdd.

Urdd St Louis fel y'i gwisgwyd gan Eleanor Butler, Coins la Galerie Numismatique

Wedi'i gyrchu: Tachwedd 2024

Desg ysgrifennu (roedd y ddwy yn llenorion gwych), canhwyllau a lamp olew. Mae pentyrrau o bapur a llyfrau wedi’u gwasgaru ar draws y bwrdd, ynghyd ag amserydd wy (mae’n bosib mai’r Fonesig Leighton ychwanegodd hwn i’n hatgoffa bod eu ‘hamser’ yn dod i ben), a photeli persawr baróc. Yn agos at Eleanor, sy’n gwisgo nifer o fedalau cywrain, mawr a brenhinol eu golwg ar ei brest – un ohonynt yw medal Urdd Sant Louis a roddwyd iddi gan aelod o Deulu Bourbon – mae blwch gwydr sy’n edrych fel bod ganddo ddeg ochr ac, yn y blwch hwnnw, mae mochyn coed a gwrthrych a allai fod yn ffrwyth addurn, gan fod ganddo goesyn, ac ar ben y blwch mae blodau wedi’u sychu. I’r dde o Eleanor mae, o bosib, yr eitem fwyaf diddorol ar y bwrdd, blwch gwydr arall, sydd â siâp bwa ac wedi’i addurno, sy’n cynnwys rhywbeth sy’n edrych fel beddrod gyda rhywun marw yn gorwedd ar ei ben, fel brenin canoloesol. Drws nesaf i hwnnw mae meindwr bach ac addurn o gi bach.

Pan fu farw Sarah, cynhaliodd ei pherthnasau arwerthiant nwyddau dros saith diwrnod ym Mhlas Newydd. Doedd dim byd ar ôl a chafodd popeth ei werthu, o Delesgopau i Draed Teigrod. Cafwyd dim lwc o gwbl wrth geisio olrhain hanes yr eitemau ac i ble’r aethon nhw. Dywedodd menyw sy’n gweithio fel tywysydd ym Mhlas Newydd ar hyn o bryd wrtha i chwe blynedd yn ôl bod dau ymwelydd sy’n gweithio fel tywyswyr yng Nghastell Powys3 wedi gweld y cas gwydr gyda beddrod y tu mewn iddo fel rhan o gasgliad y castell. Yn anffodus, dydw i heb gael atebion i negeseuon e-bost, a dydw i ddim wedi gallu siarad â neb o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol na Chastell Powys i gadarnhau hyn. Cafodd holl eiddo Merched Llangollen eu gwasgaru ledled gwledydd Prydain ac o bosib ymhellach i ffwrdd.

Gall yr holl eitemau yma roi cipolwg i ni ar fywydau’r ddwy, ond prif ffocws y portread yma yw’r Merched eu hunain. Cafodd y ddwy fenyw fach yma, gyda’u cotiau marchogaeth du, gwallt gwyn powdrog byr gẃraidd, a wynebau tebyg i ddoliau Kewpie, eu disgrifio gan yr actor Charles Matthews wrth ysgrifennu at ei wraig ym 1820 tra roedd yn perfformio yng Nghroesoswallt -

‘…Does dim un peth i’w gwahaniaethu oddi wrth ddynion… y gwisgoedd a phowdr yn eu gwallt (a aeth allan o ffasiwn ryw ddeugain mlynedd ynghynt), y sgarffiau sydd wedi’u startsio, y gwisgoedd marchogaeth maen nhw bob amser yn eu gwisgo, hyd yn oed mewn cinio gwadd, ac sydd wedi’u creu yn union fel cotiau dynion, a hetiau befar dynion lliw du arferol’.

Ac ym 1825, ysgrifennodd John Lockhart, ar ôl ymweld â’r ddwy gyda Syr Walter Scott -

‘gwisgoedd marchogaeth trwm lliw glas, esgidiau enfawr a hetiau dynion a’u peisiau wedi’u twcio’n uchel… Roedden ni’n meddwl mai dau hen forwr gwallgo oedden nhw’. 4

Doedd hwn ddim yn ddisgrifiad cwrtais iawn ohonyn nhw dim ond am nad oedden nhw’n gwisgo nac yn ‘ymddwyn’ fel y dylai merched.

Mae’n ymddangos bod y bobl a oedd yn ysgrifennu amdanyn nhw, ac o bosib y bobl a gyfarfu â nhw, ddim yn meddwl amdanyn nhw fel androgenaidd, ond fel ‘gẃraidd’, ac ychydig yn rhyfedd a dyma, yn fy marn i, o le deilliodd, a pharhaodd eu henwogrwydd.

Dwy fenyw yn byw gyda’i gilydd mewn ‘cyfeillgarwch rhamantaidd’5 ar adeg pan nad oedd gan y mwyafrif o bobl unrhyw syniad ei bod yn bosib i fenywod ymwneud yn rhywiol â’i gilydd, ond hefyd yn ymwrthod â’r syniad o fenyweidd-dra, priodas a bod yn fam, a byw drostyn nhw eu hunain heb ddyn, boed hwnnw’n ŵr neu’n aelod o’r teulu.

