Mae Internet Fatigue yn driawd o Aberystwyth sy'n cyfuno genres wrth greu sain sy'n dod â threfniannau acwstig, curiadau electroneg a barddoniaeth lafar ynghyd. Yma maen nhw'n trafod y profiad o gyfansoddi Heuldro’r Haf, gyda Holy Chords, wrth ymateb i driptych Mary Lloyd Jones, Bryn Celli Ddu.

“Fe wnaethon ni fwynhau cael ein tywys o gwmpas casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol gan Phoebe Murray-Hobbs (diolch, Phoebe!). Fe welson ni gymaint o weithiau celf anhygoel yng nghasgliad y llyfrgell, ac roedd yn cŵl iawn gallu tyrchu y tu ôl i'r llenni. Yr hyn wnaeth ddenu’n sylw yn arbennig oedd triptych 2007 Mary Lloyd Jones, Bryn Celli Ddu. Mae'r paentiadau wedi'u henwi ar ôl y safle claddu Neolithig ar Ynys Môn ac maen nhw’n cyfleu’r safle yn haniaethol. Roedd aim eisoes yn ymwybodol o'r defnydd o'r safle hwn fel man ymgynnull adeg Heuldro'r Haf.
Fe wnaeth aim ychydig o ddarllen am y Bryn Celli Ddu go iawn, a chefndir gwaith Mary yn ei ddarlunio. Rhoddodd hyn werthfawrogiad ychwanegol i ni o'r gwaith a defnydd Mary o goelbren y beirdd a symbolaeth Geltaidd. Cafodd aim eu hysbrydoli gan eu profiad o ymweld ag arddangosfa o waith Mary yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ychydig flynyddoedd yn ôl. Buon nhw hefyd yn darllen mwy am Fryn Celli Ddu mewn llyfrau o'r Llyfrgell Genedlaethol, gan ddilyn ôl troed Mary, gan ei bod hithau wedi gwneud ei gwaith ymchwil ei hun cyn creu'r triptych. Cafodd Mary ysbrydoliaeth gan awduron fel Iolo Morganwg, ac rydyn ni’n cyfeirio ato yn y gân, ynghyd â chwedl Taliesin a'r archdderwydd hynod, Mererid Hopwood.
Mae Harry’n dysgu Cymraeg (ac ymhell o fod yn rhugl!), felly rhoddodd gynnig ar ysgrifennu geiriau Cymraeg. Yr hyn wnaeth ei daro oedd pa mor hen yw safleoedd fel Bryn Celli Ddu, ond pa mor ifanc yw pob un ohonom sy'n dyst iddo neu sy’n ymateb iddo. Mae ei eiriau yn adlewyrchu hyn. Yna ysgrifennodd aim eiriau ychwanegol yn ymateb i eiriau Harry, gan ddefnyddio’u hymchwil i'r themâu yng ngwaith Mary a hanes y safle gwreiddiol.
O hyn fe esblygodd y gerddoriaeth. Ysgrifennodd Harry rhan y gitâr, ychwanegodd James ychydig o fas, a gyda'n gilydd fe wnaethon ni adeiladu'r elfennau electronig yn ddiweddarach yn y gân. Fel arfer dim ond y tri ohonom yw'r band, ond ar gyfer hyn fe wnaethon ni wahodd Amy i chwarae’r acordion, sy'n ymddangos mewn gwahanol ffyrdd yr holl ffordd drwy’r darn ac sy’n helpu i roi mwy o naws acwstig (ac annaearol) iddo na'r rhan fwyaf o'n caneuon. Recordiodd aim hefyd ddarnau o sain (drysau'n agor, rheiliau paentiadau’n llithro) o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol, sy'n ymddangos yn y gân fel elfennau taro. Yn ogystal, mae'r sain "synth" yn nhraean olaf y gân yn deillio o larwm sain gwirioneddol ffiaidd yn un o ddaeargelloedd y Llyfrgell. Mae’r larwm yn helpu i sicrhau nad oes neb yn mynd yn sownd yno heb ocsigen - sy’n cael ei sugno allan o'r ddaeargell i atal tanau!
Yn olaf, fe wnaethom samplu Mary yn siarad am ei gwaith mewn fideo a uwchlwythwyd i YouTube gan Ganolfan Gelfyddydau Canolbarth Cymru. Yn y clip, mae Mary yn siarad am yr hyn a ysbrydolodd ei gwaith, ac roedd hyn yn cyd-fynd â’r lluniadau a'r cerfiadau ar y cerrig ym Mryn Celli Ddu, a phroses y project hwn.
Hoffem ddiolch i:
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn enwedig Phoebe Murray-Hobbs a CELF, am y cyfle hwn;
- Mary Lloyd Jones am barhau i greu celf sy'n ymgysylltu â'r henfyd a’r byd ifanc rydyn ni’n byw ynddo;
- Canolfan Gelfyddydau Canolbarth Cymru am ganiatáu inni samplu eu cyfweliad â Mary;
- Dewiniaeth sonig CRIM yn cymysgu ac yn creu master y trac;
- Cyfraniadau cordiau sanctaidd suol Amy Grandvoinet."
Cafodd y darn hwn ei gomisiynu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle cafodd Internet Fatigue a'r band o Fachynlleth Lo-fi Jones eu gwahodd i archwilio'r casgliad celf a chyfansoddi ymateb i ddarn o waith yn y casgliad.