Er mwyn cael gwell syniad o bwy oedd y merched yma, a pham nid yn unig y daethon nhw i’r gogledd i fyw ond hefyd y ffaith eu bod wedi bod yn enwog yn ystod eu bywydau eu hunain – a chael llu anhygoel o ymwelwyr adnabyddus cyfoes ag amrywiol fel Wordsworth, Byron a Shelley ac arwr y genedl (ar y pryd), Dug Wellington – rhaid i ni edrych ar eu stori, ac mae honno’n deilwng o gyfres deledu nos Sul ar S4C.

Mae'n debyg taw portread o Eleanor Butler yw hwn - ond does dim tystiolaeth gadarn i brofi hynny, Birth of Eleanor Charlotte Butler, Recluse of Llangollen | seamus dubhghaill 

Wedi'i gyrchu: Tachwedd 2024

Ganed Eleanor Charlotte Butler (Ffig 12) yn Iwerddon ym mis Mai 1739 a bu farw yn Llangollen ym mis Mehefin 1829. Roedd hi’n ferch i Walter Butler, 16eg Iarll Ormonde a chafodd ei magu yng nghastell truenus Kilkenny, Iwerddon. Parhaodd y teulu’n Gatholigion pybyr a olygai fod ganddynt y llinach, ond nid yr arian na’r grym a fyddai gan Iarll Protestannaidd oherwydd y cod cosbi.6 Fel Boneddiges, byddai disgwyl i Eleanor fod yn gaseg fagu i aristocrat lleol addas, ac i’w pharatoi ar gyfer hynny, pan oedd tua 14 oed cafodd ei hel i leiandy yn Cambrai, Ffrainc lle roedd gan y Butler-iaid gysylltiadau teuluol. Does dim disgrifiadau o Eleanor yn ystod y cyfnod yma, ac eithrio gan ei modryb sy’n penderfynu peidio â gadael ‘modrwy fach dlws’ i Nelly, gan fod ei bysedd bellach yn ‘rhy dew’. Mae’n ymddangos bod Nelly (Eleanor) yn hapus yn y lleiandy, oherwydd am weddill ei hoes, byddai’n rhegi, yn canu ac yn llawenhau yn Ffrangeg. Mae bwlch yn ei hanes rhwng pan oedd yn 14 oed, nes y gwyddom ei bod wedi dod yn ôl i Iwerddon ar gyfer priodas ei brawd ym 1768 pan oedd yn 29 oed.

Roedd Eleanor wedi cael addysg ond roedd yn ddibriod, yn ferchetan, ac felly yn faich ar ei theulu.

Tua’r adeg yma y cyfarfu Eleanor â Sarah am y tro cyntaf.

Mae Elizabeth Mavor yn awgrymu taw portread o Sarah Ponsonby ifanc yw hwn, ond eto does dim prawf o hynny.

Mavor, Elizabeth, The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship, Gwasg Moonrise 2011

Ganed Sarah Ponsonby yn Iwerddon hefyd, tuag ugain milltir i ffwrdd o Gastell Kilkenny yn Woodstock i arian Protestannaidd newydd ym 1755. Roedd hi’n blentyn i ail briodas ei thad. Erbyn iddi fod yn dair ar ddeg oed roedd Sarah yn blentyn amddifad ac mewn angen. Anfonwyd hi i fyw at gefnder ei thad, Syr William Fownes a’i wraig, y Fonesig Betty, ac yn fuan wedyn fe’i hanfonwyd i ysgol breswyl yn Kilkenny. Er bod crefyddau’r ddau deulu’n rhai gwrthgyferbyniol, mae’n ymddangos bod y teulu Fownes wedi cysylltu â theulu’r Butler, yn gwybod eu bod yn byw’n agos, i ‘gadw llygad’ ar Sarah. Arweiniodd hyn at Sarah, oedd yn dair ar ddeg oed, i gwrdd ag Eleanor, oedd yn naw ar hugain oed.

Roedd gan Eleanor ddwy chwaer hŷn, y ddwy wedi priodi, ac nawr roedd ei brawd John wedi cefnu ar y ffydd Gatholig i ddod yn Brotestant, ac arweiniodd hyn at briodas fanteisiol iawn ag aeres. Y cyfan oedd ar ôl iddo ei gyflawni oedd rhoi trefn ar ei chwaer ‘anodd’ Eleanor, a oedd yn broblem i’r teulu Butler; merchetan heb ddim awydd priodi, ac yn ‘rhy ddychanol a steil rhy wrywaidd i ddenu dynion’.7

Does dim cofnod o sut na phryd y cyfarfu Sarah ac Eleanor, nac yn wir ar ba ffurf oedd eu cyfeillgarwch. Mae rhai testunau’n awgrymu, gan fod Eleanor mewn Lleiandy yn Ffrainc, mae’n rhaid ei bod wedi dysgu Ffrangeg i Sarah, ond y gwir amdani yw, dydyn ni ddim yn gwybod. Fodd bynnag, un peth sydd nid yn unig yn ddiddorol, ond yn dipyn o syndod a hefyd braidd yn bryderus i fi, yw’r gwahaniaeth oedran rhwng y ddwy.

Does dim un o’r testunau modern, fideos YouTube na phodlediadau rydw i wedi edrych a gwrando arnyn nhw, wedi’u synnu gan hyn nac yn ei gwestiynu. Mae pob un, yn ddieithriad, yn sôn am y gwahaniaeth oedran a’r ‘cyfeillgarwch’ ond nid ydyn nhw’n ei gwestiynu mewn unrhyw ffordd.

Heddiw, yn 2024, pe bai merch tair ar ddeg oed yn treulio’i holl amser gyda menyw naw ar hugain oed, rwy’n siŵr y byddai cwestiynau’n cael eu gofyn, a byddai eu perthynas o dan y lach i sicrhau nad oedd ‘perthynas amhriodol’8 yn cael ei meithrin.

Caiff Celf a Hanes bob amser eu hystyried a’u hastudio a’u cymharu â sut rydyn ni’n byw nawr. O edrych ar berthynas Eleanor a Sarah yn 2024, ar ôl ymgyrch ‘#Metoo’ a llawer o achosion o gam-drin sydd wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, rydyn ni bellach yn llawer mwy ymwybodol o gamdriniaeth rywiol, meithrin perthynas amhriodol, gorfodaeth, ac ati, a’r ffaith bod menywod yr un mor abl i gyflawni’r gweithredoedd hyn â dynion.

Ym 1768 doedd y pethau yma ddim yn bodoli – neu’n hytrach, ROEDDEN nhw’n bodoli, ond doedd dim enw ar eu cyfer nhw. Gallai dyn guro ei wraig cyn belled nad oedd y ffon yn dewach na’i fawd, fe allech chi briodi’n gyfreithlon yn 12 oed, ac er bod tystiolaeth yn awgrymu bod y Frenhines Anne yn cael perthynas â Sarah, Duges Marlborough ym 1711, mae’n ymddangos nad oedd y fath beth â lesbiaeth yn y 1700au.

Gallai perthynas Sarah ac Eleanor fod wedi bod yn gwbl ddiniwed, neu’n rhywbeth llawer mwy llechwraidd, fyddwn ni byth yn gwybod.

Gadawodd Sarah yr ysgol yn ddeunaw oed, a symudodd yn ôl i fyw gyda’r Fonesig Betty a’i gŵr Syr William, tra bod Eleanor yn parhau i fyw gyda’i theulu yn y castell. Yn ystod y blynyddoedd ‘coll’ hynny, does dim llawer o sôn am y naill na’r llall o’n Merched mewn gwirionedd. Fodd bynnag, yn ddiweddarach, cawn wybod gan eu ffrind Mrs Goddard, nad yw Sally a Nelly (Sarah ac Eleanor) byth yn colli cysylltiad, a dweud y gwir mae’n ymddangos bod eu perthynas yn dwysáu yn enwedig drwy lythyrau.

Mae’r pum mlynedd o heddwch yn cael eu troi wyneb i waered pan fydd Syr William yn penderfynu ei bod hi’n bryd disodli’r Fonesig Betty am rywun llawer iau a mwy ffrwythlon. Doedd ganddo ddim mab i drosglwyddo’r teitl iddo, a buan y trodd llygad William at Sarah, ei ddibynnydd, oedd bellach yn 23 oed.

O lythyrau a gafodd eu cadw gan nith Sarah mae’n ymddangos bod Syr William wedi ei gwneud yn glir i Sarah yr hoffai nid yn unig ei phriodi, ond ei chael yn feichiog, gan fod y Fonesig Betty yn rhy hen i roi etifedd gwrywaidd iddo a’i fod yn meddwl ei fod yn dal yn eithaf atyniadol. Eto, fyddwn ni byth yn gwybod beth ddigwyddodd mewn gwirionedd, ond mae’r ffaith i Sarah ysgrifennu at Syr William tra ei bod yn byw yn yr un tŷ ag ef, yn mynnu ei fod yn cysylltu â hi drwy lythyr yn unig (doedd hi ddim am fynd yn agos ato), ac i ddweud wrthi os y dylai fynd o’r tŷ. A oedd Syr William yn aflonyddu’n rhywiol neu’n cam-drin Sarah?

Wrth ysgrifennu at ei ffrind Mrs Goddard -

‘Mae’r Fonesig Betty yn pwyso o ddifri arna i i fod yn gymwynasgar wrtho … (Dw i’n teimlo) ffieidd-dod ac atgasedd ohono’. 9

Pa ran fu’r Fonesig Betty yn ei chwarae yn hyn? Mae gan eiriau wahanol ystyron nawr o gymharu â’r pryd hynny, felly gellir tybio bod ‘cymwynasgar’ yn syml yn golygu ‘byddwch ychydig yn gleniach wrth eich ewythr’ – oni fyddai’r Fonesig Betty yn gweld anesmwythder Sarah? Neu a oedd hi’n troi llygad ddall at ei ymddygiad oherwydd, ym 1778, roedd merched yn ‘eiddo’ i ddynion, yn enwedig os oeddech chi’n ddibynnydd iddo, yn ferch iddo neu’n briod ag e.

Roedd Eleanor hefyd yn cael amser caled. Roedd hi bellach yn 39 oed ac yn ‘rhy ẃraidd’ ac yn rhy hen i ddenu gŵr, roedd ei thad a’i brawd wedi cael digon ohoni, felly mynnodd ei mam ei bod yn mynd i leiandy yn Ffrainc. Ymddengys i Mrs Goddard, cyfaill i’r ddwy ferch, dderbyn llythyr ar nos Wener ym mis Ebrill 1778 oddi wrth y Fonesig Betty -

‘Fy Annwyl Mrs Goddard, ni allaf ddisgrifio ein trallod. Fe neidiodd fy annwyl Sally (Sarah) allan o ffenestr neithiwr ac mae hi wedi mynd...gyda Miss Butler o’r castell’10

Roedd Eleanor a Sarah wedi dianc.11

Wedi’u gwisgo mewn dillad dynion, gyda Sarah yn dal ei chi Frisk, a phistol wedi’i lwytho, aeth y ddwy i Waterford i ddal y cwch i Loegr ac i ryddid. Fe fethon nhw’r cwch, a fore trannoeth daeth y Fonesig Betty a Mrs Goddard o hyd iddyn nhw’n cuddio mewn ysgubor, ac wrth fynd â nhw’n ôl i gartref Sarah, daeth y teulu Butler i’w cwrdd, gan lusgo Eleanor, a oedd yn hollol hysterig, i ffwrdd. Yna cyfaddefodd Sarah eu bod wedi bwriadu gadael ers peth amser a byw gyda’i gilydd.

Roedd Mrs Sarah Tighe, merch y Fonesig Betty (a ddaeth yn ffrind gydol oes i’r Merched), ynghyd â’r Fonesig Betty wrth eu bodd nad oedd unrhyw gamfihafio wedi digwydd gan ei bod yn ymddangos nad oedd ‘Dim dynion ynghlwm â’r peth’.'

Roedd y ffaith y gallai Sarah ac Eleanor fod yn gariadon yn ddiamgyffred iddyn nhw.

Aeth Sarah yn sâl yn sgil yr oerfel, ac nid oedd croeso i Eleanor mwyach yng nghastell y teulu, felly bu’n rhaid iddi aros gyda’i brawd-yng-nghyfraith cyn iddi adael am y lleiandy yn Ffrainc. Mae gohebiaeth rhwng gwahanol aelodau o’r teuluoedd a’i ffrindiau yn dangos bod Sarah wedi gwella’n gyflym ac wedi addo na fyddai’n gadael y Fonesig Betty fyth eto (ond nid yw’n sôn am Syr William). Roedd Eleanor yn mynd yn fwyfwy gwyllt wrth feddwl am gael ei hanfon i Ffrainc.

Cytunodd y teulu Butler i’r ddwy gael un cyfarfod olaf cyn i Eleanor gael ei hanfon i ffwrdd.

Yn ôl pob tebyg, mae’n ymddangos bod teulu Sarah yn hollol ddi-glem am berthynas y merched, ac er eu bod yn meddwl bod Eleanor ychydig yn ‘od’ a gẃraidd, roedd y ffaith bod y ddwy mewn cariad yn rhywbeth amhosib iddyn nhw ei ddirnad. Fodd bynnag, roedd y teulu Butler ychydig yn fwy ymwybodol o’r hyn allai fod yn digwydd rhwng y ddwy, ac mae’n ymddangos fod perthynas y ddwy wedi eu ‘cythryblu’, felly fe wnaethon nhw gynnig ‘telerau gwych’ i Eleanor pe bai’n addo na fyddai’n gweld Sarah byth eto.12

Mae’n eithaf amlwg fod Eleanor – yn debyg iawn i ‘Gentleman Jack’ neu Anne Lister, sef y lesbiad arall ‘adnabyddus’ a gafodd ei dathlu’n ddiweddar – yn driw iddi hi ei hun, ac ni wnaeth hyd yn oed geisio cuddio’r ffaith ei bod yn hoyw, er mawr arswyd ei theulu. Roedden nhw’n gwybod yn iawn pwy a beth oedd hi, a beth oedd yn digwydd, ac roedden nhw’n benderfynol o atal hynny.

Roedd gadael i’r Merched gael un cyfarfod olaf cyn i Eleanor fynd i’r lleiandy’n gamgymeriad, oherwydd roedd y merched wedi gallu llunio cynllun a arweiniodd at ddiflaniad Eleanor unwaith eto. Bythefnos yn ddiweddarach daethpwyd o hyd iddi yn cuddio mewn cwpwrdd yn ystafell wely Sarah. Roedd morwyn y Fonesig Betty, Mary Carryll, wedi bod yn cludo bwyd iddi ac yn cadw eu cyfrinach.

Ysgrifennodd Syr William at Mr Butler yn mynnu ei fod yn ‘taflu ei ferch allan’.13 Ond wnaeth e ddim. Roedd y ddau deulu wedi cyrraedd pen eu tennyn, a gwrthododd Eleanor adael tŷ’r Fonesig Betty.

Yn y pen draw, aeth Mrs Goddard â Sarah i’r naill ochr i siarad â hi’n breifat. Fel y soniwyd eisoes, nid oedd gan y rhan fwyaf o bobl unrhyw syniad am gyfunrywioldeb mewn merched (dim ond mewn dynion), roedd y tu hwnt i’w dealltwriaeth, felly pan ddywedodd Mrs Goddard wrth Sarah fod Eleanor yn ‘anfoesol’ – oedd â’r un ystyr ag sydd ganddo heddiw – yn llwgr – ac y byddai’n difetha ei bywyd fwy neu lai, gallai awgrymu bod hyd yn oed eu ffrind agosaf yn meddwl bod Eleanor yn defnyddio Sarah.

Yn hytrach na ‘chyfeillgarwch rhamantaidd’ a stori garu wych, ai stori yw hon am fenyw oedd ag obsesiwn â menyw arall, ac a fu’n ei pharatoi ers ei phlentyndod, a’i gorfodi i redeg i ffwrdd i wlad wahanol? Menyw a wrthododd yn llwyr â stopio, fyth, nes iddi gael beth roedd hi ei eisiau, sef rheolaeth lwyr dros Sarah?

Er bod Sarah yn ymddangos yn hapus (neu ai rhyddhad oedd hynny?) i fod yn ôl gyda’i theulu doedd Eleanor ddim am adael iddi fynd. Fe redodd hi i ffwrdd o’i chartref teuluol yn y castell (cofiwch ar yr adeg yma roedd Eleanor yn 39 oed, felly nid oedd yn ferch ifanc ddibrofiad), a chuddio yn ystafell wely Sarah.

Ai cariad neu obsesiwn gorfodol oedd hyn?

Mae’n ymddangos i fi na allai Sarah ddianc. Roedd yn ddewis rhwng ei gwarcheidwad Syr William, neu Eleanor, y ddau yn pwyso ar Sarah i blygu i’w hewyllys. A oedd Sarah yn dioddef rhyw fath o syndrom Stockholm14 neu a oedd hi wir mewn cariad gydag Eleanor?

Yn y pen draw, fe ildiodd y teuluoedd, ac er nad oes unrhyw hanes o’r hyn a ddigwyddodd, gallwn ond tybio bod y ddau deulu wedi dod i’r casgliad y byddai’r merched yma’n parhau i ‘ddianc’ gyda’i gilydd hyd nes y bydden nhw’n cael bod gyda’i gilydd. Mae hefyd yn amlwg erbyn hyn bod y ddau deulu’n gwybod bod y ‘cyfeillgarwch rhamantaidd’ yma’n llawer mwy na hynny. O bosib bod hynny i’w weld pan ddaeth coets Butler am 6am i dŷ Sarah i fynd â nhw i’r cei i hwylio am Loegr, gwrthododd eu cyfaill agosaf, Mrs Goddard, a oedd, fe ymddengys, yn gwybod am natur eu perthynas, ac o bosib am ‘obsesiwn’ Eleanor, ffarwelio â’r ddwy.

Gadawodd y merched mewn ‘hwyliau da’ gan fynd â morwyn y Fonesig Betty, Mary Caryll, gyda nhw ac ni ddychwelon nhw i Iwerddon fyth eto.

Chwe wythnos yn ddiweddarach, bu farw Syr William a’r Fonesig Betty, o’r straen fwy na thebyg, tra bu Sarah, Eleanor a’u morwyn, Mary yn mwynhau taith ‘lawen’ o amgylch Cymru yn chwilio am gartref.

Roedd hynny’n dipyn o ddechreuad, ac o edrych eto ar y lithograff, does dim awgrym o sgandal y gorffennol yn y darlun delfrydol yma o ddwy hen foneddiges fach rhyfedd eu golwg.

Dyma stori sydd wedi’i gwasgu gan dreigl amser, yn stori am ddwy fenyw sydd am fod gyda’i gilydd mewn ‘cyfeillgarwch rhamantaidd’, yn dianc yn ddewr fel dwy ‘gyn-’ ffeminydd arwrol (gyda phistol a chi), ac yn byw’n hapus byth wedyn, heb sôn am yr anhrefn a’r marwolaethau y gwnaethon nhw ei adael ar eu hôl.

Paentiad cynnar o Plas Newydd, o bosib fel yr oedd yn edrych pan welodd y Merched yr adeilad am y tro cyntaf. Artist anhysbys.

 Plas Newydd & The Ladies of Llangollen

Y ffotograff cynharaf o Plas Newydd, 1860 Ladies of Llangollen_website | The Ladies of Llangollen 

Cyrchwyd: Tachwedd 2024

Ar ôl teithio ledled Cymru a Lloegr am dros chwe mis, fe ymgartrefodd y ddwy ym Mhlas Newydd15, sef bwthyn â dwy ystafell lawr grisiau a dwy ystafell wely (adeiladwyd yr union lyfrgell yn y lithograff – y bumed ystafell – gan y Merched ym 1778) roedden nhw’n ei rentu ar gyrion Llangollen.

Roedden nhw wedi cael eu dymuniad o’r diwedd, i fod gyda’i gilydd, dim ond un broblem oedd ar ôl – arian. Fel boneddigesau, roedden nhw wedi arfer â byw’n gyfforddus, felly roedd y £200 y flwyddyn i Eleanor gan ei thad, a’r £80 y flwyddyn i Sarah gan Mrs Tighe (merch y Fonesig Betty) yn ‘ddarpariaeth annigonol’16 (Yn 2017, roedd £280 cyfwerth â £28,68917).

Fe dreulion nhw’r hanner can mlynedd nesaf yn ysgrifennu llythyrau at berthnasau, ffrindiau, cyfoedion a hyd yn oed y teulu brenhinol yn gofyn am gymorth ariannol. Yn wir, mae llyfr Elizabeth Mavor,18 ar ôl i’r ddwy symud i Langollen, yn ymwneud yn bennaf â garddio a thrafferthion ariannol y Merched! Mae’n gwbl amlwg bod Sarah ac Eleanor yn disgwyl i’w teuluoedd a’u ffrindiau19 edrych ar eu hôl nhw’n ariannol, oherwydd…wel, yn 2024 mae’n anodd deall pam y byddai’r ddwy fenyw yma’n disgwyl gallu byw’n gefnog dim ond am fod yn…nhw eu hunain.

Dellangelo. Ystafell wely y Merched, Plas Newydd Plas Newydd House Museum and Tearooms - All You Need to Know BEFORE You Go (2024) 

Cyrchwyd: Tachwedd 2024

Rydyn ni wedi gweld y Merched ac yn gwybod am ddechrau eu bywydau gyda’i gilydd. Wnaethon nhw ddim treulio diwrnod ar wahân ar ôl iddyn nhw adael Iwerddon, fe wnaethon nhw barhau i fyw ym Mhlas Newydd, a Mary Caryll oedd eu morwyn nhw wedi hynny. Roedden nhw’n gwneud popeth gyda’i gilydd ac roedden nhw’n rhannu gwely. Roedden nhw’n byw union fel roedden nhw am ei wneud.

Ac mae’r cwestiwn llosg yna’n parhau. Ai nhw oedd un o’r cyplau benywaidd agored cyntaf?

Roedden nhw bob amser yn cyfeirio at ei gilydd fel ‘Fy nghariad’, ‘Fy anwylyd’ ac roedd ganddyn nhw sawl ffrind benywaidd a allai fod wedi bod yn lesbiaid, er enghraifft Anna Seward.20 Mae’r lithograff ei hun yn dangos dau berson cefnog, sy’n gwisgo ac yn edrych fel… dynion, ond wrth gwrs nid yw hynny’n golygu eu bod mewn perthynas, nac yn lesbiaid. Ond roedd eu cyfoedion, a oedd â meddwl mwy agored ac yn gwybod ei bod yn bosib i fenyw fod ag atyniad rhywiol at fenyw arall, fel y teulu Butler, a Mrs Goddard, yn gwybod hynny.

Ym 1790 cafodd darn ei gyhoeddi amdanyn nhw yn y General Evening Post, o dan y teitl ‘Extraordinary Female Affection’ a oedd yn sôn am y ffaith iddyn nhw ddianc o’r Iwerddon, a gwrthod priodi er bod llawer o ddynion wedi cynnig priodi’r ddwy ohonyn nhw, a sut mae Miss Butler, ‘sydd ym mhob ystyr yn (edrych) fel dyn ifanc’21 (mae Mavor yn gwrthddweud hyn ac yn ein hatgoffa bod Eleanor bellach yn fenyw dew ac yn 51 oed), yn gwisgo ac yn edrych fel dyn, ac mae hi yw ‘dyn’ y tŷ sy’n gwneud yr holl bethau ‘gẃraidd’, tra mai Miss Ponsonby yw ‘gwraig y tŷ’.

Ac felly roedd, am y tro cyntaf, yn gwbl agored mewn papur newydd cenedlaethol, gyhoeddiad di-flewyn ar dafod o…Lesbiaeth. Roedd y Merched yn gwpl, Eleanor oedd y ‘dyn’ a Sarah mwy benywaidd oedd ‘y wraig’.

Roedd Eleanor yn gandryll, ac roedd am erlyn y papur, ond cynghorodd eu cyfreithiwr nhw i beidio â mynd ar ei ôl.

Ar ôl ugain mlynedd, a oedd y gath (lesbiaidd) allan o’r cwd i bawb ei gweld?

Yn bersonol, mae gen i deimladau cymysg am gysylltiad y Merched, oherwydd dw i’n credu efallai fod Eleanor wedi gorfodi Sarah i mewn i berthynas. Roedd hi’n ifanc iawn (dim ond 13 oed), yn ddibrofiad ac yn amddifad pan wnaethon nhw gwrdd, ac mae’n ymddangos bod y ffordd roedd Eleanor yn erlid Sarah yn ddiweddarach yn ddi-ildio. Efallai fod Sarah yn teimlo’n lwcus o gael y sylw gan y fenyw hŷn, anarferol, aristocrataidd a phrofiadol yma, a allai fod wedi rhoi’r cariad iddi na chafodd hi cyn hyn, a chariad a allai fod wedi bod ar y dechrau yn fwy o ddefnyddio na chyfeillgarwch.

Ar ôl iddyn nhw ddianc y tro cyntaf, roedd Sarah yn ymddangos yn hapus i fod yn ôl gyda’r Fonesig Betty, er gwaethaf y sylw gan Syr William. A oedd hi’n dweud celwydd? O bosib. Ond mae’r ffaith i Eleanor ‘redeg i ffwrdd’ a chuddio yn ystafell wely Sarah, yn awgrymu gweithred o orfodaeth, nid anobaith. Sut allech chi ddianc rhag rhywun nad oedd yn gadael llonydd i chi ym 1768, pan oedd dynion yn berchen ar fenywod a doedd gorfodaeth ddim yn cael ei chdnabod? Roedd Mrs Goddard i weld yn meddwl bod Sarah yn cael ei defnyddio, a’r ffaith amdani yw na fyddwn byth yn gwybod y gwir.

Arhosodd Sarah ac Eleanor gyda’i gilydd fel cwpl ‘rhamantaidd’ hyd at eu marwolaeth a thu hwnt.

I fi, y ffordd orau o ddisgrifio eu perthynas yw ‘Cwiar’. Mae’r awdur Rupert Thomson yn crynhoi’r disgrifiad yma’n berffaith -

‘Mae Cwiar yn ôl ei ddiffiniad yn golygu beth bynnag sy’n groes i’r arferol, y safonol, yr hyn sy’n dominyddu. Does dim byd penodol y mae’n cyfeirio ato. Mae’n hunaniaeth heb hanfod.           
Mae ‘Cwiar’, felly’n diffinio nid positifrwydd ond y lleoliadol yng nghyd-destun y normadol’.22

Yn y 2000au cynnar, roedd mam un o fy ffrindiau’n gweithio ym Mhlas Newydd, ac wrth sgwrsio â hi yn y tŷ fe soniais i fod y Merched yn hoyw. Aeth hi’n eithaf blin gyda fi, a mynnu NAD oedden nhw’n hoyw, a’u bod nhw’n ddim ond ‘ffrindiau rhamantaidd’. Fe ges i fy synnu gan y ffaith y gallai hi deimlo mor gryf am y peth. Dw i wastad wedi teimlo bod Eleanor yn lesbiad, mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu hynny.

ROGERS, Tina, Plas Newydd, Gorffennaf 2024

Bron i dri chan mlynedd yn ddiweddarach, mae’r ddwy fenyw fach, rhyfedd yr olwg yma yn y Lithograff bellach yn ‘eiconau cwiar’ ac yn ennyn diddordeb ledled y byd. Nhw yw’r prif atyniad i dwristiaid yn Llangollen ac maen nhw’n achosi anghytuno angerddol rhwng ffrindiau o hyd!

Un sylw i gloi. Drwy gydol eu hoes o fod gyda’i gilydd, roedd gan Eleanor a Sarah nifer o gŵn. Ac roedden nhw i gyd â’r un enw.

Sappho.23


 


1 Y Fonesig LEIGHTON, (Ganwyd Mary Parker yn ferch i Thomas Netherton Parker, Sweeney Hall, Croesoswallt, a daeth yn Fonesig Leighton ar ôl iddi briodi Syr Baldwin Leighton, 7fed barwnig, o Loton, Swydd Amwythig.) Richard James Lane (Ganwyd yng Nghastell Berkeley, Swydd Gaerloyw, i deulu artistig. Roedd ei fam yn nith i Thomas Gainsborough a'i dad yn brebendwr i Gadeirlan Henffordd. Yn un ar bymtheg oed, daeth yn brentis i’r ysgythrwr llinell Charles Heath. Bu Richard yn ysgythrwr am nifer o flynyddoedd cyn troi ei sylw at y dull lithograffig o greu printiau. Fe arddangosodd ei waith am y tro cyntaf yn yr Academi Frenhinol ym 1824, a cafodd ei ethol yn ysgythrwr cyswllt dair blynedd yn ddiweddarach. Roedd yn arbenigo mewn portreadau; cynhyrchodd gannoedd o bortreadau o aelodau brenhinol, actorion, artistiaid ac aelodau nodedig eraill o'r gymdeithas. Cafodd ei benodi’n lithograffydd brenhinol gan y Frenhines Fictoria ym 1837.) Merched Llangollen - Casgliadau Ar-lein.               
2 Mae plât glas o’r enw ‘Merched Llangollen’ yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, yn cynnwys delwedd o ddwy fenyw ar gefn ceffyl wedi’u gosod mewn tirwedd Merched Llangollen: Stori ar Blât               
3 Castell a Gardd Powys | Cymru | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol               
4 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Moonrise Press 2011 Page 198               
5 What is romantic friendship? - New Statesman               
6 I gael rhagor o wybodaeth am y gyfraith yma, edrychwch ar y wefan: Anti-Catholic Penal Laws In Ireland - Irish History               
7 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Moonrise Press 2011 Page 19               
8 Beth yw meithrin perthynas amhriodol?Mae meithrin perthynas amhriodol (‘grooming’ yn Saesneg) yn broses sy'n “cynnwys y troseddwr yn meithrin perthynas gyda phlentyn, ac weithiau gyda theulu’r plentyn, gan ennill eu hymddiriedaeth a bod â safle o bŵer dros y plentyn, er mwyn paratoi i’w cam-drin.” (Canolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP), 2022). Gall meithrin perthynas amhriodol ddigwydd yn unrhyw le, gan gynnwys: ar-lein, mewn sefydliadau,, mewn llefydd cyhoeddus (meithrin perthynas amhriodol ar stryd (‘street grooming’ yn Saesneg)) (McAlinden, 2012). Gall plant a phobl ifanc gael eu paratoi ar gyfer perthynas amhriodol gan ddieithryn neu rywun maen nhw’n ei adnabod – fel aelod o’r teulu, ffrind neu weithiwr proffesiynol. Gall y bwlch oedran rhwng plentyn a’r un sy’n meithrin y berthynas amhriodol fod yn gymharol fach (NSPCC ac O2, 2016). Gall technegau meithrin perthynas amhriodol gael eu defnyddio i baratoi plant ar gyfer camdriniaeth rywiol a chamfanteisio rhywiol, radicaleiddio (Adran Addysg Lloegr (DfE), 2017) neu gamfanteisio troseddol (Comisiynydd Plant, 2019). Grooming: recognising the signs | NSPCC Learning               
9 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Gwasg Moonrise 2011 Tudalen 23               
10 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Gwasg Moonrise 2011 Tudalen 25               
11 Yn y 1700au roedd dianc yn golygu hynny’n llythrennol yn hytrach na dianc gyda’i gilydd i briodi.              
12 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Gwasg Moonrise 2011 Tudalen 33               
13 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Gwasg Moonrise 2011 Tudalen 32               
14 Stockholm syndrome | Definition, Examples, & Facts | Britannica               
15 Enw gwreiddiol y tŷ oedd Pen y Maes, ond fe newidiodd y ddwy yr enw i Blas Newydd.              
16 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Gwasg Moonrise 2011 Tudalen 45               
17 Currency converter: 1270–2017               
18 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Gwasg Moonrise 2011               
19 Fe wnaethon nhw gwympo allan dros fenthyg £50 gyda’u ffrindiau agosaf, y Barratts, gan eu galw’n ‘dwyllodrus’, a wnaethon nhw fyth siarad â nhw eto!  (Mavor, Elizabeth, The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Gwasg Moonrise 2011)               
20 Anna Seward - Poet, Letters, Queer Studies | Britannica               
21 Mavor, Elizabeth The Ladies of Llangollen – A Study of Romantic friendship’ Gwasg Moonrise 2011 Tudalen 75               
22 Queer theory and Rupert Thomson’s 'Never Anyone But You' | learn1               
23 Sappho: Life, Major Works, & Accomplishments of the Archaic Greek Poet - World History Edu Roedd Sappho o Ynys Lesbos yn adnabyddus am ei cherddi serch i ferched. 

Share

More like this

Grisaille I-III
Charlotte Grayland
Mam a'i phlentyn, a cherddi eraill
Tracey McMaster, cyfieithiadau gan Iestyn Tyne
Amser yw Arian
Anne Brierley, cyfieithiad gan Iestyn Tyne
The Waning
Rachel Helena Walsh
Teimlo
Efa Blosse-Mason a Karina Geddes
Wrth Ymyl y ffin
Paul Eastwood
Saunders Lewis
Paul Eastwood ac Owain Lewis
Croen Siwgr
Jasmine Violet
Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Mapiau, celf, a dadgoloneiddio
Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter
Menywod yng Nghelf Gyfoes
Amgueddfa Cymru - Museum Wales
Cymru a Chymreictod
Amgueddfa Cymru